Yn debyg i lawer o fechgyn ifanc, roedd y bêl gron wedi mynd â bryd Dan Sheehan erbyn iddo ddechrau cerdded. Fodd bynnag, yn wahanol i lawer o’i gyfoedion, cyn bo hir roedd y sgowtiaid pêl-droed yn cadw llygad arno. Felly, er i’w yrfa ddechrau ar strydoedd Abertawe, yn fuan iawn roedd ar y llwybr i fyd pêl-droed proffesiynol. “Roeddwn i wastad wedi breuddwydio am weithio ym maes chwaraeon proffesiynol,” meddai Dan.
Yn dilyn dwy flynedd yn yr academi ieuenctid, cafodd Dan ei ddewis gan reolwr Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, Roberto Martinez, i gael contract proffesiynol un flwyddyn. “Roedd yn wych bod yng nghwmni pêl-droedwyr o’r radd flaenaf am flwyddyn gyfan,” meddai Dan. “Roedd yn anhygoel.”
Ar ôl iddo orffen ei gontract proffesiynol pan oedd yn 21 oed, aeth ei daith pêl-droed ag ef i Awstralia lle cafodd Dan, o ganlyniad i addysgu a hyfforddi yn Abertawe, gyfle i chwarae’n lled-broffesiynol i Moreland FC.
Mae Dan yn ôl yn Abertawe bellach ac mae’n un o ysgolheigion chwaraeon mwyaf gwerthfawr y Brifysgol. Ar hyn o bryd, mae ef yn nhrydedd flwyddyn gradd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn y Brifysgol ac mae wedi sefydlu ei hun fel un o arweinwyr Academi Pêl-droed Prifysgol Abertawe. “Rwyf am barhau yn fy rôl bresennol am weddill fy mywyd,” meddai. “Mae’n rhoi cyfle i mi ddefnyddio’r sgiliau rwy’n eu dysgu ar fy nghwrs gradd.
“Roedd fy ysgoloriaeth yn ffactor enfawr wrth benderfynu dod i’r Brifysgol,” meddai Dan am ei ysgoloriaeth chwaraeon. “Gan fod gennyf ymrwymiadau chwaraeon sy’n gallu gwrthdaro â’m hastudiaethau, mae’n lleihau’r pwysau ac yn caniatáu i mi ganolbwyntio ar fy mlaenoriaethau. Mae’r cyfle i barcio a defnyddio’r cyfleusterau ar y ddau gampws yn help mawr wrth i mi weithio ac ymarfer.”
Mae Dan wedi bod yn awyddus i rannu ei brofiad o ddechrau yn y Brifysgol fel myfyriwr hŷn. “Mae pêl-droed wedi rhoi cyfle i mi feithrin cysylltiadau agosach â phobl yn y Brifysgol, gan fy helpu’n fawr i integreiddio. Rwy’n gwybod ei bod hi’n ystrydeb ond roedd y gamp yn dir cyffredin, ac rwyf wedi gwneud ffrindiau am oes.”
Yn ei rôl fel hyfforddwr, bydd Dan yn siŵr o fod yn flaenllaw wrth ddatblygu rhai o sêr chwaraeon y dyfodol. Mae’n fraint gan Brifysgol Abertawe chwarae rhan fach wrth helpu Dan ar ei lwybr i lwyddiant.
Mwy o wybodaeth am Ysgoloriaethau Chwaraeon Prifysgol Abertawe