BA Cymdeithaseg ac Astudiaethau Americanaidd. Blwyddyn Graddio 1987. Bardd. Dramodydd. Eiriolwr.
Pam daethoch chi i Brifysgol Abertawe?
Roeddwn wedi ymgeisio i astudio’r gyfraith yn Birmingham ond wedyn gwelais y cwrs yn Abertawe a oedd yn cynnwys blwyddyn yn America, hefyd roeddwn yn dwlu ar y môr. Es i i’r Diwrnod Agored a chwympo mewn cariad â’r lle. Nid wyf yn credu y byddwn yn gwneud cyfreithiwr da!
"Roedd yn adeg ddiffiniol yn fy mywyd fel awdur."
Beth yw eich hoff atgofion o’ch amser yn Abertawe?
O, gallwn ysgrifennu tudalennau…. Chwarae pêl-droed ar brynhawn dydd Mercher lan yn Fairwood. Cynrychioli’r Brifysgol mewn pêl-droed a chyrraedd y rownd derfynol yng Nghaerwysg. Fy mlwyddyn gyntaf yn Lewis Jones a brecwast yn y Brif Neuadd.
Mynd i’r llyfrgell ar nos Wener er mwyn darllen y beirdd Beat wrth edrych allan dros Fae Abertawe gyda goleuadau’r llongau pell yn disgleirio yn y tywyllwch. Darlithoedd y flwyddyn gyntaf mewn Gwleidyddiaeth Roeg a meddwl nad oes syniad gennyf am yr hyn mae’n siarad amdano, ond rwyf yn hoff o’r awyr. Tiwtorialau gyda Jon Roper, Mike Simpson, Phil Melling a Hilary Stanworth. Roeddwn yn teimlo’n bresennol ac yn wybodus iawn wrth gyflwyno fy nhraethodau, ac roeddent yn eich trin fel oedolyn. Daeth llawer o fandiau i chwarae yn y dyddiau hynny, felly gwelais i Marillion, Lindisfarne a Billy Bragg. Cwympo mewn cariad gyda’r merched crand o Gaergrawnt yn fy nosbarthiadau. Rwyf yn cofio’r tro cyntaf i ddarlithydd gwadd o America ddarllen y Beats - roeddwn wedi fy hudo, a gwelais sut gallai ysgrifennu fod yn hanfodol, yn go-iawn ac yn rhywiol. Roedd yn adeg ddiffiniol yn fy mywyd fel awdur. Gofynnais i fenthyg y llyfr am Jack Kerouac. Fe’i roiodd imi gan ddweud, “I want it back next week” Gwnes draflyncu pob gair!!
Fy ystafell yn Lewis Jones.
Y tro cyntaf imi fod oddi cartref. Roedd yn gastell imi ac roeddwn wrth fy modd yn eistedd yno’n gwrando ar gerddoriaeth ac yn ysgrifennu traethodau wrth yfed te. Cwrdd â ffrindiau gwych fel Alun Dodd a oedd yn gwisgo crysau-T pinc gan LaCoste ac yn lliwio ei wallt ac roedd ar yr adain chwith radicalaidd yn llwyr!
Gwnaethoch raddio ym 1987 gyda BSc mewn Cymdeithaseg ac Astudiaethau Americanaidd. Beth wnaethoch chi nesaf?
Cefais drafferth i ymsefydlu eto ym mywyd yn y Cymoedd. Roedd yn debyg bod popeth yn cynnwys rygbi, yfed ac ymladd - sydd i gyd yn bethau roeddwn yn eu casáu ac yn methu eu gwneud. Felly es i i weithio yn Herne Bay fel Gwirfoddolwr Gwasanaethau Cymunedol a chynilo arian a mynd yn ôl i America ym 1989 i ysgrifennu’r nofel Gymreig fawr a theithio o gwmpas fel Jack Kerouac! Nid oedd yn gwbl lwyddiannus ond eto roedd yn adeg bifodol yn fy nhaith fel awdur. Cefais tua 15 swydd. Gwnes i adael neu cefais y sac gan bob un, gwnes i briodi, wedyn brifo fy nghefn a chael llawdriniaeth ar fy asgwrn cefn a gostiodd $9000 a chafodd fy ngwraig affêr a’m gadael tra roeddwn yn gwella!!- deunydd gwych ar gyfer barddoniaeth.
