Rhodd Gorfforaethol Gyfatebol
Trwy roi trwy gynllun rhoi cyfatebol cwmni, fe allech chi ddyblu gwerth eich rhodd i Abertawe. Cysylltwch â'ch cyflogwr i ddarganfod a yw'n cefnogi rhoi cyfatebol.
Mae cyflogwr y rhoddwr yn ychwanegu at roddion a roddir drwy gynllun rhoi cyfatebol. Cysylltwch â'ch cyflogwr i weld a ydynt yn cefnogi Rhodd Corfforaethol Gyfatebol - maen nhw'n rhoi punt am bob punt weithiau – sy'n cynyddu'r swm y mae'r elusen a ddewiswyd gan y rhoddwr yn ei dderbyn.
Mae manylion am sut mae cynlluniau rhoi cyfatebol yn amrywio o un cwmni i'r llall. Mae rhai cynlluniau'n ychwanegu at roddion gan ganran o'r rhodd wreiddiol. Mae cynlluniau eraill yn cynnig rhoi'r un faint o arian hyd at swm penodol.
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am roi cyfatebol, cysylltwch â giving@swansea.ac.uk
Rhodd Cymorth
Gyda Chymorth Rhodd, mae pob punt a roddwch werth 25c ychwanegol i Brifysgol Abertawe, ac ni fydd hyn yn costio mwy i chi.
Cynllun gan y llywodraeth yw Cymorth Rhodd sy'n galluogi elusennau fel Abertawe i hawlio'r gyfradd treth sylfaenol y mae rhoddwyr eisoes wedi'i thalu ar yr arian y maen nhw'n ei roi yn ôl. Trwy hawlio Cymorth Rhodd, rydym yn cael 25c ychwanegol am bob punt a roddwch.
Mae'n ffordd wych o wneud i'ch rhodd fynd ymhellach – munud yn unig y mae'n ei gymryd i'w drefnu.
Mae'r cynllun yn cynnwys talwyr treth o'r DU yn unig. Os ydych yn byw y tu allan i'r DU, darllenwch ein canllawiau am roi o wlad dramor.
I hawlio Cymorth Rhodd ar eich rhodd, mae angen eich caniatâd arnom
Mae tair ffordd o roi eich caniatâd i ni hawlio Cymorth Rhodd ar eich rhodd:
- Arwyddwch y datganiad Cymorth Rhodd ar y ffurflen rhodd pan fyddwch yn rhoi
- Ffoniwch 01792 604626 i roi eich caniatâd dros y ffôn
Mae Cymorth Rhodd hefyd yn berthnasol i roddwyr gan bensiynwyr neu dalwyr trethi ar y raddfa uwch
Os ydych yn bensiynwr ac yn talu treth ar yr incwm o'ch pensiwn, gallwn hawlio Cymorth Rhodd ar eich rhodd o hyd, cyhyd â'ch bod o leiaf wedi talu treth ar incwm o'r swm rydych eisiau ei roi. Mae'n bosibl y bydd y swm o dreth rydych yn ei dalu wedi lleihau ar ôl i'r lwfansau difidend a chynilion personol newydd gael eu cyflwyno ym mis Ebrill 2016. Os ydych yn credu nad ydych yn talu digon o dreth i dalu am y Cymorth Rhodd hawliadwy ar bob un o'ch rhoddion, cysylltwch â ni i ganslo eich datganiad Cymorth Rhodd.
Ewch i wefan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) i gael rhagor o wybodaeth am faint o dreth y mae angen i chi ei dalu i fod yn gymwys ar gyfer Cymorth Rhodd.
Os ydych yn talu treth incwm ar y gyfradd uwch neu ychwanegol, mae modd i ni hawlio Cymorth Rhodd o hyd ar eich rhodd ar y gyfradd dreth sylfaenol. Fodd bynnag, os ydych eisiau derbyn y gostyngiad ychwanegol yn y dreth sy'n daladwy i chi, rhaid i chi gynnwys eich holl roddion Cymorth Rhodd ar eich ffurflen hunanasesiad dychwelyd treth neu ofyn i HMRC addasu eich côd treth.
Ewch i wefan HMRC i gael rhagor o wybodaeth am drefniadau Cymorth Rhodd ar gyfer y talwyr trethi ar y raddfa uwch.
Cysylltwch â ni os yw eich manylion yn newid!
Cysylltwch â ni os hoffech newid eich enw neu eich cyfeiriad cartref, canslo eich datganiad Rhodd Cymorth neu os nad ydych bellach yn talu digon o dreth i dalu am y Cymorth Rhodd hawliadwy ar eich rhoddion.
Cysylltwch â ni
Rhoddion Treth Effeithlon
Trwy wneud rhai newidiadau bach i'ch ewyllys, gallwch leihau maint yr etifeddiaeth y mae angen ei dalu ar eich ystâd, a helpu i feithrin etifeddiaeth barhaus ar gyfer y can mlynedd nesaf.
Mae'n bosibl y bydd angen talu treth etifeddiaeth ar eich ystâd os yw'n werth fwy na £325,000 pan fyddwch yn marw. Drwy drefnu darpariaethau syml yn eich etifeddiaeth, gellir lleihau swm y dreth etifeddiaeth sy'n daladwy yn eich ewyllys yn sylweddol:
- Mae gan Brifysgol Abertawe statws elusen at holl ddibenion treth y DU. Mae hyn yn golygu bod y cymynroddion a wneir i'r Brifysgol wedi'u heithrio'n llwyr rhag treth etifeddiaeth y DU.
- Yn ogystal, bydd unigolion sy'n cynnwys cymynroddion elusennol sy’n werth o leiaf 10% o'u hystâd trethadwy net yn eu hewyllys yn elwa ar gyfradd o 36% o dreth etifeddiaeth (IHT), sef gostyngiad o 10% ar y gyfradd IHT arferol o 40%. Gwerth net eich ystâd yw cyfanswm yr holl asedau ar ôl tynnu unrhyw ddyledion, rhwymedigaethau, gostyngiadau, eithriadau a gwerth yr ystâd nad yw'n destun treth etifeddiaeth (band dim cyfradd -).
Wrth gynllunio'r holl dreth, mae'n bwysig eich bod yn ystyried eich amgylchiadau chi eich hun ac yn ceisio cyngor o ran sut y bydd y newidiadau hyn yn cael effaith ar eich ystâd. Dylech ymgynghori â chyfreithiwr neu weithiwr proffesiynol ariannol i drafod y broses o strwythuro eich ewyllys er mwyn lleihau baich y dreth ar eich ystâd.
I gael gwybodaeth am roi rhodd yn eich ewyllys, cysylltwch â ni.