Owen Ocharo Moturi

BEng (Hons) Peirianneg Gemegol.Blwyddyn Graddio 2017.
Perchennog/Rheolwr Gyfarwyddwr Lamoxi LTD (Kenya).

Eich Gyrfa

Ar hyn o bryd fi yw perchennog Lamoxi LTD, cwmni newydd, yn fy ngwlad enedigol Kenya, sydd ar hyn o bryd yn chwilio am gyllid sbarduno. Ar ôl treulio amser yn y diwydiant gweithgynhyrchu resin, penderfynais i ddechrau fy nghwmni fy hun. Fy ngweledigaeth yw trawsnewid tirwedd gweithgynhyrchu fy ngwlad ym maes cynhyrchu resin. Rwy'n hanu o gyfandir sy'n cyfrannu at lai na 3% o nwyon tŷ gwydr yn fyd-eang.

Er ei bod yn cyfrannu cyn lleied at newid yn yr hinsawdd, ystyrir bod Affrica yn un o'r rhanbarthau sydd yn y perygl mwyaf o newid yn yr hinsawdd a'i effeithiau, oherwydd ffactorau fel dibyniaeth enfawr ar amaethyddiaeth am fywoliaeth a lefel isel o allu i addasu. Mae poblogaeth ifanc y cyfandir yn cynyddu, felly gobeithio y gallaf helpu i osgoi mathau traddodiadol o ddatblygu drwy fanteisio ar ddulliau datblygu sy’n seiliedig ar dechnoleg werdd a thrawsnewid fy ngwlad a'r cyfandir cyfan i fod yn feincnod datblygu gwyrdd. Gobeithio defnyddio fy arbenigedd a'm cefndir academaidd i wireddu hyn.

Sut fyddech chi'n crynhoi eich profiad ym Mhrifysgol Abertawe?

Un gair i'w ddisgrifio fyddai 'trawsnewidiol'...

Rhoddodd fy amser yn Abertawe syniad i mi o'r hyn sy'n bosib a'r hyn gallwn i ei gyflawni. Roedd y daith academaidd yn ymdrochol ac roeddwn i'n teimlo fy mod i'n cael fy nghefnogi'n llawn drwy gydol fy nhaith. Gwnes i hogi fy sgiliau sy'n dal i fod yn ddefnyddiol heddiw.

Beth yw eich 3 hoff beth am Abertawe?

Roeddwn i wrth fy modd yn astudio mewn prifysgol ger y traeth. Roedd cyfleusterau'r campws wedi'u cynnal yn dda, ac roedd hi'n hawdd cael unrhyw adnodd yn llyfrgelloedd y Brifysgol. Yn ystod yr haf, byddwn i a'm ffrindiau'n ymweld â'r pier yn y Mwmbwls ac yn bwyta hufen iâ drwy'r prynhawn. Roedd y ddinas yn fywiog ac roedd naws rhyngwladol ganddi hefyd. Roeddwn i’n gallu gwneud ffrindiau’n eithaf hawdd ac roedd y Cymry’n groesawgar iawn – ar y campws a hyd yn oed y tu hwnt iddo.

Pam dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe?

Yn ôl y tablau cynghrair, mae Prifysgol Abertawe'n un o brifysgolion gorau'r DU. Roeddwn i'n teimlo y byddai'n ddewis da i fy maes astudio. Mae'r ddinas sy'n gartref i'r brifysgol yn lle fforddiadwy i fyw ac astudio. Roedd y brifysgol hefyd yn ymatebol ac yn gefnogol iawn pan ddechreuais i gyfathrebu â nhw drwy e-bost. Gwnaethon nhw ymateb yn gyflym i'm cwestiynau. Roeddwn i’n teimlo fy mod i’n cael fy nerbyn o’r dechrau.

Fyddech chi'n argymell Prifysgol Abertawe i rywun sy'n meddwl mynd i'r Brifysgol?

Byddwn i'n argymell Prifysgol Abertawe fel y lle gorau i astudio. Ar wahân i'r addysg o safon mae'r Brifysgol yn ei darparu, mae'r tîm yn Abertawe wedi llwyddo i sicrhau bod y campws yn groesawgar i bawb, o ble bynnag rydych chi'n hanu. Mae'r cyfleusterau o'r radd flaenaf ac mae'r tîm academaidd yn hollol gefnogol o'r dechrau tan y diwedd. Mae'r cyrsiau wedi'u mapio'n dda ac mae'n hawdd llwyddo os ydych chi'n canolbwyntio ac yn gwneud yr ymdrech. Mae'r ddau gampws, Singleton a Champws y Bae, mewn amgylcheddau llonydd.

Sut gwnaeth eich gradd eich paratoi ar gyfer eich gyrfa?

Oherwydd y maes ddewisais i, ces i gyfle i astudio egwyddorion prosesu cemegol. Roedd yr wybodaeth hon yn allweddol wrth feithrin fy nghariad at y pwnc a'r diwydiant. Mae'r sgiliau trosglwyddadwy ddysgais i ar hyd y daith yn ddefnyddiol i mi o hyd heddiw. Gallaf fynegi fy meddyliau ar lafar ac ar bapur yn glir. Mae fy sgiliau meddwl yn feirniadol yn ddefnyddiol pan fydda i'n wynebu problemau enfawr mewn gweithgynhyrchu neu wrth ddatblygu fy musnes o ddydd i ddydd yn fy ngyrfa  broffesiynol. Mae fy maes astudio'n berthnasol mewn sawl diwydiant arall ac oherwydd hyn roeddwn i'n ddigon hyblyg i addasu, er gwaethaf y cynhyrchion busnes amrywiol.

Pa gyngor byddech chi'n ei roi i fyfyrwyr sydd am ddilyn yr un llwybr gyrfa â chi?

Byddwch yn awyddus bob amser i ddysgu y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Un o'r pethau byddwch yn sylwi arnyn nhw'n gyflym yw bod pethau'n eithaf gwahanol yn y diwydiant. Bydd yr egwyddorion sylfaenol byddwch yn eu dysgu yn y dosbarth yn ddefnyddiol, ond mae angen i chi wneud yr ymdrech ychwanegol i ddysgu mwy pan fyddwch chi yn y diwydiant. Byddwch chi'n gyfrifol am brosiectau sy'n gofyn am feddylfryd mwy arloesol. Ceisiwch roi cynaliadwyedd wrth wraidd popeth rydych chi'n ei wneud. Hefyd, defnyddiwch eich amser yn y brifysgol i greu rhwydwaith o ffrindiau a fydd yn gallu helpu ei gilydd yn y dyfodol