Pa gyngor y byddech chi’n ei roi i fyfyriwr newydd sy’n cyrraedd Abertawe neu beth yr hoffech chi fod wedi’i wybod?
Gofynnwyd y cwestiynau hynny i’n cyn-fyfyrwyr. Gwnaethoch chi roi cyngor gwych a llawer o awgrymiadau defnyddiol i ni ar sut i wneud ffrindiau a manteisio i’r eithaf ar eich amser gyda ni, yn ogystal ag ambell berl o ddoethineb amhrisiadwy!
Dyma rai o’r gorau:
- Manteisiwch ar bob cyfle, fyddwch chi byth yn cael yr amser hwn eto. - Linda, Dosbarth 2008
- Gwnewch ymdrech i ddod i adnabod pobl yn y fflatiau o'ch cwmpas nid yn unig y rhai yn eich fflat chi ac ewch i gynifer o ddigwyddiadau mawr ag y gallwch chi. Doeddwn i ddim yn gwybod am Varsity yn fy mlwyddyn gyntaf a chollais i’r cyfle i gymryd rhan. Roeddwn i’n siomedig iawn pan sylweddolais i mai dyma'r digwyddiad mwyaf yn y calendr! Gwnes i gystadlu bob blwyddyn wedi hynny! - Emily, Dosbarth 2012
- Byddwn i wedi dwlu gwybod pa mor gyflym y byddai'r 3 blynedd yn hedfan ac i fwynhau pob eiliad. Ewch i'r traeth mor aml ag y gallwch chi am farbeciws gyda'r hwyr a mwynhau pob eiliad ohono. Mae amser wir yn hedfan. Mae Abertawe'n lle hardd ac anhygoel a newidiodd fy mywyd yn llwyr o ganlyniad i ddod yma. Byddwch yn barod i gwympo mewn cariad â'r ddinas a fyddwch chi byth eisiau gadael. - Sue, Dosbarth 1984
- Y rhai mentrus sy’n llwyddo mewn bywyd. - Stephen, Dosbarth 1985
- Mae'r llyfrgell yn cynnig ystod o weithdai i'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau academaidd. Mae staff y llyfrgell yn gyfeillgar iawn ac mae’n hawdd mynd atynt. Efallai fod Llyfrgell Singleton yn edrych fel drysfa, ond bydd y staff yn eich rhoi ar y trywydd cywir. - Peter, Dosbarth 2019