Mae ein Huned Asesu’n cynnwys cydweithwyr o feysydd Gwleidyddiaeth, Cysylltiadau Rhyngwladol, Astudiaethau’r Cyfryngau ac Athroniaeth. Mae ehangder yr ymchwil hon wedi hwyluso ffocws ar ymholiad rhyngddisgyblaethol sy’n ymrwymedig i gynhyrchu ymchwil sy’n arwain y byd a rhoi atebion i heriau lleol yn ogystal â heriau i Gymru, y DU a heriau rhyngwladol. Wedi’i chefnogi gan ddau grŵp ymchwil – Grŵp Dadansoddi a Llywodraethu Gwleidyddol (PAG); Astudiaethau, Gwrthdaro a Diogelwch Rhyngwladol (ISCAS) – gellir dosbarthu’n hymchwil yn y meysydd canlynol sy’n cynnwys llawer o groestoriadau, gan greu amgylchedd bywiog ar gyfer ymchwil ryngddisgyblaethol.
