BSc mewn Seicoleg 2003; MSc Econ mewn Dulliau Ymchwil Cymdeithasol 2005; PhD mewn Seicoleg 2010. Eiriolwr Dros Fwydo Ar Y Fron. Awdurdod Ym Maes Diddyfnu Babanod.
Mae Amy yn Athro mewn Iechyd Cyhoeddus Plant ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei hymchwil i fwydo ar y fron yn dylanwadu ar bolisi cyhoeddus ac yn helpu mamau a babanod i gael dechrau da mewn bywyd.
Beth wnaeth ichi ddewis Prifysgol Abertawe ar gyfer eich astudiaethau?
A bod yn hollol onest, y traeth a’r amgylchedd prydferth a wnaeth ddal fy sylw’n gyntaf. Ond unwaith imi gyrraedd y campws ar gyfer diwrnod agored, sylweddolais i fod gan Abertawe amgylchedd cyfeillgar a chroesawgar – o’r staff yn yr adran seicoleg i’r ymdeimlad cyffredinol o gwmpas y darlithfeydd a’r neuaddau. Roedd yn teimlo’n lle y gallech ei alw’n gartref – a oedd yn beth da, gan fy mod i wedi bod yn crwydro’r campws hwnnw ers dros 20 mlynedd bellach!
Ydych chi’n cofio cyngor, profiad neu fodelau rôl o’ch amser ym Mhrifysgol Abertawe sydd wedi aros gyda chi drwy gydol eich gyrfa?
Ydw, yn glir iawn - a gormod i sôn am bawb yma. Roeddwn i’n ddigon ffodus i gael modelau rôl gwych o’r dechrau - yn ogystal ag arwain yn eu meysydd, gwnaethant gymryd yr amser i’m hannog i gymryd y naid nesaf o astudio israddedig. Y pethau bach sydd wir yn gallu aros gyda chi a gwneud gwahaniaeth, yn fy marn i - Dr Mike Gruneberg a gymerodd amser i ddweud wrthyf yn ystod ail flwyddyn fy ngradd fod gennyf ddawn am ysgrifennu ac ymchwilio a wnaeth wir sbarduno fy niddordeb mewn cymryd y cam nesaf. Yr Athro Sine McDougall a ddywedodd wrthyf fod y byd academaidd yn alwedigaeth a fyddai’n cymryd dros fy mywyd, ond byddai’n werth yr ymrwymiad. Yr Athro Dave Benton a newidiodd rhwng beirniadaeth adeiladol ond ddi-flewyn-ar-dafod, a dweud wrthyf fod gennyf yrfa academaidd ddisglair o’m blaen. Yr Athro Kevin Haines a roddodd y syniad o wneud PhD yn fy mhen yn gyntaf... gallwn fynd ymlaen.
Hefyd rydw i’n ddigon lwcus i fod yn yr un sefydliad â goruchwylwyr fy PhD o hyd, yr Athro Michelle Lee a’r Athro Peter Raynor sy’n parhau i fod yn ffynonellau cymorth gwych – does dim dianc oddi wrthyf!
"Rydym ni wedi gwneud cynnydd mawr dros y 15 mlynedd diwethaf, ond mae mwy i’w wneud o hyd."
O ble daeth eich diddordeb mewn bwydo ar y fron?
Doedd gen i ddim syniad bod ymchwil i brofiadau menywod o fwydo ar y fron yn bodoli hyd yn oed, nes imi gael fy mabi fy hun. Fy mhrofiadau o’i fwydo ef, a chwrdd â chynifer o fenywod eraill a oedd yn cael trafferth, a wnaeth fy arwain i lawr y llwybr o ofyn, yn gyntaf, sut gallai rhywbeth naturiol fod mor anodd, ac yn ail, eisiau gwybod beth gallem ei wneud amdano. Rydym ni wedi gwneud cynnydd mawr dros y 15 mlynedd diwethaf, ond mae mwy i’w wneud o hyd. Dydw i ddim yn gallu gweld newid yn fy ngyrfa’n digwydd eto.
Dywedwch wrthym dipyn bach am eich gyrfa
Roeddwn i’n ddigon lwcus i gael fy swydd gyntaf yn syth ar ôl fy ngradd israddedig ym Mhrifysgol Abertawe yn 2003. Gweithio fel cynorthwy-ydd ymchwil i gwmni deillio yn hen Adran y Gwyddorau Cymdeithasol Cymhwysol oedd hynny. Hefyd gwnaethant fy ariannu i wneud MSc mewn dulliau ymchwil cymdeithasol ac wedyn fy annog i ymgeisio am gyllid ar gyfer PhD. Roeddwn i wedi symud o’r swydd honno ond treuliais i’r blynyddoedd nesaf yn gweithio mewn swyddi ymchwil ac addysgu tymor byr ar draws y Brifysgol, gan gynnwys gweithio i’r Adran Addysg i Oedolion ac i’r cynllun Prifysgol Haf Ymestyn yn Uwch - Ymestyn yn Ehangach.
