Gyda'r cyn-fyfyriwr, Dr George Johnson, Athro Cysylltiol mewn Gwyddorau Biofeddygol ym Mhrifysgol Abertawe
Ymunwch â Dr Johnson yn ystod Wythnos Gwyddoniaeth Gofal Iechyd am gipolwg ar ei ymchwil i ddifrod DNA ac achosion canser. Hefyd, darganfyddwch pam nad yw’ch bwyd Nadoligaidd mor faethlon ag y byddech chi’n ei feddwl!
Mae Dr George Johnson yn Athro Cysylltiol yn y Sefydliad Gwyddor Bywyd ym Mhrifysgol Abertawe. Mae George yn darlithio mewn geneteg ac yn ymgymryd ag ymchwil i ddiogelwch cynhyrchion fferyllol, ynghyd â chemegau a geir yn yr amgylchedd ac mewn bwyd.
Ei brif faes arbenigedd yw astudio lefelau sylweddau sy'n achosi canser a sicrhau bod y lefelau'r mae'r cyhoedd yn dod i gysylltiad â nhw yn ddigon isel fel bod eu celloedd a'u horganau'n gallu ymdopi â'r niwed isel. Mae'n arwain nifer o grwpiau o wyddonwyr a chyfarwyddwyr diwydiannol, arbenigwyr rheoleiddiol y llywodraeth ac academyddion, ac mae wedi dod yn aelod arbenigol o'r Pwyllgor Mwtagenedd yn yr Adran Iechyd. Ar hyn o bryd, ef yw llywydd y Gymdeithas Mwtagenedd a Genomeg Ewropeaidd.