Croseo
Canolfan ymchwil i lên ac iaith Saesneg Cymru yw CREW. Ymysg y meysydd ymchwil mae cenedlaetholdeb, amlieithrwydd a chyfieithu, llenyddiaeth gymharol, astudiaethau ôl-drefedigaethol, ysgrifennu cwîyr, hanes diwylliannol, llenyddiaeth broletaraidd, astudiaethau anabledd ac astudiaethau canoloesol.
Mae’r gyfres ‘Writing Wales in English’ (a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Cymru) wedi’i golygu yn CREW yn ogystal â'r gyfres o glasuron a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, ‘The Library of Wales’.
Mae CREW yn rhedeg cwrs MA ar Lenyddiaeth Saesneg Cymru, rhaglen PhD ac yn croesawu ceisiadau gan ysgolheigion sydd am ymweld ar gyfnod ymchwil.
Cyfarwyddwyr: Yr Athro Kirsti Bohata a’r Athro Daniel G. Williams
I gadw golwg ar y digwyddiadau sy'n cael eu trefnu gan griw CREW a datblygiadau pellach yn y maes, tanysgrifiwch i'r ebyst grŵp ar JISC Mail: WelshStudies