Pam dewisoch chi astudio ym Mhrifysgol Abertawe?
Wrth feddwl amdani, penderfynais i bron yr eiliad gadawais i’r trên o Lundain gyda fy nhad, am y diwrnod agored. Dwi’n cofio mynd ar y bws am daith o’r campws (Singleton oedd yr unig gampws ar y pryd) ac roedd y croeso dderbyniais i o’r dechrau mor gyfeillgar. Hefyd, roeddwn i’n dwlu ar y ffaith bod y campws mor agos at y môr. Yr amlinelliad o’r cwrs oedd yr un mwyaf diddorol roeddwn i wedi’i weld ac roedd yr athrawon yn croesawu trafodaeth, sylwadau ac adborth.
"Dwi’n agos iawn o hyd gyda ffrindiau cwrddais i â nhw drwy fy swydd ran-amser – myfyrwyr oedden nhw i gyd hefyd - a gyda nifer o’m cyd-breswylwyr."
Beth yw uchafbwyntiau eich amser fel myfyriwr?
Byddai rhaid i mi ddweud y ffrindiau cwrddais i â nhw. Dwi’n agos iawn o hyd gyda ffrindiau cwrddais i â nhw drwy fy swydd ran-amser – myfyrwyr oedden nhw i gyd hefyd - a gyda nifer o’m cyd-breswylwyr. Yn ystod COVID, mae ein grŵp WhatsApp wedi bod ar dân!
Byddai rhaid i mi ddweud hefyd fod y Dawnsfeydd Haf bob amser yn achlysuron gwych ac mae gen i lawer o atgofion melys am reidio’r ceir dojem o flaen Abaty Singleton, a chael ychydig ddiodydd gyda ffrindiau ar y traeth ar ddiwedd y noson. Roeddwn i a’m ffrindiau’n treulio llawer o amser yn Woody’s pan oeddem yn byw yn Hendrefoelan, a dwi’n cofio gwylio llawer o gemau rygbi Cymru (tîm Cymru byddwn i’n ei gefnogi, oni bai eu bod yn chwarae Lloegr – wrth gwrs!).
Mae gemau Farsity blynyddol yn uchafbwynt hefyd. Roeddwn i wrth fy modd gydag ysbryd cefnogwyr Abertawe, y caneuon a’r chwerthin ar y bws i/o Gaerdydd, dysgu llafarganau Abertawe cyn y gêm a phawb yn mynd i Play wedyn i ddathlu (dwi’n meddwl mai ni enillodd am 2 o’r 3 blynedd bues i yn Abertawe). Un flwyddyn, daeth fy mrawd iau i ymweld ac ymunodd â ni ar gyfer gêm Farsity – roedd yn hyfryd gallu rhannu fy mhrofiad prifysgol â’m teulu a chawson nhw amser gwych bob tro daethon nhw i ymweld â mi.
Un peth dwi’n ei ddifaru yw cymryd agosrwydd Penrhyn Gŵyr yn ganiataol. Mae’n lleoliad mor hyfryd a dwi’n difaru wnes i ddim treulio rhagor o amser yn archwilio’r traethau niferus ac atyniadau eraill yr ardal.
Beth wnaethoch chi ar ôl graddio? Oedd gennych lwybr gyrfa penodol mewn golwg o’r dechrau?
Nac oedd! Roeddwn i’n hynod lwcus i gael cynnig swydd yn Walt Disney World fel rhan o’u Rhaglen Cynrychiolwyr Diwylliannol – swydd am flwyddyn yn gweithio yn Epcot. Yn ystod y flwyddyn honno, ces i gyfleoedd i deithio ledled UDA, gan dreulio Diolchgarwch gyda ffrindiau yn Georgia a Chalan Gaeaf yn Boston gyda fy rhieni – cwrddais i â llawer o bobl o daleithiau a chefndiroedd gwahanol. Ar ôl i mi ddychwelyd, cyflwynais i gais am swydd yn Llysgenhadaeth yr UD yn Llundain, lle bues i’n gweithio am y pedair blynedd nesaf, cyn symud i Decsas gyda fy ngŵr.
Ar hyn o bryd, chi yw Is-gonswl y DU ar gyfer taleithiau Tecsas, Arkansas, Colorado, Louisiana, Mecsico Newydd ac Oklahoma. Allwch chi esbonio dyletswyddau eich rôl?
