MSc Peirianneg Fecanyddol. Blwyddyn Graddio 2022.
Peiriannydd Arweiniol Prosiectau Airedale by Modine.
Dy yrfa
Rwy'n Beiriannydd Arweiniol Prosiectau gydag Airedale by Modine sy'n gweithgynhyrchu systemau oeri pwysig ar gyfer canolfannau data yn bennaf. Ar wahân i hynny, mae'r cwmni hefyd yn gwasanaethu diwydiannau sy'n rhychwantu adeiladau masnachol, gofal iechyd, oeri niwclear a phrosesu etc. Oerwyr oeri aer, CRAH/CRAC, unedau cyddwyso yw prif gynhyrchion gweithgynhyrchu'r cwmni. Rwyf wedi bod yn gweithio i Airedale ers dros ddwy flynedd erbyn hyn.
Mae fy niwrnod arferol yn cynnwys gweithio ar ddylunio ac addasu ein hunedau safonol a goruchwylio cynhyrchu, monitro perfformiad a phrofi. Hefyd, rwy'n rhoi mewnbwn ar ddichonoldeb prosiectau, dadansoddi risg, optimeiddio prosesau ac effeithlonrwydd ein prosiectau. Mae rhai o'r prosiectau rwyf wedi bod yn rhan ohonynt yn cynnwys prosiectau ar system danddaearol Llundain, British Aerospace Engineering, Hinkley Point etc. Dros y tair blynedd diwethaf rydw i wei cael profiad o ddylunio systemau Aerdymheru yn fy ngwlad fy hun.
Sut fyddech chi'n crynhoi eich profiad ym Mhrifysgol Abertawe?
Cefais y profiad dysgu gorau ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'r modiwlau'n gynhwysfawr ac yn cynnwys holl feysydd y maes i roi'r holl sgiliau cywir i chi fod yn gyflogadwy'n syth ar ôl gorffen y cwrs a'ch paratoi chi i fod yn beiriannydd cyflawn.
Beth yw dy 3 hoff beth am Abertawe?
- Roedd y profiad dysgu ym Mhrifysgol Abertawe yn anhygoel; roedd holl fodiwlau'r cwrs yn berthnasol i ddiwydiant ac yn cael eu haddysgu gan athrawon sy'n arbenigwyr yn eu maes. Roedd y profiad yn yr ystafell ddosbarth yn ysgogol gyda llawer o waith grŵp ac aseiniadau cyffrous i wneud y dysgu hyd yn oed yn fwy cofiadwy. Rhagorwyd ar fy nisgwyliadau. Hefyd, cefais syndod i weld labordai o'r radd flaenaf megis labordy trosglwyddo gwres, labordy deunyddiau a labordy cyfrifiadol.
- Roedd mynd am dro ar y traeth sydd drws nesaf i Gampws y Bae yn ystod fy egwyliau bob amser yn un o'm hoff bethau i'w wneud. Roedd treulio amser yn y llyfrgell ac yn Undeb y Myfyrwyr i roi cynnig ar weithgareddau newydd hefyd yn gyffrous, ac mae gennyf atgofion melys o gymryd rhan wrth addurno coed y Nadolig ar gyfer y gwyliau.Roedd cyfnod y Nadolig gyda thân gwersyll a mwynhau goleuadau'r nos hefyd yn bleserus.
- Roedd gennyf feic y byddwn yn ei reidio ar hyd y marina a'r Mwmbwls am deithiau byr gan fwynhau golygfeydd hyfryd o'r môr. Roeddwn i'n arfer aros yn ardal Uplands ac yn mwynhau mynd i Barc Singleton a'r caffis, ac mae gennyf atgofion melys.
Pam dewisaist ti astudio dy radd yn Abertawe?
Dewisais Brifysgol Abertawe'n bennaf gan fod ganddi'r dewis mwyaf amrywiol o fodiwlau o'i chymharu â phrifysgolion eraill roeddwn wedi edrych arnynt. Y cwricwlwm cyfan oedd y prif rheswm a oedd yn gwneud iddi sefyll ben ac ysgwyddau uwchlaw'r dorf gan fy arfogi â'r sgiliau peirianneg perthnasol a gwybodaeth gyfoes am y maes. Mae harddwch godidog rhanbarth arfordirol Abertawe hefyd yn rheswm arall gan fod yr amgylchedd yn addas i wella fy mhrofiad dysgu a'm creadigrwydd hefyd. Felly rwy'n dal i fod yn falch o'm penderfyniad i astudio ym Mhrifysgol Abertawe.
Fyddet ti'n argymell Prifysgol Abertawe i rywun sy'n meddwl mynd i'r Brifysgol?
Ewch amdani a byddwch yn cael un o'r cyfnodau gorau o'ch bywyd. Ar wahân i addysg o'r radd flaenaf a sgiliau perthnasol, rydych hefyd yn cael cymorth unigol lle rydych yn teimlo fel teulu. Ceir Undeb y Myfyrwyr, grwpiau a chlybiau gwahanol i gwrdd â phobl sydd â diddordebau tebyg i chi, a cheir mentoriaid cyflogadwyedd sydd hefyd yn yr un maes â chi a fydd yn eich helpu i ysgrifennu CV, cynnal sesiynau unigol i helpu gyda chwilio am swyddi ac awgrymiadau eraill. Bydd gennych yr amgylchedd dysgu gorau.
Sut wnaeth dy radd dy baratoi ar gyfer dy yrfa?
Cyn dod yma, roedd gennyf wybodaeth sylfaenol o'r maes ac ychydig flynyddoedd o brofiad yn y diwydiant. Serch hynny, roeddwn am astudio cyrsiau uwch i gryfhau fy ngwybodaeth a dysgu am dechnoleg newydd megis argraffu 3D, technoleg ynni a deunyddiau'r oes fodern etc. Felly, ar ôl cwblhau fy ngradd meistr yn Abertawe, roeddwn yn teimlo'n ddigon ffodus fy mod wedi diweddaru fy ngwybodaeth yn y maes a dod yn Beiriannydd Mecanyddol cyflawn.
Wrth edrych yn ôl, gwnaeth helpu fy ngyrfa a'm rôl bresennol yn benodol, mae modiwlau fel rheoli prosiect a mecaneg hylif uwch ynghyd ag argraffu 3D wedi fy helpu'n fawr o ran gwybodaeth sylfaenol gref. Gwnaeth y radd fy mharatoi nid yn unig am dechnoleg, ond hefyd sut i feddwl am ddatrys problemau peirianneg, meysydd ymchwil sy'n dod i'r amlwg ynghyd ag agweddau o ran moeseg ac asesu effaith amgylcheddol.
Pa gyngor fyddet ti'n ei roi i fyfyrwyr sydd am ddilyn dy yrfa?
I unrhyw fyfyriwr sydd am ddilyn gradd Peirianneg Fecanyddol, mae'n faes holl fytholwyrdd. Fel y maes peirianneg ehangaf, peidiwch ag ymrwymo i un maes penodol yn enwedig wrth ddechrau ar eich gyrfa ond rhowch gynnig ar is-ddisgyblaethau gwahanol i ennill mwy o sgiliau a gwybodaeth ar gamau cynnar. O ran y diwydiant systemau gwresogi ac oeri, byddwn yn dweud gyda diddordeb ac angerdd ei fod yr un mor wobrwyol yn awr gyda dyfodiad canolfannau data mawr a'r galw amdanynt ac AI, mae'r maes hwn yn edrych yn fwy addawol fyth ar gyfer y dyfodol.