Wedyn dychwelais i Gymru ym 1992 gyda chariad newydd ei ddarganfod at y lle. Efallai roeddwn wedi dioddef o ‘Hiraeth’.
Perfformiwyd eich cerdd “Guerilla Tapestry” yn agoriad cyngerdd “Lleisiau Cenedl” Cynulliad Cymru yn 2004. Sut daeth hynny i fod?
Yn y flwyddyn 2000 rwyf yn credu, ac roedd fy nrama Everything Must Go wedi bod yn eithaf llwyddiannus ac wedi teithio o gwmpas y DU. Roedd Michael Bogdanov wedi’i gweld (yn drist, nid yw ef gyda ni mwyach) ac wedi ysgrifennu ychydig o’m gwaith a dewis y darn hwnnw i’w ddarllen gan Matthew Rhys, Rakie Ayola, Andrew Howard ac Ioan Gruffydd a oedd yn ifanc ac nid oeddent yn enwog iawn ar y pryd. Byddaf bob amser yn cofio Huw Edwards yn ei chyflwyno “and now for the voice of post-industrial Wales…..” a gweld y teulu brenhinol gwirion yn colli diddordeb!!
Rydych wedi gwneud llawer o waith i annog awduron, gan gynnwys dosbarth meistr am wythnos yng Ngŵyl y Gelli a sefydlu grŵp i awduron ifanc yn Sefydliad Glowyr y Coed Duon? Ydy hi’n bwysig meithrin talent a datblygu’r genhedlaeth nesaf o awduron?
Yn bendant. Roedd hynny nôl ym 1995 rwyf yn meddwl, ac ers hynny rwyf wedi ceisio rhannu geiriau a hybu pobl iau i rannu eu straeon a mynegi eu hunain. Rwyf yn credu bod y celfyddydau yn rhan hanfodol o’n datblygiad dynol ac yn gallu cynnig cymaint o ran meithrin hunan-hyder, cynyddu ein hunan-barch, gan roi hunaniaeth inni, cryfhau ein harfogaeth seicolegol a rhoi sgiliau cymdeithasol hanfodol inni ochr yn ochr â’r llawenydd a’r boddhad pur wrth greu straeon, cerddi, dramâu a chaneuon. Hefyd rwyf wedi ceisio mynd â geiriau i Gartrefi Nyrsio, Unedau Iechyd Meddwl, canolfannau i ffoaduriaid, llochesi Trais Domestig a’r gymuned ehangach. Mae’r rhain wedi bod ymhlith yr adegau mwyaf dyngarol yn fy mywyd. Dywedodd Arthur Miller, ‘I write my plays to make people feel less alone” ac rwyf wir yn credu hyd heddiw mai dyna’r hyn y mae celfyddyd yn ei wneud. Wrth ei chreu a’i threulio.
Fel dywedodd James Baldwin -
“You think your pain and your heartbreak are unprecedented in the history of the world, but then you read.”
"Fe’m denir i fod yn dyst i’r bobl, y bywydau, y lleoedd a’r materion rwyf yn teimlo’n gryf amdanynt ac mae angen imi ysgrifennu amdanynt."
Mae gan lawer o’ch gwaith thema wleidyddol neu grefyddol, yn taflu goleuni ar anghydraddoldeb a dioddefaint yn aml. O ble y daw eich ysbrydoliaeth?
