Caneuon dros Noddfa
Dewch i brofi noson fythgofiadwy o gerddoriaeth, drama ac awyrgylch hyfryd yn y Cyngerdd Caneuon dros Noddfa — dathliad disglair o obaith a dynoliaeth. Mae'r cyngerdd cyffrous hwn yn dwyn ynghyd gytser disglair o sêr y West End a Broadway, pob un yn canu i gefnogi Rhaglen Noddfa Prifysgol Abertawe, sy'n agor drysau addysg i bobl ifanc sy'n chwilio am loches rhag gwrthdaro.