BSc Peirianneg Meddalwedd, Dosbarth 2024
Peiriannydd Cynnyrch graddedig (Meddalwedd) ar gyfer Jaguar Land Rover
Darparodd fy ngradd yn Abertawe sylfaen gref a'm helpodd yn uniongyrchol i symud i fyd diwydiant. Yn ogystal â rhoi i mi sgiliau technegol hanfodol, gwnaeth hefyd fy mharatoi ar gyfer gwaith prosiect a chyfweliadau yn y byd go iawn.
Gwnaeth fy ffocws ar ddatblygu gemau yn y brifysgol fy helpu i sicrhau rôl gyda chwmni profi gemau, a ychwanegodd at fy mhrofiad cyn i mi ymuno â JLR.
Yn JLR, dwi wedi defnyddio fy ngwybodaeth am raglennu C i gyfrannu at brosiectau optimeiddio perfformiad batris. Hefyd, roedd fy mhrofiad o C# a datblygu gemau yn fantais unigryw wrth weithio yn y tîm sy'n canolbwyntio ar y rhyngwyneb rhwng pobl a pheiriannau (HMI), yn enwedig wrth ddatblygu profiadau rhyngweithiol i ddefnyddwyr. Drwy strwythur y cwrs, yr aseiniadau ymarferol a'r profiad o ieithoedd rhaglennu amrywiol, datblygais i'r hyder a'r gallu i addasu'n gyflym mewn amgylchedd proffesiynol.
Un o'm hoff bethau am Brifysgol Abertawe oedd y cymorth academaidd anhygoel. Roedd y mentoriaid wirioneddol yn gofalu amdanon ni, nid fel myfyrwyr yn unig, ond fel unigolion. Roeddwn i bob amser yn teimlo bod modd mynd atyn nhw fel ffrindiau, nid fel darlithwyr yn unig. Gwnaethon nhw fy arwain drwy'r amserau caled a dathlu'r buddugoliaethau, a dwi'n cadw mewn cysylltiad â rhai ohonyn nhw o hyd. Gwnaeth eu cymorth chwarae rôl enfawr wrth fagu fy hyder a'm helpu i dyfu, yn bersonol ac yn broffesiynol.
A rhaid sôn am y lleoliad, wrth gwrs. Mae Campws y Bae Abertawe fel rhywbeth o gerdyn post. Roedd deffro i olygfeydd hyfryd o'r môr drwy fy ffenestr ar y llawr uchaf yn brofiad arbennig. Pryd bynnag roeddwn i'n teimlo dan straen, byddwn i'n mynd am dro llonydd ar hyd y traeth, gan wrando ar gerddoriaeth a gwylio'r tonnau. Roedd hynny'n donig perffaith a wir i chi, rhywbeth na fydda i byth yn ei anghofio.
Yn olaf, roeddwn i wrth fy modd gydag awyrgylch llonydd a chyfeillgar Abertawe ei hun. Mae'n ddinas sy'n llawn swyn a chymeriad, ac mae cymaint o hanes i'w archwilio. A phan oeddwn i eisiau ychydig o antur, roedd digon o fannau gerllaw i heicio, mynd am dro yn y car a mwynhau picnic. Y cyfuniad prin hwnnw o swyn arfordirol a bywyd bywiog i fyfyrwyr a wnaeth i Abertawe deimlo fel cartref.
Dewisais i Brifysgol Abertawe o ganlyniad i ymchwil drylwyr, nid yn unig i gynnwys y cwrs, ond i gefndiroedd y darlithwyr hefyd. Er imi gael cynigion gan brifysgolion sy'n uwch yn y cynghreiriau (gan gynnwys un yn y 10 uchaf), dewisais i Abertawe, a oedd yn yr 11eg safle am Beirianneg Meddalwedd ar y pryd. Pam? Roedd strwythur y cwrs, boddhad y myfyrwyr a'r cyfleoedd cryf am astudiaethau ôl-raddedig, yn enwedig ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol yn atyniadau cryf. Wir i chi, doedd y lleoliad ar lan y môr ddim yn ffactor o gwbl... Wel, efallai tipyn bach. Ond yn y diwedd, dod o hyd i'r lle mwyaf addas sy'n bwysig, nid canolbwyntio ar safleoedd uchel efallai nad ydyn nhw'n adlewyrchu'r hyn sy'n bwysig i chi.
Daeth Abertawe'n gartref oddi cartref i mi, lle datblygais i gysylltiadau hirdymor â chyfoedion a mentoriaid. Drwy astudio peirianneg meddalwedd dan arweiniad ardderchog, datblygais i sgiliau technegol a chefais i brofiadau cofiadwy, o gymryd rhan mewn digwyddiadau fel Google Hash Code i sesiynau adolygu am arholiadau yn y llyfrgell gyda’r nos gyda ffrindiau.
Byddwn i'n argymell Prifysgol Abertawe'n bendant i unrhyw un sy'n ystyried addysg uwch yn y DU. Mae'r cymorth academaidd yn rhagorol, mae’r darlithwyr yn hawdd mynd atynt ac mae eich llwyddiant yn wirioneddol bwysig iddyn nhw. Mae cynnwys y cwrs wedi'i strwythuro'n dda ac mae'n berthnasol i anghenion y diwydiant, gan helpu myfyrwyr i raddio â sgiliau ymarferol cryf. Mae'r lleoliad ar yr arfordir yn ychwanegu swyn unigryw - mae astudio munudau yn unig o'r traeth yn rhywbeth arbennig iawn. Mae Abertawe ei hun yn ddinas heddychlon a chyfeillgar sy'n cynnig profiad prifysgol mwy hamddenol, yn ddelfrydol i'r rhai sydd eisiau ffocws heb yr holl bethau sy'n tynnu sylw mewn dinas brysur. Mae'n rhywle lle gallwch chi ffynnu'n academaidd ac yn bersonol.
Pa gyngor byddech chi'n ei roi i fyfyrwyr sydd am ddilyn yr un llwybr gyrfa â chi?
Mae peirianneg meddalwedd yn faes eang a dynamig, a gall dewis arbenigedd yn gynnar eich helpu i greu sylfeini cryf â ffocws. Er i mi astudio Java yn bennaf, sylweddolais i fy mod i'n gryf mewn rhaglennu C ac yn ddiweddarach defnyddiais i C# mewn meysydd fel datblygu gemau a dylunio rhyngwyneb defnyddwyr. Fy nghyngor i yw canolbwyntio ar feistroli egwyddorion craidd rhaglennu - pan fyddwch yn deall yr elfennau sylfaenol, bydd newid rhwng ieithoedd yn llawer haws. Mae gan bob iaith ei nodweddion arbennig, ond mae'r sgiliau rhesymeg a datrys problemau sylfaenol yn gyson. Byddwch yn chwilfrydig, cadwch ddysgu a pheidiwch ag ofni archwilio meysydd gwahanol nes i chi ddod o hyd i'ch maes arbennig chi.