Daw ysbrydoliaeth o nifer o ffynonellau o’m bywyd fy hun wrth gwrs, ac rwyf yn meddwl amdanaf fy hun yn ‘awdur method’ gan fod y profiad o fyw yn cael ei ddiferu yn llawer o’r gweithiau rwyf yn eu creu o farddoniaeth i ddramâu. Rwyf yn gweld gwleidyddiaeth mewn addysg, mewn ffiniau, yn y Frenhiniaeth, mewn polisïau tai, mewn siopa, lle mae pobl yn ymgynnull ac mewn cyfleoedd. Gan hanu o gymoedd Cymru, mae gennyf ymdeimlad dwys o anghyfiawnder, o frwydro, o ymdrechu am degwch, o ddicter ac o werthfawrogi’r prydferthwch sydd o’n cwmpas. Fe’m ganwyd yn Nhredegar, cartref Aneurin Bevan a man geni’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Fe’m magwyd gyda hanes y Siartwyr, Merched Beca, Gwrthryfel Merthyr a Streic y Glowyr y gwnaethant i gyd dreiddio i’m pen a’m pin. Rwyf newydd orffen ysgrifennu albwm gyda James Dean Bradfield yn seiliedig ar fywyd ac etifeddiaeth Victor Jara sy’n atseinio cymaint yn y byd heddiw er y lladdwyd ef 47 mlynedd yn ôl. Fe’m denir i fod yn dyst i’r bobl, y bywydau, y lleoedd a’r materion rwyf yn teimlo’n gryf amdanynt ac mae angen imi ysgrifennu amdanynt.
Roeddwn yn dwlu ar farddoniaeth Idris Davies hefyd –
'High summer on the slag heaps And on polluted streams, And old men in the morning Telling the town their dreams.'
Hefyd darllenais i ‘Still I Rise’ gan Maya Angelou, a gwnaeth y bennod ganlynol fy nharo fel roced ….
‘You may shoot me with your words, You may cut me with your eyes, You may kill me with your hatefulness, But still, like air, I’ll rise.’
Y cwbl sydd ei angen yw gweld y byd ac yn benodol y DU ar hyn o bryd er mwyn gweld y bwlch enfawr rhwng y bobl ffodus a’r rhai anffodus, y meddwl amdanyn nhw ac amdanom ni y teflir goleuni arno gan bandemig y Coronafeirws. Mae’n hanfodol ein bod yn gofyn pam a sut ynghylch sylwadau o’r fath.
Nid wyf byth yn derbyn comisiwn nad wyf yn credu ynddo.
O ran crefydd rwyf yn teimlo ei bod yn ddull rheoli ac yn obaith ffug, gydag ymdeimlad dwfn o anghydraddoldeb a rhagfarn er enghraifft y ffordd mae rhan fwyaf y crefyddau’n trin menywod a’r gymuned LGBTQ. Rwyf yn teimlo na ddylai dim byd fod yn anghyffyrddadwy nac wedi’i glustnodi i atal cwestiynau neu feirniadaeth, ac mae’n rhaid bod yn ddewr a gofyn y cwestiynau hynny os ydym yn mynd i fyw mewn cymdeithas rydd a chyfrifol.
“What can be asserted without evidence can also be dismissed without evidence.” Christopher Hitchens
Mae eich brawd Nicholas yn aelod o’r band y Manic Street Preachers. Gwnaethant ddwyn enw eich drama, “Everything Must Go” ar gyfer eu halbwm llwyddiannus o’r un enw. Ydych chi wedi cydweithredu ar lawer o brosiectau gyda’ch gilydd? (Hefyd sylwais ar linell yn Guerilla Tapestry “Soul against the Gold”. A wnaethant ddwyn honno ar gyfer eu sengl “Gold against the Soul”?)
Do, ychydig o ddarnau ond rwyf wedi gweithio gyda James ar ragor. Mae wedi creu traciau sain ar gyfer llawer o’m dramâu ac fel rwyf wedi sôn amdano rydym wedi creu’r albwm Victor Jara. Ond mae Nick a minnau wedi bod yn gefnogol iawn o waith ein gilydd ac ysgrifennodd Nick gân hyfryd ar gyfer fy nrama Before I Leave yn 2016.
O ran y llinell yn fy ngherdd …naddo, nhw oedd yn gyntaf yno. Roeddwn yn hoff o’r syniad o’i gwrthdroi, felly “soul against the gold”.
Mae eich gwaith yn cynnwys y gair llafar, barddoniaeth, cerddoriaeth a ffilm. Pa un o’ch prosiectau ydych chi’n fwyaf blach ohono a pham?
