1. Sut i ymgeisio
1.1. Bydd y Gystadleuaeth ar agor o 29 Mehefin 2020 – 4 Medi 2020
1.2. Er mwyn enwebu eich atgof, e-bostiwch marketing@abertawe.ac.uk i esbonio pam mae’r lle hwnnw yn bwysig ichi, erbyn 23:59 ar ddydd Gwener Friday 4 Medi.
1.3. Gellir ymgeisio am ddim, a bydd yn rhaid cyflwyno ar-lein drwy e-bostio marketing@abertawe.ac.uk Gellir atodi ceisiadau ar ffurf dogfen Word, ffeil testun plaen neu, fel dewis arall, wedi’u gludo yng nghorff yr e-bost. Cydnabyddir derbyn pob cais trwy e-bost.
1.4. Wrth ymgeisio, yn ogystal â’ch atgof, sicrhewch eich bod yn cynnwys y manylion canlynol yn yr e-bost: enwau’r bobl sy’n gysylltiedig â’r atgof, dyddiad yr atgof, lleoliad yr atgof, eich perthynas â’r Brifysgol (e.e. myfyriwr, staff, cyn-fyfyriwr)
1.5. Mae’r gystadleuaeth ar agor i holl staff (cyn-aelodau a’r rhai presennol), myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe.
1.6. Cyfyngir enwebiadau i un gan bob ymgeisydd.
1.7. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Saesneg neu yn Gymraeg.
1.8. Bydd pawb sy’n ymgeisio yn cael eu beirniadu gan banel mewnol sy’n cynnwys staff Prifysgol Abertawe, a’u hasesu yn erbyn meini prawf penodol.
1.9. Ni fydd y Brifysgol yn derbyn cyfrifoldeb am geisiadau i’r gystadleuaeth sy’n mynd ar goll, sy’n cael eu colli, eu niweidio neu’u gohirio, ni waeth am yr achos, gan gynnwys, er enghraifft, yn sgîl methiant gan yr offer/y rhyngrwyd, camweithio technegol, methiant o unrhyw fath gan system, lloeren, rhwydwaith, gweinydd, caledwedd neu feddalwedd gyfrifiadurol.
1.10. Gellir diwygio’r gystadleuaeth a dod â hi i ben ar unrhyw bryd.
1.11. Mae’r manylion yn gywir adeg eu cyhoeddi.
2. Ceisiadau llwyddiannus
2.1. Gellir dewis uchafswm o 10 enillydd i’w coffáu â Phlac Nefi.
2.2. Cyhoeddir yr enillwyr ar ddydd Gwener 25 Medi, gan osod y placiau cyn gynted â phosib ar ôl y dyddiad hwn. Dangosir y placiau tan ddiwedd 2021, pan fydd dathliadau’r Canmlwyddiant yn dod i ben.
2.3. Gellir symud y placiau ar unrhyw adeg, yn sgîl datblygiadau ar y campws.
2.4. Bydd penderfyniad y panel mewnol yn derfynol, ac ni fydd unrhyw gyfathrebu na dadlau er mwyn trafod eu penderfyniad.
2.5. Rhennir y Placiau Nefi’n gyhoeddus at ddibenion marchnata.
2.6. Mae enillwyr y gystadleuaeth yn cytuno i gyfranogi mewn cyfleoedd marchnata priodol, a rhai yn y cyfryngau.
3. Cyfyngu ar Atebolrwydd
3.1. Cyn belled ag y caniateir gan y gyfraith, ni fydd y Brifysgol dan unrhyw amgylchiadau yn gyfrifol neu’n atebol am wneud iawn i’r ymgeiswyr llwyddiannus, na derbyn atebolrwydd am golled, niwed, anafiad personol neu farwolaeth sy’n digwydd oherwydd y Placiau Nefi, ond bai lle bo’n digwydd yn sgîl esgeulustod gan y Brifysgol. Nid yw’ch hawliau statudol yn cael eu heffeithio.
4. Perchenogaeth Enwebiadau ac Eiddo Deallusol
4.1. Fel creadwr, byddwch yn cadw’r hawlfraint posib ar gyfer eich cais. Mae pob ymgeisydd yn cytuno i roi trwydded ddi-gyfyngedig, fyd-eang i’r Brifysgol er mwyn iddi ddefnyddio’ch stori yn ei chyfanrwydd neu’n rhannol fel y nodir yn 4.2 a 4.3.