Rwy’n gyfrifol am ddarparu cymorth consylaidd i ddinasyddion Prydain mewn trafferthion, yn yr ysbyty neu’r carchar er enghraifft. Rwy’n cefnogi aelodau teulu yn dilyn profedigaeth, os caiff plentyn ei herwgydio neu mewn materion gwarchodaeth ac yn darparu cyngor a chymorth yn dilyn trais neu ymosodiad. Rwy’n prosesu ceisiadau am basbort brys, yn cynrychioli Llywodraeth Prydain mewn digwyddiadau consylaidd ac yn darparu cymorth consylaidd mewn argyfwng.
"Rwy’n hynod ffodus fy mod i’n rhan o rwydwaith cryf yma ar gyfandiroedd America."
Mae eich gwaith yn ymwneud â llawer o faterion sensitif megis ymosodiad a herwgydio. Mewn sefyllfaoedd sy’n anodd yn emosiynol, beth sy’n eich cadw i fynd?
Rwy’n hynod ffodus fy mod i’n rhan o rwydwaith cryf yma ar gyfandiroedd America. Mae naw Swyddfa Gonsylaidd yn yr Unol Daleithiau ac rydyn ni i gyd yn cefnogi ein gilydd, fel cydweithwyr ac fel ffrindiau. Mae gen i ddau anifail anwes gwych a gŵr cefnogol hefyd. Dwi’n gaeth i lyfrau a dwi bob amser yn darllen .. unrhyw genre ar yr amod bod ganddo ddechrau, canol a diwedd, bydda i’n ei ddarllen! O bryd i’w gilydd, dwi hefyd yn maethu cathod bach mewn lloches anifeiliaid sydd â pholisi dim lladd. Mae hynny’n brofiad gwobrwyol iawn – anodd pan ddaw’r amser iddyn nhw gael eu mabwysiadu, ond teimlad gwych serch hynny.
Ydy Covid 19 wedi effeithio ar eich rôl?
Mae Covid-19 wedi ein gorfodi i addasu. Does dim modd bellach i ni gael cyfarfodydd personol gyda’r rhai sy’n gofyn am gymorth consylaidd, felly mae’r holl gymorth yn cael ei ddarparu dros y ffôn neu drwy e-bost.
Ydy eich amser yn Abertawe wedi effeithio ar eich rôl o gwbl?
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i weld datblygiad parhaus Partneriaeth Strategol Tecsas. Yn bersonol, dwi wrth fy modd pan ddaw cynrychiolydd o Abertawe i ymweld â Thecsas! Mae’n gyfle i mi hel atgofion, clywed y diweddaraf am y gwaith i ehangu’r campysau a chael newyddion o’r ardal.
Oes gennych gyngor yr hoffech ei rannu â’n myfyrwyr presennol?
Manteisiwch ar bopeth sydd gan Abertawe i’w gynnig! Un peth dwi’n ei ddifaru yw wnes i ddim ymuno â chlwb neu gymdeithas. Roeddwn i’n canolbwyntio ar fy astudiaethau, sy’n bwysig wrth gwrs, ond roedd rhai pobl yn fy nhŷ yn rhan o’r tîm rygbi, Xtreme Radio a’r Gymdeithas Ffasiwn, a gwnaeth hynny ehangu eu profiad cyffredinol o’r brifysgol. Mae’n drueni nad oedd gen i ddigon o hyder i ymuno â phethau ar y pryd.
Beth byddech chi’n ei ddweud wrth rywun sy’n ystyried dod i Abertawe i astudio?
Mae Prifysgol Abertawe’n lle gwirioneddol wych i gael eich gradd. Mae’r cyfleusterau’n siarad drostynt eu hunain, ond yr amgylchedd, y diwylliant a’r profiad – dyna’r pethau a fydd yn gwneud eich amser yma’n fythgofiadwy. Mae’r cyfleoedd i fwynhau bywyd myfyriwr i’r eithaf yn ddiderfyn! Mae cannoedd o gymdeithasau, gweithgareddau allgyrsiol a rhai o’r ardaloedd mwyaf gwefreiddiol i’w harchwilio ar stepen eich drws.