Mae ymchwil yn y celfyddydau a’r dyniaethau wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. O astudio’r Hen Rufain i rôl y cyfryngau digidol mewn bywyd cyfoes, mae ein hymchwil yn mynd i’r afael â’r materion a’r problemau allweddol.
Rydym yn gwbl ymroddedig i ymchwil o safon sy’n arloesol, yn ddeallusol ac sy’n cael effaith ar y byd go iawn hefyd. Yn yr ymarfer Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddar yn 2014, ystyriwyd bod 98% o’n heffaith ymchwil yn flaenllaw yn fyd-eang (4*) neu’n rhyngwladol ragorol (3*).
Mae ein hymchwil yn seiliedig ar bum maes disgyblaethol, fel a ganlyn:
- Addysg
- Saesneg, Ysgrifennu Creadigol ac Ieithyddiaeth Gymhwysol
- Hanes a'r Clasuron
- Ieithoedd Modern a’r Gymraeg
- Gwleidyddiaeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Rhyngwladol
- Cyfryngau, Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus