O ganlyniad i'w dalent anhygoel ar y maes rygbi, enillodd Harri Doel, a aned yn Llanymddyfri, ysgoloriaeth chwaraeon i'r Brifysgol, lle mae'n astudio mathemateg. Mae ei ddoniau rygbi’n golygu y gallai chwarae ar lefel uchaf rygbi Cymru yn y dyfodol.
Mae Harri wedi bod yn chwarae i'w dîm lleol, ‘Porthmyn Llanymddyfri’, ers ei amser yn yr ysgol ac mae ef bellach yn cyrraedd ei bumed flwyddyn yn olynol yn Academi'r Scarlets, ar ôl dechrau nifer o gemau i'r tîm ‘A’ a chael ei ddewis yng ngharfan Cymru dan 20 oed ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Meddai Harri: “Rwy'n mwynhau chwarae rygbi, dyna i gyd. Dechreuais chwarae pan roeddwn yn saith oed – fy atgof chwaraeon cyntaf yw chwarae rygbi tag ar y maes yn stadiwm y Scarlets, Parc y Strade – ac rwyf wedi mynd o nerth i nerth ers hynny.
“Mae ysgoloriaeth chwaraeon Prifysgol Abertawe wedi bod o gymorth mawr i mi. Rwy'n ymarfer bob dydd gyda'r Scarlets ac yn treulio oddeutu 17 o oriau mewn darlithoedd bob wythnos. Mae'r ysgoloriaeth yn fy helpu gyda gwaith ac ymarfer ac yn sicrhau y gallaf reoli'r ddau beth yn effeithiol. Mae'r cyfleusterau sydd ar gael i mi ar y ddau gampws yn gwneud pethau'n haws o lawer.”
Mae Harri wedi bod yn rhan o nifer o lwyddiannau gan dîm y Brifysgol yn y gynghrair ac mae wedi cymryd rhan yn Varsity Cymru, y digwyddiad blynyddol enwog.
Yn ôl Harri, mae rygbi wedi bod yn rhan o'i fywyd erioed, gydag aelodau o'i deulu agos yn rhannu ei frwdfrydedd dros y gamp, ac mae'n cyfaddef bod rygbi'n ei helpu'n feddyliol, gan ei annog i ganolbwyntio a pharhau i fod yn frwdfrydig.
Mae talent Harri wedi rhoi cyfle iddo gymryd rhan mewn llawer o gemau mawr dros garfan dan 18 oed Cymru, gan gynnwys taith i Dde Affrica, lle gwnaeth Cymru ennill yn erbyn Lloegr a methu o drwch blewyn â threchu'r Sbringbocs. Dewiswyd Harri ar gyfer ychydig o gemau dros Gymru dan 19 oed ac roedd yn y tîm a sicrhaodd fuddugoliaeth yn erbyn Japan.
Mae doniau Harri yn awgrymu bod gyrfa rygbi addawol iawn o'i flaen yng Nghymru ac mae'n fraint i ni ei gefnogi ar ei daith fel un o ysgolheigion Prifysgol Abertawe.