Mae ein hymchwil yn y dyniaethau digidol yn denu cyllid o bwys gan yr ESRC, yr AHRC, Cymdeithas Ymchwil i’r Dyniaethau Modern a Llywodraeth Cymru. Mae’n cynnwys gwaith cydweithredol gyda llyfrgelloedd ac archifau, elusennau, a llywodraethau Cymru a’r DU. Mae gennym hanes cryf o ddatblygu technegau ymchwil arloesol â chymorth cyfrifiadur a chymwysiadau ar-lein.
Er mwyn datblygu’r dyniaethau digidol, mae ein hymchwilwyr ym meysydd Addysg, Gwleidyddiaeth, Saesneg, Ieithoedd Modern, y Cyfryngau ac Ieithyddiaeth Gymhwysol yn gweithio gydag arbenigwyr yn nhîm dyniaethau digidol GGS y Brifysgol, Cyfrifiadureg, y Gwyddorau Dynol ac Iechyd a’r Gyfraith. Mae hyn wedi cynnwys prosiectau a ariennir yn fewnol gan raglen Cherish-DE y Brifysgol a phenodiad ar y cyd â’r Ffowndri Gyfrifiadol.
Mae ymchwil yn cynnwys ffocws ar ddigideiddio testunau llenyddol; dysgu ieithoedd a chyfieithu â chymorth cyfrifiaduron y cyfryngau digidol a hygyrchedd i gynulleidfaoedd; mynd i’r afael â cham-drin ar y cyfryngau ar-lein; llythrennedd digidol a datblygu cwricwlwm; a llwyfannau digidol a chyfranogiad gwleidyddol. Ym mhopeth a wnawn, rydym yn ceisio grymuso’r unigolyn wrth wireddu potensial technoleg ddigidol.
Mae gan y Coleg ganolfan ymchwil sy’n cynnwys aelodau o bob rhan o’r Brifysgol ar y dyniaethau digidol (CODAH) a sawl grŵp ymchwil sy’n cynnig ymchwil, hyfforddiant a goruchwyliaeth ar faterion sy’n ymwneud â thechnegau a chymwysiadau ymchwil â chymorth cyfrifiadur.