Prentisiaethau Gradd
Mae Prentisiaethau Gradd yn ffordd gyffrous ac arloesol i unigolion ennill gradd tra byddant mewn cyflogaeth, gan gynnig llwybr amgen i addysg uwch i'r rhai sy'n gadael yr ysgol a'r rhai sydd eisoes wedi'u sefydlu yn eu gyrfa.
Gan gyfuno dysgu academaidd traddodiadol â hyfforddiant seiliedig ar waith, mae Prentisiaethau Gradd yn cynnig llwybr at gymhwyster cydnabyddedig a chymhwysedd proffesiynol tra'n galluogi myfyrwyr i roi ar waith y wybodaeth a'r sgiliau a enillwyd i amgylchedd ymarferol y lleoliad gwaith.
Rhaglenni gradd a ariennir yw Prentisiaethau Gradd, sy'n caniatáu i bobl gyflogedig 'Ennill wrth Ddysgu' ac ennill gradd baglor sy'n berthnasol i'r gwaith, tra byddant yn gweithio.
Mae rhaglenni fel arfer yn rhedeg am un diwrnod yr wythnos dros gyfnod o dair blynedd (yn aml yn y prynhawn/gyda’r nos) sy'n gofyn i’r cyflogai gael ei ryddhau o’r gwaith am hanner diwrnod yn unig bob wythnos, gyda myfyrwyr yn treulio 80% o'u hamser ar gyfartaledd gyda’u cyflogwr ac 20% yn gweithio tuag at eu gradd yn y Brifysgol.
Cyrsiau Cyfredol
Ar hyn o bryd mae Prifysgol Abertawe yn cynnig tair Prentisiaeth Gradd:
- BSc Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol (a ddarperir ym Mhrifysgol Abertawe)
- BEng Peirianneg Awyrenegol a Gweithgynhyrchu (a ddarperir drwy ein partner AB Coleg Cambria yng Ngogledd Cymru)
- BEng Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch (a ddarperir drwy ein partner AB Coleg Cambria yng Ngogledd Cymru)
I gael rhagor o fanylion am y rhaglenni hyn, cysylltwch â ni.