Pam mae rhoddion mewn ewyllysiau yn bwysig
Ar ôl cael ei sefydlu ym 1920, mae'r Brifysgol bellach yn gweithredu dau gampws mewn dau leoliad trawiadol ym Mharc Singleton a'r Bae, ac mae'n un o ychydig brifysgolion yn y byd sydd â dau leoliad glan môr. Dros y blynyddoedd, mae'r Brifysgol wedi ymdrechu am ragoriaeth, gan fuddsoddi mewn addysgu, ymchwil a chyfleusterau myfyrwyr sydd wedi gwella ein campysau.
Roedd y pandemig yn dangos pam mae cymunedau'n troi at brifysgolion am wybodaeth ac arbenigedd a pham y mae cynaliadwyedd a datblygiad strategol y Brifysgol mor hanfodol. Gall eich cefnogaeth ein helpu i fuddsoddi mewn addysgu, ymchwil a chyfleusterau i fyfyrwyr sy'n gwella ein campysau ac yn darparu profiad dysgu dan arweiniad ymchwil i bawb. Rydym am i'n myfyrwyr fod yn arweinwyr, yn llysgenhadon ac yn gynrychiolwyr ein cymdeithas heddiw ac yn y dyfodol. Pan fyddant yn cyfrannu eu gwybodaeth a'u harbenigedd i helpu'r gymdeithas i fynd i'r afael â heriau, a phan fyddant yn ymgysylltu â'u cymunedau i hyrwyddo nodau a gwerthoedd a rennir, gall y Brifysgol droi'n rhywbeth mwy, yn rhan sylfaenol o ddiwylliant ac ysbryd Abertawe, Cymru a'r byd.
Gall rhodd yn eich ewyllys ein helpu i ganolbwyntio ar les ein pobl a gwella ansawdd eu bywyd a rhagoriaeth wrth addysgu. Gall eich cefnogaeth ein helpu i ysgogi newid, gan gyflawni ymchwil ryngddisgyblaethol i helpu pobl i addasu i newid a gwella bywydau.