Two people at a work place computer

Amdanom ni

Diben ac Amcanion:

  • Rhoi cyngor arbenigol ar berthnasedd rhaglenni addysgu.
  • Cynghori ar feysydd cyfrifiadureg, cynhyrchu meddalwedd a datblygu technoleg ddigidol sy'n berthnasol i dwf diwydiannol, cynhyrchiant a llwyddiant.
  • Nodi arferion diwydiannol gorau sy'n dod i'r amlwg, rolau digidol newydd a'r technolegau diweddaraf.
  • Cynorthwyo wrth sicrhau prosiectau diwydiannol i'w cynnwys yn ein rhaglenni.
  • Noddi gwobrau israddedig ac ôl-raddedig, gan gynnwys dewis enillydd Gwobr Prosiect Panel Cynghori Diwydiannol.

Manteision:

  • Ar gyfer yr Adran: Gwella ansawdd a chwricwlwm y rhaglen, sicrhau cyflogadwyedd graddedigion, ehangu rhwydweithiau diwydiannol, a chynghori ar weithgareddau ymchwil sy'n diwallu anghenion diwydiannol.
  • Ar gyfer Partneriaid Diwydiannol: Codi ymwybyddiaeth o'u gweithgareddau, dylanwadu ar ganlyniadau graddedigion i sicrhau bod myfyrwyr wedi'u harfogi â sgiliau hanfodol, a chael mynediad at gronfa fawr o fyfyrwyr ar gyfer prosiectau.

Aelodau Adrannol

Dr Daniele Cafolla

Darlithydd mewn Roboteg a Deallusrwydd Artiffisial, Computer Science
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Dr Bertie Muller

Uwch-ddarlithydd, Computer Science

Dr Liam O'Reilly

Uwch-ddarlithydd, Computer Science
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Dr Matt Roach

Athro Cyswllt, Computer Science
+44 (0) 1792 606662
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Dr Monika Seisenberger

Athro Cyswllt, Computer Science
+44 (0) 1792 602131
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Yr Athro Xianghua Xie

Athro, Computer Science
+44 (0) 1792 602916
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Yr Athro Jiaxiang Zhang

Athro mewn Deallusrwydd Artiffisial, Computer Science
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Aelodau Diwydiannol

Simon Lewis, Tata Steel, Port Talbot

Ar ôl cwblhau Doethur mewn Peirianneg Deunyddiau, rwyf wedi treulio 26 o flynyddoedd yn gweithio yn y Diwydiant Dur mewn amrywiaeth o rolau gan gynnwys datblygu cynnyrch newydd, dadansoddi busnesau, gwaith technegol mewn maes gwaith, rheoli cynnyrch ac archwilio arwynebau.

Fy rôl ddiweddaraf oedd bod yn rheolwr adran ar gyfer systemau archwilio arwynebau, gan arwain tîm o 5 person i ddatblygu a gwella systemau archwilio gyda chamera.   Mae fy nhîm hefyd yn datblygu systemau rheoli ansawdd ac optimeiddio trwsio deunyddiau.

Mae fy rôl bresennol yn cefnogi proses deunyddiau wedi'u mewnforio wrth i'r gweithfeydd dur symud o'r ffwrneisi chwyth i ffwrneisi arc trydan.

Rwy'n gymrawd IOM3, yn beiriannydd siartredig ac yn rheolwr siartredig. Rwy'n aelod o Banel Diwydiannol Technocamps/y Sefydliad Codio, wedi goruchwylio 3 phrosiect doethurol diwydiannol mewn Gweledigaeth Gyfrifiadurol ac wedi cefnogi'r ganolfan CDT yn rheolaidd wrth ddewis a noddi gweithgareddau'r cwmni. Rwy'n wirfoddolwr CEng/yn aseswr/mentor FIMMM ac yn Swyddog Cyswllt y Cyngor Peirianneg ar gyfer Sefydliad y Peirianwyr Brenhinol.

Jonathan Jones, ITSUS Consulting Ltd.

Mae Jon yn gyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe ac yn Uwch-ymgynghorydd gydag ITSUS, ac yn aelod o'r tîm Arweinyddiaeth Dechnegol.  Cafodd ei PhD o Brifysgol Abertawe mewn Gweledigaeth Gyfrifiadurol a Dysgu Peirianyddol. Ers gweithio ym myd diwydiant, mae wedi adeiladu ar yr wybodaeth a enillodd yn y byd academaidd, gan ei chymhwyso i gynnig atebion dadansoddi data'r byd go iawn, wrth gryfhau ei sgiliau ymchwil presennol. Mae Jon wedi gweithio ar brosiectau ar gyfer amryw o randdeiliaid megis Tier-1 defence primes, Dstl, Lluoedd Arfog y DU, NATO, a rhanddeiliaid rhyngwladol eraill.

Mae'n goruchwylio cyfranogiad academaidd ITSUS, yn gweithredu'n fewnol i ddatblygu portffolio ymchwil a datblygu gallu ITSUS.

Gareth Jenkins, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hyel Dda

Gareth Jenkins yw Pennaeth Gwyddor Data ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, swydd y bu ganddo ers 2021. Mae ganddo 8 mlynedd o brofiad gofal iechyd ac mae'n deall pwysigrwydd gwyddor data yn y byd iechyd. Mae'n angerddol am ddefnyddio gwyddor data yn y GIG er budd y GIG. Arweiniodd yr angerdd hwn ato'n sefydlu'r tîm gwyddor data dynodedig cyntaf mewn Bwrdd Iechyd yng Nghymru. Gan weithio yn y maes digidol a data, mae gan Gareth dros 25 mlynedd o brofiad yn y diwydiant, ar draws sefydliadau'r llywodraeth a'r sector preifat a chyhoeddus. Yn broffesiynol mae wedi bod yn rhan o'r prosiectau TG mwyaf yn y DU. Mae ganddo brofiad o weithio i ddarparwyr TG byd-eang megis CGI, HP ac EDS.

Mae cymwysterau Gareth yn cynnwys MSc mewn Gwyddor Data Iechyd, o Brifysgol Abertawe, a BSc mewn Ffiseg o Goleg Imperial Llundain.

Liam Butler, Dwr Cymru

Fi yw Rheolwr Data a Dadansoddeg Dŵr Cymru, lle rwy'n arwain y tîm Gwyddor Data.  Gyda chefndir cryf mewn gwyddor data a dadansoddeg, mae Liam wedi bod yn allweddol wrth arwain gwneud penderfyniadau ar sail data yn y sefydliad.

Ymunais â Dŵr Cymru ar y rhaglen i raddedigion ar ôl graddio o Brifysgol Abertawe yn 2016. Yn fy rôl bresennol, rwy'n gyfrifol am oruchwylio datblygu, defnyddio a chynnal a chadw atebion dadansoddol sy'n ychwanegu gwerth sylweddol i'r busnes. Rwy'n gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod y mentrau gwyddor data yn cyd-fynd ag amcanion cyffredinol y busnes ac yn diwallu anghenion defnyddwyr.

Diben Dŵr Cymru yw darparu dŵr yfed o safon sy'n werth gwell am arian a gwasanaethau amgylcheddol, er mwyn gwella lles ein cwsmeriaid a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, yn awr ac am genedlaethau i ddod.

Paul Thomas, Cyngor Abertawe

Yn Frocer Rhyngwladol ym marchnad Yswiriant Lloyd's of London o 1986 i 1999 ac roedd yn un o'r broceriaid cyntaf i ymweld â Rwsia ar ôl cwymp yr Undeb Sofietaidd ym 1991.

Gadawodd y Ddinas ym 1999, symudodd i Gymru a throi'n hunangyflogedig cyn ymuno â'r sector cyhoeddus yn 2002. Yn Rheolwr Integreiddio a Phartneriaethau Cymunedol gyda Chyngor Abertawe ar hyn o bryd ac mae'n arweinydd strategol ac yn rheolwr llinell uniongyrchol i swyddogion sy'n gyfrifol am Ddiogelwch Cymunedol a Phartneriaeth Abertawe Mwy Diogel, Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Cydlyniant Cymunedol, Troseddau Casineb, Partneriaeth Prevent a Sianel, Bwrdd CONTEST Rhanbarthol a Gwrthsefyll Eithafiaeth.

Robert Bismuth, Fermat International Inc., Seattle, Washington, UD/Paris Ffainc

Mae Robert yn arloeswr ac yn arweinydd pragmataidd sy'n dod o gefndir technoleg cryf ac mae ganddo gefndir helaeth mewn datblygu busnes technoleg uchel a gweithrediadau busnes. Mae ei brofiad yn cynnwys nifer o segmentau technoleg amrywiol gan gynnwys dylunio meddalwedd, rhwydweithiau a rhyngwynebau i ddefnyddwyr. Mae ganddo hefyd brofiad sylweddol yn y diwydiannau lled-ddargludyddion a nanotechnoleg. Yn ogystal â gwasanaethu mewn swyddi cymrawd technegol a swyddi gweithredol uwch mewn cwmnïau rhyngwladol mawr, mae Robert wedi arwain, ac mewn rhai achosion wedi sefydlu, llawer o gwmnïau technoleg uchel newydd.

Mae ef yn priodoli rhan fawr o'i lwyddiant i'r hyfforddiant cynnar a gafodd fel myfyriwr israddedig ac ôl-raddedig mewn mathemateg bur – disgyblaeth a roddodd feddwl datrys problemau craff iddo ynghyd â dysgu sut i feddwl yn reddfol.

Ar hyn o bryd Robert yw Llywydd a Phrif Swyddog Gweithredol Fermat International Inc, cwmni sydd wedi datblygu eiddo deallusol a chynhyrchion sylweddol sy'n ymwneud â meddalwedd a chaledwedd ar gyfer dadansoddi data mawr perfformiad uchel. Mae ef hefyd yn aelod o fyrddau ac yn gynghorydd strategol i sawl cwmni a sefydliad arall.