Daeth John Fulton i Abertawe ym 1947, gan ddilyn C A Edwards fel Pennaeth. Ar ôl cael ei addysgu yn Balliol, un o golegau mwyaf ysgolheigaidd Rhydychen, treuliai Fulton flynyddoedd y rhyfel yng nghoridorau grym, lle daeth yn ffrindiau â phobl fel William Beveridge a Harold Wilson. Rhwng 1947 a 1959, gwnaeth Fulton helpu i newid hanfod Prifysgol Abertawe. Roedd am fabwysiadu ymagwedd ryddfrydol at addysg uwch, gan ailwampio'r cwricwlwm o ganlyniad i'w syniadau. Hefyd, rhoddodd gynlluniau ar waith i weddnewid bywyd campws y Coleg, gan gynnwys estyniad anferth i safle Parc Singleton, ac adeiladu adeiladau academaidd, tyrau neuaddau preswyl, a Thŷ'r Coleg – a gafodd ei ailenwi'n Dŷ Fulton pan fu farw ym 1986. Gadawodd Fulton Abertawe i fod yn Is-ganghellor arloesol Prifysgol Sussex. Cafodd ei urddo'n farchog yn ddiweddarach ac yna'n Arglwydd Fulton o Falmer ym 1966.
