Mae'r Grŵp Ymchwil Creu a Beirniadu (GYCB) yn trafod y berthynas gyd-ddibynnol rhwng ysgrifennu creadigol a beirniadol.Gall syniadau beirniadol ysgrifenwyr creadigol gweithredol, sy'n deillio o brofiad personol o'r broses ysgrifennu, gael eu colli gan ysgolheigion sydd efallai am sefydlu gwrthrych astudio beirniadol yn eu meysydd. I'r gwrthwyneb, mae'n bosib na fydd cyw ysgrifenwyr yn ymwybodol o syniadau damcaniaethol am ddehongli testunau sy'n seiliedig ar wybodaeth am hanes llenyddol a beirniadaeth ddiwylliannol, er y gall syniadau o'r fath fod yn 'greadigol'. Rydym yn cynnal chwe digwyddiad blynyddol ar ffurfiau hyblyg - grwpiau trafod, seminarau, darlithoedd gwadd, cyflwyniadau, byrddau crwn a chyfweliadau - pan fydd staff academaidd ac ôl-raddedigion yn siarad am eu hymarfer creadigol a beirniadol.
Mae'r grwp creadigol-beirniadol hwn yn fforwm rhyngddisgyblaethol er budd y gymuned ymchwil yng Nghyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol a'r tu hwnt iddi. Cenhadaeth y GYCB yw:
- darparu cartref a ffenestr siop ar gyfer allbynnau sylweddol ysgrifennu creadigol.
- trefnu grwpiau trafod, paneli, darlithoedd gwadd, byrddau crwn, cyflwyniadau a chyfweliadau wedi'u harwain gan ymchwil/ymarfer a fydd yn darparu cydlyniad deallusol i'n cymuned ffyniannus o fyfyrwyr PhD.
- datblygu partneriaethau â diwydiannau creadigol gan gydweithio'n agos â'r Sefydliad Diwylliannol.
- darparu canolbwynt rhyngddisgyblaethol yng Nghyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol (ac, o bosib, rhwng Cyfadrannau) i'r rhai sy'n gweithio ym maes ysgrifennu creadigol (gan gynnwys y cyfryngau), ymarfer creadigol-beirniadol a/neu ymarfer beirniadol.
- mewn partneriaeth â'r Sefydliad Diwylliannol, cefnogi cyfleoedd rhwydweithio a datblygu gyrfa i'r rhai sy'n gweithio mewn meysydd creadigol (staff ac ôl-raddedigion).
- darparu fforwm lle gall y gymuned gynyddol o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig ym maes ysgrifennu creadigol gydweithio â rhwydwaith rhyngddisgyblaethol o staff.
- eirioli dros gyllid i'r celfyddydau.
- gweithio mewn partneriaeth agos â'r Sefydliad Diwylliannol i ddarparu amrywiaeth o ddigwyddiadau ymgysylltu â'r cyhoedd ac allgymorth ar gyfer cynulleidfaoedd targed amrywiol, gan gynnwys y posibilrwydd o gynnwys rhagor o ddigwyddiadau beirniadol-greadigol yn y dyfodol.
Bwrdd Rheoli: Dr Alan Bilton a Dr Richard Robinson (Cyd-drefnwyr), Dr Elaine Canning, yr Athro Kirsti Bohata, yr Athro Julian Preece, Dr Joanna Rydzewska, yr Athro Tudur Hallam a Dr Alexia Bowler.