Peirianneg o Safon Fyd-eang
Sefydlwyd Prifysgol Abertawe i gefnogi'r diwydiant gweithgynhyrchu yn ôl ym 1920 ac mae'n parhau i wneud hyn heddiw gan gydweithio â rhai o ddiwydiannau mwyaf y DU i arwain y ffordd ym maes Deunyddiau Uwch a Gweithgynhyrchu. Mae ein canolfannau ymchwil o safon fyd-eang, sydd ymysg y 10 orau yn y DU, yn meddu ar arbenigedd yn y meysydd canlynol: y datblygiadau diweddaraf mewn deunyddiau; cyrydu a chaenau; ynni adnewyddadwy, roboteg ac awtomatiaeth; modelu cyfrifiadol; a'r technegau gweithgynhyrchu diweddaraf. Arweinir ymchwil gan y Coleg Peirianneg, ar ein campws newydd yn y Bae a ddatblygwyd yn sgil buddsoddiad o £450 miliwn. Mae pedwar adeilad wedi'u neilltuo i beirianneg lle ceir cyfarpar ymchwil ac addysgu newydd gwerth £10 miliwn. Yr wybodaeth a'r profiad helaeth hyn sy'n galluogi Prifysgol Abertawe i arwain y ffordd wrth ledaenu ein hymchwil drwy ein haddysgu a'n modiwlau DPP.
Cwrs Byr Caenau Organig
Prifysgol Abertawe / 3 - 6 Tachwedd 2025
Wedi'i gyflwyno gan Dr Christopher Lowe - Rheolwr Ymchwil a Datblygu profiadol sydd wedi ymddeol o Becker Industrial Coatings
Byddwch yn dysgu’r wyddoniaeth y tu ôl i gaenau perfformiad uchel yn y cwrs pedwar diwrnod hwn sydd wedi'i gynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y diwydiannau caenau a deunyddiau. O gemeg sylfaenol a gwyddor polymerau i systemau resin uwch, pigmentau a thechnolegau caledu, mae cyfranogwyr yn datblygu dealltwriaeth ddofn o sut mae caenau'n cael eu llunio, eu gosod a sut maent yn perfformio o dan straen ac amodau amgylcheddol. Gyda ffocws ar ddeunyddiau traddodiadol a chynaliadwy, mae'r cwrs hwn yn rhoi'r wybodaeth i gyfranogwyr i arloesi a datrys heriau caenu yn y byd go iawn.
Diwrnod 1
- Caenau Organig a'u Defnydd
- Hanfodion - Cemeg a Gwyddor Polymerau Sylfaenol
- Cemeg a defnydd Thermoplastigau, Olewau, a resinau alcyd ac epocsi.
|
Diwrnod 2
- Cemeg a defnydd Resinau Polyester gan gynnwys y rhai ar gyfer Gorchuddion Powdr
- Monomerau bio-ffynhonnell
- Resinau Halogenaidd (PVC, PVdF a FEVE)
- Cemeg Pigmentau ar gyfer Paent
|
Diwrnod 3
- Cemeg Caledu â resinau Melamin, resinau Isocyanad, a resinau Acrylig (UV ac EB)
- Sut mae caenau yn glynu wrth swbstradau - Adlyniad
- Sut mae caenau yn ymdopi â straen - priodweddau mecanyddol
- Hindreulio - dirywio o ganlyniad i olau
|
Diwrnod 4
- Hindreulio - Erydu
- Cemeg Caenau mewn dŵr
- Cemeg Toddyddion ac Ychwanegion,
- Fformwleiddiad.
|
Nid oes rhagofynion ar gyfer bod yn rhan o'r cwrs ond dylid cofio mai cwrs 4 diwrnod dwys yw hwn a dylai'r bobl sy'n bresennol allu deall cynnwys gwyddonol.
Pris
£1,250 (ag eithrio. TAW). Mae hyn yn cynnwys 4 diwrnod o hyfforddiant ynghyd ag egwyliau coffi a chinio.
Cysylltwch â David Warren am ragor o wybodaeth: d.j.warren@abertawe.ac.uk +441792 606541