Yn 2008, ar ôl graddio o Brifysgol Abertawe, ymunais i â Chanolfan yr Amgylchedd, Pysgodfeydd a Gwyddor Dyframaeth (Cefas). Dyma stori fy mywyd ar ôl Abertawe, a sut dechreuais i weithio i sefydliad sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn mewn cymdeithas.

MSc Dyframaeth. Blwyddyn Graddio 2008. Biolegydd Y Môr. Diogelu Economïau Morol, Pysgodfeydd Cynaliadwy a Diogelwch Bwyd.
Mewn geiriau syml, roeddwn i’n dwlu ar fy amser ym Mhrifysgol Abertawe. Y clybiau chwaraeon a thirwedd hyfryd cefn gwlad yw’r atgofion sy’n aros yn fy nghof, ond y cyfleusterau dyframaeth o’r radd flaenaf a’m helpodd i gael swydd sydd wrth fy modd.
Mae Cefas yn un o asiantaethau gweithredol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), ac mae’n arwain y ffordd yn fyd-eang ym maes gwyddor a thechnoleg forol. Mae gwyddonwyr Cefas yn gweithio ac yn cydweithredu ledled y byd i ddarparu ymchwil a chyngor diduedd er mwyn mynd i’r afael â heriau ac achub ar gyfleoedd sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd morol a dŵr croyw. Mae ein gwyddoniaeth yn helpu i sicrhau bod economïau morwrol ffyniannus, pysgodfeydd cynaliadwy a diogelwch bwyd. Mae hefyd yn diogelu bioamrywiaeth forol ac yn ymdrin â bygythiadau difrifol megis newid yn yr hinsawdd, sbwriel a llygredd morol.

"...rhoddodd Cefas gyfle i mi ddatblygu ymhellach."
Dros y 12 mlynedd diwethaf, rwyf wedi bod yn gweithio i helpu i frwydro yn erbyn sbwriel a llygredd cemegol. Dechreuais i fel gwyddonydd data i gefnogi’r asesiadau blynyddol o halogyddion ar gyfer y DU, ond rhoddodd Cefas gyfle i mi ddatblygu ymhellach. Dyma rai o uchafbwyntiau fy ngyrfa:
- Creu protocol ar gyfer arolygon dyfnderol o sbwriel yn y moroedd, sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd ar draws y Cyngor Rhyngwladol ar gyfer Archwilio’r Moroedd (ICES)
- Cynghori Ysgrifennydd Gwladol Defra ar asesiadau diweddar a gynhaliwyd o effeithiau bagiau plastig ar yr amgylchedd morol,
- A gweithio gyda gwyddonwyr Awdurdod Cyhoeddus yr Amgylchedd Coweit ar asesu lefelau halogyddion mewn dyfroedd wyneb.
Gan fod Cefas hefyd yn sefydliad morol cymhwysol, cymerais i ran mewn gweithgareddau maes amrywiol a oedd yn cynnwys arolygon aml-belydr ar sail arsylwi uniongyrchol er mwyn dynodi Ardaloedd Morol Gwarchodedig newydd, a chasglu samplau o ddŵr, gwaddodion a physgod i ddadansoddi effeithiau ewtroffigedd a halogi. Mae rhan o’r broses casglu samplau hefyd yn cynnwys arolwg y Rhaglen Monitro Amgylcheddol Moroedd Glân, a fi yw’r Prif Wyddonydd â chyfrifoldeb am y rhaglen yng Nghymru a Lloegr.
Mae fy ngwybodaeth am sut mae sampl yn cael ei chasglu a’i phrosesu hefyd wedi fy helpu i ddeall sut i asesu’r canlyniadau a llunio adroddiadau a llawysgrifau amrywiol. Caniataodd yr wybodaeth hollbwysig hon i mi symud i fy swydd flaenorol fel Cadeirydd y Grŵp Tystiolaeth Moroedd Glân (CSSEG) a’m swydd bresennol fel Uwch-aseswr Effaith Amgylcheddol.
"Mae Prifysgol Abertawe wedi rhoi’r wybodaeth sylfaenol i’m galluogi i symud ymlaen yn y sector hwn."
Gyda llaw, des i ar draws yr aseiniad hwn y diwrnod o’r blaen a dyna beth rwy’n ei wneud nawr. Asesu goblygiadau amgylcheddol prosiectau isadeiledd mawr. Mae Prifysgol Abertawe wedi rhoi’r wybodaeth sylfaenol i’m galluogi i symud ymlaen yn y sector hwn.
