Cynhaliwyd yr ymchwil hon ar adeg pan oedd system addysg Cymru'n destun diwygio sylweddol. Roedd dwy nod i'r astudiaeth:
1. Ymgymryd ag ymchwil cychwynnol i'r cwricwlwm newydd wrth iddo gael ei ddatblygu; Bydd hyn yn cynnwys dealltwriaeth a chwestiynau ymchwil newydd a allai gynnig sail i ymchwil bellach, fanylach. Bydd hefyd yn cynnig dealltwriaeth i Lywodraeth Cymru o ran ei ddatblygiad, gan gynnwys yr heriau a'r cyfleoedd anochel a ddaw yn ei sgil.
2. Datblygu gallu yn sefydliadau AU Cymru i gynnal ymchwil i'r cwricwlwm newydd; Bydd hyn yn cynnwys mentora ymchwilwyr llai profiadol ochr yn ochr ag ymchwilwyr profiadol i ddatblygu eu sgiliau ymchwil (e.e. dulliau ac arweinyddiaeth). Bydd hefyd yn helpu i ddatblygu gwybodaeth ac arbenigedd o ran y cwricwlwm newydd mewn adrannau Addysg Gychwynnol i Athrawon, sy'n hanfodol ar gyfer datblygu athrawon newydd a phresennol yng Nghymru.
Trefnwyd yr astudiaeth o amgylch prosiect hyb a phum prosiect partner dan arweiniad ymchwilwyr o'r prifysgolion canlynol yng Nghymru: Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant/Prifysgol Abertawe, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor a Phrifysgol De Cymru.
Dr Helen Lewis oedd arweinydd ymchwil PCDDS, a chwblhaodd y prosiect hwn yn Ysgol Addysg Prifysgol Abertawe. Roedd hyn wedi galluogi peth ymchwil gydweithredol gyda'i chydweithiwr a arhosodd yn PCDDS. Ffocws eu prosiect oedd sut mae Ysgolion Arloesi'n mynd ati i ddatblygu elfennau o Faes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles.