Yr athrawon a newidiodd fy mywyd: O Abertawe i Bermuda i'r Aifft ac yn ôl

Er na fyddai'n gwybod hyn, gwnaeth Miss Green, prifathrawes Ysgol Lewis i Ferched yn Ystrad Mynach, roi bywyd Siân James ar drywydd nad oedd hi wedi'i ddychmygu drosti ei hun. Roedd y pennaeth aruthrol wedi nodi dawn Siân am ieithoedd a gorfododd hi i fynd i ddosbarthiadau Lladin hanner ffordd drwy dymor.

Roedd y dosbarth eisoes wedi cwblhau 30 tudalen yn eu gwerslyfrau, ac nid oedd Siân yn gwybod y gwahaniaeth rhwng gorchymyn a berfenw, meddyliodd wrthi ei hun, "Nid yw'r iaith farw hon yn mynd i'm trechu" a gweithiodd yn galed i'w meistroli.

Sian James

O ganlyniad i'r graddau da a gafodd wedyn, enillodd le ym Mhrifysgol Abertawe i astudio Lladin, o 1968 i 1971, lle cyfarfu Siân ag amrywiaeth o ffigyrau dylanwadol gan gynnwys ei thiwtor, Dr Alan Lloyd, sydd bellach yn athro.

Roedd Sian a'i chyd-letywr ar y pryd (sy'n ffrind agos o hyd), Margaret Parry, yn fyfyrwyr eithriadol, yn mynychu pob darlith heb fethu ac yn dod yn Brif Ferch (Siân) ac yn Ysgrifennydd (Margaret) yn Neuadd Beck yn eu blwyddyn fel athrawon dan hyfforddiant.  Fodd bynnag, ni fyddai Siân yn ymwrthod â’r cyfle am ychydig o ddrygioni... a hithau’r unig fyfyriwr i gyrraedd dosbarth ar Cicero un bore Sadwrn pan orchuddiwyd Abertawe gan eira, ac yn gadael nodyn eofn i'r darlithydd absennol ar y bwrdd du, "Roeddem ni yma ond ble'r oeddech chi?";  yn gollwng ei llais wrth gyfieithu un gair yn Horace's Odes na allai ddod o hyd iddo yn y geiriadur, gan obeithio na fyddai'r darlithydd, Gwyn Griffiths, a oedd ag anawsterau clyw, yn sylwi (ni wnaeth sylwi!); ac yn cyflwyno aseiniad â llaw i'r Athro Gould pan oedd ef yn ei byjamas am 9.30am ar fore Sadwrn ar ôl iddi fethu dyddiad cau.

Ar ôl graddio gyda gradd 2:1, aeth Sian ymlaen i fod yn athrawes Lladin, gan addysgu i Safon O a Safon Uwch rhwng 1972 a 1999. Ynghyd â'i gŵr Illian, roedd deuddeng mlynedd olaf ei gyrfa yn Bermuda yn Ysgol Uwchradd Bermuda i Ferched. Tra roedden nhw yno, daethon nhw o hyd i ymgynghorydd ariannol craff a oedd nôl yng Nghaerdydd, a oedd yn gallu helpu'r cwpl i wneud penderfyniadau doeth i sicrhau eu diogelwch ariannol yn y dyfodol.

Ar ôl symud yn ôl i'r Deyrnas Unedig ym 1999 a dychwelyd i Abertawe ar gyfer darlith Cyfeillion y Ganolfan Eifftaidd yn 2002, newidiodd eu bywydau eto er gwell pan wnaethant gwrdd â churadur y Ganolfan Eifftaidd, Dr Ken Griffin.

Rhwng 2003 a 2011, teithiodd Siân ac Illian i'r Aifft ar nifer o deithiau a drefnwyd gan Ken, a daeth Siân yn adnabyddus am gadw cofnodion trylwyr o'r toiledau cyhoeddus mwyaf budr a ddefnyddiwyd ar hyd eu teithiau, yn ogystal â nodiadau taclus am eu canfyddiadau.

Mae Siân ac Illian wedi bod yn gyfeillion cadarn ers hynny ac maent wedi dewis gwneud cyfraniad hael iawn gwerth £100,000 yn eu hewyllys i'r Ganolfan Eifftaidd ac maent yn hapus i'r rhodd gael ei defnyddio pa ffordd bynnag sy'n briodol yn nhyb Ken.

Meddai Siân: "Rydym yn ymddiried yn llwyr yn Ken a byddwn yn gwybod y bydd yn sicrhau bod y rhodd yn cael ei defnyddio'n dda. Ni allwn ei ganmol ef digon, a'r hyn y mae wedi'i wneud i ni ac eraill, drwy ei waith yn y Ganolfan Eifftaidd, yn ogystal â'r cyrsiau ar-lein, a oedd yn fendith lwyr yn ystod Covid."

Meddai Ken: "Mae'n rhodd hynod hael a fydd yn wirioneddol drawsnewidiol i'r Ganolfan Eifftaidd."

Erbyn hyn mae Siân ac Illian wrth eu boddau'n treulio eu hamser yn ymweld â safleoedd hynafol ac yn dysgu am arteffactau a gwybodaeth Eifftaidd mewn amgueddfeydd a darlithoedd.