Mae'r grŵp ymchwil Dadansoddi a Llywodraethu Gwleidyddol (PAG) yn ymdrin â gwleidyddiaeth gymharol, genedlaethol ac is-genedlaethol; astudiaethau polisi, gwleidyddiaeth diriogaethol, gwleidyddiaeth drefol ac ymddygiad gwleidyddol; yn ogystal â damcaniaeth wleidyddol yn ymwneud â theori ac ymarfer democratiaeth.
Mae aelodau'r Grŵp yn ceisio datblygu agendâu ymchwil gwreiddiol wrth astudio llywodraeth, llywodraethu a gwleidyddiaeth gymharol. Rydym yn ceisio arloesi mewn dulliau ymchwil wrth ymgysylltu â blaenoriaethau'r ESRC ar ymchwil meintiol. Mae'r Grŵp hefyd yn ceisio datblygu ymchwil ryngddisgyblaethol wreiddiol ym meysydd dinasyddiaeth, cyfranogiad cymdeithasol a gwleidyddol, y cyfryngau a gwleidyddiaeth, ac astudiaethau ardal.