Mae Geraint Owen wedi mwynhau gyrfa hir a boddhaus ym Mhrifysgol Abertawe, sy'n pontio rhyw 30 o flynyddoedd. Mae ambell uchafbwynt personol a phroffesiynol yn dod i'r amlwg.
Atgof Geraint
Dechreuais i weithio ym Mhrifysgol Abertawe ym mis Mawrth 1991, pan oeddwn i wedi fy nghyflogi fel Porthor Diogelwch yn Nhŷ Fulton.
Rwyf wedi gweithio fel Porthor Diogelwch ers mwy na 20 mlynedd, lle roeddwn i'n gyfrifol am drefnu a llunio cynlluniau ar gyfer digwyddiadau arbennig. Roedd hyn wedi fy ngalluogi i i weithio gyda chydweithwyr o bob rhan o'r Brifysgol, yn ogystal â chwrdd â rhai o'r ymwelwyr proffil uchaf dros y blynyddoedd.
Cefais fy nyrchafu i swydd Uwch-borthor, ac am y naw mlynedd diwethaf, rwyf wedi bod yn oruchwyliwr yn yr Adran Ddiogelwch.
Ers 15 mlynedd bellach, rwyf wedi bod yn rhan o'r Tîm Ymatebwyr Cyntaf, ac yn fwy diweddar, gwirfoddolais i i hyfforddi a bod yn hyfforddai profion ffitrwydd i fyfyrwyr Parafeddygaeth a'r fyddin ar gyfer y Gwasanaeth Ambiwlans yn ystod pandemig y Coronafeirws.
Yn ogystal â'r uchafbwyntiau gyrfa sydd gennyf diolch i Brifysgol Abertawe, rwyf wedi cael y pleser o weld fy wyres yn graddio ddwywaith o'r Brifysgol.
Rwyf bellach yn fy mlwyddyn derfynol yn gweithio i'r Brifysgol, ond byddaf yn parhau i wirfoddoli fel Hyfforddwr ac Ymatebwr Cyntaf yn y Gymuned gyda'r Gwasanaeth Ambiwlans yn y gymuned.
Mae gen i lawer o atgofion hapus o'r blynyddoedd rwyf wedi eu treulio yn gweithio i Brifysgol Abertawe.