DRAGON-S Team
Tîm DRAGON-S
Prif Ymchwilydd: Yr Athro Nuria Lorenzo-Dus
Prif Ymchwilydd ar gyfer DRAGON-S, DRAGON-S+ a C2CHAT: Yr Athro Nuria Lorenzo-Dus
Mae Nuria yn Athro Ieithyddiaeth ac yn gwneud ymchwil i ddisgwrs digidol. Mae Nuria yn cynnal gwaith dadansoddi meintiol ac ansoddol ar y tactegau cyfathrebu (iaith/gweledol) sy'n cael eu defnyddio er mwyn dylanwadu ar seiberdroseddu. Mae hi'n arbenigo yn y tactegau sy'n cael eu defnyddio i radicaleiddio pobl ar-lein ac i baratoi i bwrpas rhyw ar-lein. Mae gan Nuria ymrwymiad cadarn at roi ymchwil foesegol, arloesol a gweithiadwy at wasanaeth ymdrechion ar y cyd i gadw ein plant yn ddiogel ar-lein. Mae hi wrth ei bodd yn dysgu am ddiwylliannau ac ieithoedd eraill, teithio a gwneud ymarfer corff.
Cyd-ymchwilydd: Dr Adeline Paiement
Cyd-ymchwilydd DRAGON-S: Dr Adeline Paiement
Mae Adeline yn ymchwilydd academaidd gydag arbenigedd mewn Deallusrwydd Artiffisial a gwyddor data, a chefndir mewn ffiseg, cyfrifiadureg a pheirianneg. Yn dilyn cwblhau ei PhD ym maes gweledigaeth gyfrifiadurol a gwaith ôl-ddoethurol mewn dysgu peirianyddol, roedd yn ddarlithydd ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe am ychydig o flynyddoedd, cyn dychwelyd i Ffrainc yn 2018 i ymuno â Phrifysgol Toulon. Mae ganddi ddiddordeb penodol mewn ymchwil amlddisgyblaethol a gwella dulliau Deallusrwydd Artiffisial drwy integreiddio gwybodaeth am ei barthau gweithredu (e.e., Ffiseg, neu yma, ieithyddiaeth). Pan na fydd hi wrth ei chyfrifiadur, mae Adeline yn mwynhau darllen a chwarae cerddoriaeth.
Swyddog Rheolwr: Louise Hall
Rheolwr y Prosiect: Louise Hall
Louise yw Rheolwr Prosiect DRAGON-S ac yn y gorffennol, mae wedi arwain prosiectau prifysgol ym maes iechyd byd-eang, gan ganolbwyntio ar anafiadau llosgi, yn ogystal â chyflawni prosiect Ewropeaidd i dyfu microalgâu gan ddefnyddio gwastraff. Mae hi wedi gweithio ym Mhrifysgol Abertawe ers 2013, a chyn hynny, roedd Louise yn rheoli prosiectau mewn sefydliadau datblygu meddalwedd. Astudiodd ieithoedd ym Mhrifysgol Abertawe, Busnes Ewropeaidd ym Mhryste ac mae hi'n gwneud MSc Seicoleg yn rhan-amser ar hyn o bryd. Mae Louise wrth ei bodd yn gwersylla, mynd ar deithiau i'r traeth a chael bore diog yn y gwely pan fydd ei phlant yn caniatáu hynny!
Y Tîm Ymchwil Presennol
Dr Craig Evans: Ymchwilydd Cyswllt mewn Ieithyddiaeth
Dr Craig Evans: Ieithyddiaeth
Prif ffocws ymchwil Craig yw ieithyddiaeth gorpws a dadansoddi disgwrs, ac archwilio ffyrdd arloesol o gyfuno'r ddau. Mae ei ddiddordebau'n cynnwys gwaith disgwrs a pherthynol, iaith dwyn perswâd a'r berthynas rhwng y personol a'r sefydliadol yng nghyd-destunau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae gan Craig ddiddordeb penodol mewn ymchwil â dimensiwn cymhwysol sy'n gallu gwneud gwahaniaeth cadarnhaol, yn enwedig i fywydau grwpiau dan anfantais gymdeithasol ac sy'n agored i niwed. Mae hefyd yn hoffi ffilmiau, siarad am ffilmiau, llenyddiaeth a chomedis.
Ruth Mullineux-Morgan: Polisi Cyhoeddus ac Ieithyddiaeth
Ruth Mullineux-Morgan: Polisi Cyhoeddus ac Ieithyddiaeth
Mae Ruth Mullineux-Morgan yn Ddirprwy Arweinydd yr offeryn DRAGON-Shield ac yn Gyd-ymchwilydd C2CHAT. Mae hi hefyd yn cwblhau ei doethuriaeth mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol ym Mhrifysgol Abertawe, yn ymchwilio i ddisgwrs plant mewn cyd-destunau paratoi i bwrpas rhyw ar-lein. Dros y 15 mlynedd diwethaf, mae hi hefyd wedi bod yn ddeiliad sawl rôl polisi uwch, materion cyhoeddus a chynghori yn sectorau gwleidyddol ac elusennau plant yng Nghymru. Mae ei diddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar archwilio ffyrdd newydd o hyrwyddo hawliau plant a diogelu plant drwy ddadansoddi ieithyddol. Mae Ruth hefyd yn gwnselydd plant gwirfoddol. Yn ei hamser rhydd, mae Ruth fel arfer i'w chanfod yn nofio (yn aml yn y môr), yn ceisio meistroli padlfyrddio wrth sefyll neu'n mwynhau llyfr da gyda phaned o de.
Keighley Perkins: Cynorthwy-ydd Ymchwil
Keighley Perkins
Mae Keighley yn cwblhau ei doethuriaeth mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol ym Mhrifysgol Abertawe, lle mae hi'n gwneud gwaith ymchwil i greu hunaniaeth ymysg grwpiau'r asgell dde ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae Keighley wedi cefnogi tîm prosiect DRAGON-S gyda gwaith gweinyddu a marchnata'r prosiect, yn ogystal â rhoi cymorth ymchwil ar draws prosiectau DRAGON-S a C2CHAT. Cyn hynny, cwblhaodd MPhil mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol, MA mewn Ieithyddiaeth Fforensig, TAR (PCET) a BA Astudiaethau Saesneg ac Addysg. Mae diddordebau ymchwil Keighley yn cynnwys meta gyfathrebu, disgwrs gwleidyddol, hunaniaeth a'r asgell dde eithafol. Pan na fydd hi'n ymchwilio, mae hi'n mwynhau darllen, crosio, croesbwytho a gemio.
Cyfraniadau at y Tîm Ymchwil:
Rhestr o Gyfranwyr Ymchwil
Gwyddorau Cymdeithasol
- Dr Craig Evans
- Tesni Galvin
- Nuria Lorenzo-Dus
- Rosie Marsh-Rossney
- Ruth Mullineux Morgan – DRAGON-Shield Deputy lead
- Keighley Perkins
- Dr Chedza Simon
- Connor Rees
- Leonie Themelidis
- Sarah Williams
Cyfrifiadureg
- Peter Daish
- James Ennin
- Dr Arron Lacey - DRAGON-Spotter Deputy lead
- Dr Nicholas Micallef
- Dr Jay Morgan
- Dr Adeline Paiement
- Dr Deepak Sahoo
- Dr Manon Scholivet
Technical Contributions
Technical Contributors
Technical Contributors:
- Samuel Dobbie
- Amara Finbarrs-Ezema
- Alaric Sheer Hardwick
- Tobias Sheer Hardwick
- Olywatoyosi Oyegoke