Cyn-fyfyrwraig Prifysgol Abertawe ac aelod presennol o staff, Deirdre Magoris
Atgof Deirdre
Ces i fy magu ar y ffin rhwng Caint a Sussex a des i i Brifysgol Abertawe ym mis Medi 1982, yn ystod Wythnos y Glas, a oedd yn ddigwyddiad llawer llai nag y mae erbyn hyn. Ymunais i â Chlwb Nofio a Pholo Dŵr y Brifysgol, ac oherwydd bod gen i gymhwyster addysgu nofio, ces i fy ngwahodd i ymuno â'r clwb nofio cysylltiedig yn Abertawe, sef Swansea Dolphins, ac addysgu ar sail wirfoddol.
Roeddwn i'n nofio ac yn chwarae polo dŵr yn gystadleuol i Glwb Nofio'r Brifysgol a Swansea Dolphins. Roedd clwb y Brifysgol yn cystadlu ym mhob cwr o'r DU, gan gynnwys cystadleuaeth cwrs byr ym Mhrifysgol Warwick a digwyddiad cwrs hir ym Mhrifysgol Lerpwl. Fel arfer, roedd digwyddiadau'r Dolphins yn fwy lleol, er i ni ymgymryd â theithiau cyfnewid â chlwb nofio Waterford Crystal yn Iwerddon.
Rwyf wedi meddwl yn aml iawn am yr holl flynyddoedd o'm bywyd a dreuliais i yn y pwll nofio hwn. I mi a llawer o'm ffrindiau a oedd yn fyfyrwyr, roedd ein bywydau'n cylchdroi o amgylch clorin. Gwnes i gwrdd â'm gŵr, Kevin, yn y pwll mewn sesiwn hyfforddiant ar y cyd rhwng y Brifysgol a'r Dolphins – rydyn ni wedi bod yn briod ers mwy na 30 o flynyddoedd ac mae gennym ddau blentyn, Jack a Lucy. Parhaodd ein plant ein perthynas â'r pwll, lle dysgodd y ddau ohonyn nhw sut i nofio gyda chymorth aelodau staff y ganolfan chwaraeon megis Roger Harvey (sydd wedi marw, gwaetha'r modd) a Brian Williamson, sydd i'w weld yng nghampfa'r Brifysgol o hyd.
Mae dod i Brifysgol Abertawe ac ymuno â'r ddau glwb wedi llywio fy mywyd. Roeddwn i'n ysgrifennydd Clwb Nofio a Pholo Dŵr Prifysgol Abertawe (1982-85) ac yn Ysgrifennydd yr Undeb Athletau (1983-84). Rwyf wedi gweithio mewn swyddi amrywiol i Brifysgol Abertawe ers 1996, gan gynnwys yn y Llyfrgell a'r Ysgol Feddygaeth, lle rwy’n gweithio ar hyn o bryd.
Pan fydda i’n clywed am Genhadaeth Ddinesig neu Drydedd Genhadaeth y Brifysgol, rwy'n meddwl am yr hyn roedden ni'n ei wneud yn ôl yn y 1980au. Sefydlwyd y Dolphins gan staff y Brifysgol, i'w plant yn y lle cyntaf, ond aeth y clwb ymlaen i groesawu myfyrwyr ac aelodau o'r gymuned leol a dod â ni at ein gilydd yn wir. Roedd bod yn rhan o Swansea Dolphins yn brofiad unigryw i mi a llawer o bobl eraill pan oedden ni'n fyfyrwyr, gan ein bod ni'n teimlo'n rhan o'r gymuned leol.