Ar ôl graddio gyda’m PhD yn 2010 (a chael tri babi yn ystod y cyfnod), dechreuais i swydd darlithydd mewn Astudiaethau Plentyndod Cynnar, gan symud ymlaen i swydd uwch-ddarlithydd ac wedyn swydd fel Uwch-ddarlithydd mewn Rheoli Gofal Iechyd. Wedyn gwnaethom ni sefydlu MSc mewn Iechyd Cyhoeddus Plant, a fi sy’n ei arwain bellach, ar ôl imi gael fy nyrchafu’n Athro Cysylltiol yn 2014 ac yn Athro yn 2018. Yn fwy na thebyg byddai hi wedi bod yn gyflymach dweud wrthych ba adrannau nad ydw i wedi gweithio ynddynt ar ryw adeg! Gadewch i ni ddweud mai Prifysgol Abertawe a’m meithrinodd a Phrifysgol Abertawe yw fy nghartref.
"Rydw i’n lwcus iawn ein bod yn gwneud rhywbeth mor foddhaus, er ein bod yn gweithio’n galed iawn."
Beth yw’r agwedd ar eich rôl sy’n rhoi’r boddhad mwyaf i chi?
Rydw i’n meddwl byddwn i’n dweud ‘gwneud gwahaniaeth’ i fywydau pobl. Naill ai trwy weld un o’m myfyrwyr MSc yn graddio neu’n cael dyrchafiad yn sgil astudio, gwylio myfyriwr PhD yn tyfu, yn datblygu ac yn graddio yn y pen draw, neu weld fy ymchwil yn cael ei ddefnyddio mewn polisi neu fod yn ddefnyddiol i deulu newydd. Rydw i’n lwcus iawn ein bod yn gwneud rhywbeth mor foddhaus, er ein bod yn gweithio’n galed iawn. Gallwch wir weld y gwahaniaeth y mae eich ymdrech yn ei wneud.
Dywedwch wrthym am eich llwyddiant mwyaf hyd yn hyn
O waw, mae’n anodd dewis un uchafbwynt. Rydw i’n meddwl bod popeth rydw i wedi’i wneud wedi chwarae rhan bwysig wrth ddod â fi i le rydw i ar hyn o bryd ac yn fy helpu i fod mewn sefyllfa lle gallaf gefnogi myfyrwyr a’r teuluoedd rydw i’n gweithio gyda nhw yn fy ngwaith ymchwil. Pe tasai rhaid imi ddewis un peth, cael fy ngwahodd yn ddiweddar i fynychu’r dathliad Dydd Gŵyl Dewi yn 10 Downing Street gydag un o’m cydweithredwyr, Dr Natalie Shenker, cadeirydd y Sefydliad Llaeth Dynol, fyddai hynny. Gwnaethom ni gwrdd â phobl wych (a chael cipolwg da ar y lle).
Beth sydd nesaf ichi?
Rydym ni newydd sefydlu canolfan newydd sy’n archwilio profiadau teuluoedd o fwydo’r babi a elwir yn ‘LIFT’ – Lactation, Infant Feeding and Translation. Ein nod yw cynnal ymchwil sydd wir o bwys i rieni newydd, gan ateb y cwestiynau a allai fod ganddynt ynghylch bwydo eu babanod a datblygu atebion a allai eu helpu. Ein nod yw helpu pob teulu i allu gwneud y penderfyniadau am fwydo sy’n iawn iddyn nhw, teimlo’n hapus ac yn hyderus a chael y cymorth y maent yn ei haeddu. Mae gennym gynlluniau mawr ar gyfer y dyfodol felly cadwch olwg amdanynt!
"...fy ysbrydoliaeth yw’r holl wirfoddolwyr rwyf yn rhyngweithio â nhw’n ddyddiol trwy fy ymchwil."
Pwy yw eich ysbrydoliaeth?
Gofynnir y cwestiwn hwn imi’n aml. Gallwn i roi llawer o atebion ichi am unigolion sydd yn llygad y cyhoedd, yn enwedig menywod, sy’n gwneud y byd yn lle gwell. Ond mewn gwirionedd, fy ysbrydoliaeth yw’r holl wirfoddolwyr rwyf yn rhyngweithio â nhw’n ddyddiol trwy fy ymchwil. Mae rhwydwaith cyfan i’w gael, llu o wirfoddolwyr, sy’n treulio eu hamser yn cefnogi teuluoedd newydd drwy’r dydd bob dydd, gydag ychydig iawn o gydnabyddiaeth yn aml. Maen nhw’n cael eu sbarduno gan y teuluoedd y maen nhw wedi newid eu bywydau, ac rydw i’n cael fy sbarduno ganddynt hwy.