Roedd fy nrama gyntaf ‘Everything Must Go’ yn foment fendigedig pan roedd Theatr Sherman yn llawn am dair wythnos a chafodd pobl nad oeddent erioed wedi bod i’r theatr o’r blaen ei heffeithio gan y ddrama. Roedd hynny yn sgîl gweledigaeth stoicaidd y cyfarwyddwr Phil Clark. Wedyn ‘Before I Leave’ a ysbrydolwyd gan gôr Cwm Taf ym Merthyr, ac roedd y perfformiad lle daeth y côr go-iawn i’r ddrama yn wirioneddol wefreiddiol ac yn syfrdanol.
Llyfr y byddai wedi bod yn well gennyf beidio â’i ysgrifennu oedd ‘My Bright Shadow’, sy’n trafod colli fy Mam annwyl yn 2018.
Ar raddfa lai, unwaith eich bod yn dweud yr hyn rydych yn bwriadu ei ddweud mewn cerdd. Mae cerddi a lwyddodd i eirio’r dicter yn erbyn polisi Treth Ystafell Wely'r Llywodraeth Dorïaidd neu fod yn dyst i adael perthynas a oedd yn dreisiol yn ddomestig, neu’n rheoli’n gymhellol neu’r holl golled a galar wrth golli fy nau riant o fewn 14 mis o’i gilydd, yn foddhaus i awdur. I fi, nid adolygon sy’n bwysig na’r hyn y mae awduron eraill yn ei ddweud, ond y bobl sy’n cael eu cyffwrdd a’u heffeithio gan y gwaith.
Mae rhai o’ch gweithiau wedi denu beirniadaeth yn y gorffennol. Gydag ôl-ddoethineb, a fyddech yn gwneud yr un peth eto?
Yn bendant. Mae hi i gyd yn rhan o daith person creadigol. Mae’n rhaid ichi siarad am yr hyn rydych yn poeni amdano. Peidiwch â’i wneud am enwogrwydd, arian na sylw – gwnewch ef er mwyn aros yn fyw.
"Byddwn yn argymell Abertawe’n llwyr i’r rheiny sy’n dechrau ar eu llwybr addysg ifanc eu hun."
Rydych yn sôn am Abertawe’n bod yn rhan bifodol yn eich bywyd. Pa gyngor a fyddwch yn ei roi i rywun sy’n meddwl am Abertawe ar gyfer ei brofiad yn y Brifysgol?
Roedd Abertawe’n gyfnod arbennig iawn. Cyfnod i holi cwestiynau, meddwl am fy nghraidd mewnol a’r gymdeithas rydym yn byw ynddi. Roedd yn brofiad a oedd yn meithrin yr ysbryd o’r sgiliau ymarferol a’r annibyniaeth roeddwn yn dechrau eu meithrin, cyllido a dysgu ffyrdd o estyn swm bach o arian i’r syniadau mwy haniaethol sef dinasyddiaeth a thwf creadigol yr oeddwn yn gallu eu meithrin, a daeth hynny gan diwtoriaid deallus, amyneddgar a charedig a oedd yn cynnig i ni’r myfyrwyr ceciog lwybr academaidd hygyrch a oedd yn llawn gwybodaeth a phrofiad a achosodd imi ddarganfod fy llais creadigol cryf. Byddwn yn argymell Abertawe’n llwyr i’r rheiny sy’n dechrau ar eu llwybr addysg ifanc eu hun. Llyfrau, y môr, pêl-droed, dadlau, gofod, syniadau, ac ysbrydoliaeth. Dylai addysg gynnwys dweud wrth bobl ifanc sut i feddwl, nid beth.
Heb yn wybod i mi ar y pryd roeddwn i’n treulio fy mlwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Abertawe yn Neuadd Lewis Jones, a enwyd ar ôl yr awdur a oedd yn gynhyrfwr llawn amser dros Fudiad Cenedlaethol y Gweithwyr Di-waith, wedi arwain llawer o ymdeithiau newyn, wedi ysgrifennu dwy nofel epig am gyflwr y dosbarth gweithiol ac wedyn wedi marw’n drychinebus ym 1939 oherwydd trawiad ar y galon, ar ôl siarad mewn dros 30 cyfarfod mewn un diwrnod i ofyn am gymorth ar gyfer Gweriniaeth Sbaen. Rwyf dim ond yn gallu breuddwydio, ond rwyf yn gallu codi fy mhin ac ysgrifennu …….