Mae prosiect ymchwil cymharol ERASMUS PLUS yn canolbwyntio ar ysgolion pob oed (a adwaenir hefyd fel ysgolion dilyniannol) mewn tair gwlad wahanol (Cymru, Sbaen a Gwlad yr Iâ). Ei nod yw archwilio cyfraniad addysgeg ac arweinyddiaeth ym mhob lleoliad oedran drwy fabwysiadu safbwynt trawswladol.
Mae gan y wledydd y dewiswyd i’w cymharu â’i gilydd amrywiaeth o ddarpariaeth pob oed, felly, maent yn cynnig sail gyfoethog ar gyfer casglu data empirig a chymharu’r math hwn o addysgu. Nid yw’r llenyddiaeth empirig ryngwladol ynghylch ysgolion pob oed yn helaeth, felly bydd yr ymchwil hon yn cyfrannu’n sylweddol at y sail wybodaeth ac yn ein galluogi i dynnu casgliadau o ran cyfraniad y math hwn o addysgu at ddysgu a lles myfyrwyr.
Nod y prosiect ymchwil hwn yw archwilio tair thema gydberthynol o ran ysgolion pob oed.
- Ymagweddau ac arloesedd addysgegol o ran dysgu ac addysgu;
- Arweinyddiaeth effeithiol ysgolion pob oed, gan gynnwys y strwythurau ac arferion arweinyddiaeth mwyaf effeithiol;
- Effaith lleoliadau pob oed ar iechyd meddwl a lles myfyrwyr
Bydd y prosiect yn casglu tystiolaeth a fydd yn cynnig mewnwelediadau a thystiolaeth empirig sy’n gysylltiedig â’r themâu hyn.
Nod yr ymchwil hon yw darparu tystiolaeth gyfoes am arferion addysgegol ac arweinyddiaeth mewn ysgolion pob oed mewn amrywiaeth o leoliadau, ynghyd ag archwilio i’w cyfraniad at ddysgu a lles myfyrwyr. Bydd y prosiect yn darparu data am y strwythurau arweinyddiaeth mwyaf effeithiol mewn ysgolion pob oed, gan gynnwys tystiolaeth am effaith arferion arweinyddiaeth gwahanol, megis arweinyddiaeth ddosbarthedig ac arweinyddiaeth athrawon. Bydd yn ystyried materion iechyd meddwl a lles myfyrwyr, gan ddarparu mewnwelediadau i’r ffyrdd y cefnogir lles myfyrwyr mewn lleoliadau ysgolion pob oed.
Bydd y prosiect ymchwil hwn yn sicrhau dealltwriaeth well o sut mae addysgu pob oed yn gweithio mewn cyd-destunau gwahanol. Bydd yn ystyried sut mae ysgolion o’r fath yn darparu amgylchedd dysgu cadarnhaol i fyfyrwyr a bydd yn taflu goleuni ar y prosesau addysgegol arloesol sydd ar waith mewn ysgolion o’r fath. Bydd yn archwilio’r berthynas rhwng amgylchedd ysgol bob oed â lles/iechyd meddwl myfyrwyr.
Bydd yr ymchwil hon yn sicrhau y deëllir addysgu pob oed yn well o fewn ac ar draws ffiniau gwahanol a thrwy fabwysiadu safbwynt cymharol, bydd yn caniatáu dealltwriaeth ddyfnach o’r cyfraniad y mae’r math hwn o addysg yn ei wneud i ddarpariaeth pobl ifanc ddawnus sydd wedi’u hymaddasu’n dda. Bydd y prosiect ymchwil hwn yn atgyfnerthu’r sail wybodaeth o ymagweddau at addysgeg ac arweinyddiaeth mewn lleoliadau ysgolion pob oed. Bydd yn darparu tystiolaeth a fydd yn cefnogi athrawon mewn lleoliadau o’r fath i ddatblygu ymagweddau arloesol at addysgu ac arweinyddiaeth.
Gan ystyried y ffaith bod addysg yn cael ei rhyngwladoli mwyfwy, mae astudiaeth gymharol o’r natur a’r cwmpas hwn yn bwysig i lunwyr polisïau mewn gwledydd gwahanol sydd â diddordeb mewn gwella perfformiad addysgol a gwella lles myfyrwyr. Bydd y gwaith ymchwil hwn hefyd yn werthfawr i’r sawl sy’n arwain ysgolion pob oed a’r athrawon sy’n gweithio gyda phobl ifanc mewn lleoliadau pob oed.