4.2. Rydych yn cytuno y gall y Brifysgol ddefnyddio’ch enwebiad ar Blac Nefi yn un o leoliadau enwebedig y Brifysgol er mwyn dathlu’r canmlwyddiant. Rydych yn cytuno y gellir rhannu’r enwebiad yn gyhoeddus, mewn lle cyhoeddus yn adeiladau’r Brifysgol, a gallai gynnwys gwybodaeth bersonol fel enwau a dyddiadau.
4.3. Rydych yn cytuno y gallai’r Brifysgol ddangos eich cais, ond nid yw’n ofynnol iddi wneud hynny, ar ei gwefan neu gyfryngau eraill, rhai rydym yn gwybod amdanynt ar hyn o bryd neu rai a fydd yn cael eu dyfeisio yn y dyfodol, ac yn gysylltiedig â chyhoeddusrwydd ynghylch y gystadleuaeth. Rydych yn cytuno i roi trwydded ddi-alw'n-ôl, ddi-gyfyngedig, fyd-eang i’r Brifysgol ar gyfer cyfnod llawn yr hawliau eiddo deallusol o ran y cais i’r gystadleuaeth, er mwyn defnyddio, arddangos, cyhoeddi, trosglwyddo, copïo, adolygu, diwygio, cadw, ail-ffurfio ac is-drwyddedu’r cais i’r gystadleuaeth at ddibenion o’r fath. Rydych yn cytuno y gall y Brifysgol ddefnyddio’r enwebiad a’r Plac Nefi yn ei chyfathrebu digidol (e.e. gwefan, y cyfryngau cymdeithasol, e-bost) neu ar gyfathrebiadau wedi’u hargraffu (e.e. taflen ar gyfer digwyddiad). Bydd y Brifysgol yn eich cydnabod fel rhoddwr yr enwebiad unrhyw bryd y bydd y Brifysgol yn defnyddio’ch gwaith. Ni fydd y Brifysgol yn ceisio cyhoeddi’ch stori mewn cyfryngau trydydd person (e.e. cylchgrawn, papur newydd neu wefan yn y cyfryngau) heb eich caniatâd.
4.4 Mae enillwyr y gystadleuaeth yn cytuno i gyfranogi mewn cyfleoedd marchnata perthnasol, a rhai yn y cyfryngau.
4.5. Trwy gyflwyno’r enwebiad rydych yn cytuno ac yn gwarantu nad oes dim byd yn eich stori sy’n mynd yn groes i breifatrwydd, hawlfraint na hawliau eiddo deallusol o ran gwaith rhywun arall.
4.6. Rydych yn cytuno na fydd eich cais yn gymwys ar gyfer cael ei ddefnyddio ar Blac Nefi os penderfynir bod unrhyw ran o’ch cais yn mynd yn groes i gymal 4.5.
5. Diogelu Data
5.1. Bydd y Brifysgol yn prosesu’ch gwybodaeth bersonol dim ond fel y nodir ym mholisi preifatrwydd y Brifysgol, a geir yma.
5.2. Mae’r ymgeisydd i’r gystadleuaeth yn gyfrifol am sicrhau bod caniatâd wedi cael ei roi gan rywun arall a enwir yn benodol yn yr enwebiad.
5.3. Ni fydd y Brifysgol yn gyfrifol am geisiadau o unrhyw fath sy’n digwydd oherwydd bod ymgeisydd i’r gystadleuaeth yn methu cael caniatâd gan rywun a enwir yn ei enwebiad
6. Cyffredinol
6.1. Os bydd y Brifysgol yn credu eich bod wedi mynd yn groes i unrhyw un o’r amodau a’r telerau hyn, gallai’r Brifysgol, yn ôl ei disgresiwn ei hun, gadw’r hawl i’ch gwahardd rhag cyfranogi yn y gystadleuaeth.
6.2. Ni fydd y Brifysgol yn gallu rhoi adborth ar yr enwebiadau.
6.3. Gellir diwygio’r amodau a’r telerau hyn gan y Brifysgol ar unrhyw bryd.
6.4. Nid oes dim byd yn yr amodau a’r telerau hyn sy’n gwahardd eich hawliau statudol, nac yn cyfyngu arnynt.
6.5. Rheolir yr amodau a’r telerau hyn gan gyfraith Cymru a Lloegr, ac mae’r pleidiau’n ymostwng i awdurdod di-gyfyngedig llysoedd Lloegr a Chymru.