BSc Gwyddor Chwaraeon, Dosbarth o 2009.
Arweinydd, Mentor, Hyfforddwr, Air Row.
Sut gwnaethoch chi ddechrau ymddiddori mewn Rygbi?
Treuliais i’r mwyafrif o benwythnosau fy mhlentyndod yng Nghlwb Rygbi Waunarlwydd yn gwylio fy nhad yn hyfforddi a’m brawd yn chwarae. Dyma le cychwynnodd fy nghariad at y gêm a'r bobl sy’n ymwneud â hi. Yn anffodus, nid oedd unrhyw dimau merched iau lleol, ond roeddwn yn ysu am ymuno â thîm Menywod Waunarlwydd. Roedd fy mam yn bendant fy mod yn gorfod aros nes fy mod yn 17 oed oherwydd elfen gorfforol y gêm, felly’r wythnos ar ôl fy mhen-blwydd yn 17 oed es i sesiwn hyfforddi ac ychydig wythnosau'n ddiweddarach chwaraeais fy ngêm gyntaf. Y tymor canlynol, dechreuais yn y Brifysgol a pharhau i ddatblygu fy ngêm a’m cariad at rygbi a'r cyfeillion y mae wedi eu rhoi i mi.
Rydych chi wedi mynd o chwarae i dîm Rygbi'r Brifysgol i fod yn Bennaeth Rygbi'r Brifysgol. A oedd y newid o fod yn chwaraewr i fod yn hyfforddwr yn un hawdd?
Roedd y trawsnewidiad yn un eithaf hawdd. Ar ôl graddio treuliais gyfnod fel llywydd yr Undeb Athletau. Bûm hefyd mewn gwahanol rolau o fewn y Brifysgol cyn dod yn Bennaeth Rygbi. Mae'r holl brofiadau gwahanol hyn wedi dysgu llawer o wersi gwerthfawr i mi. Rwyf wedi casglu gwybodaeth sydd wedi fy helpu i fod â'r hyder i dyfu i mewn i’m rôl bresennol fel Pennaeth Rygbi.
Rydych chi'n arwain y rhaglenni perfformiad elît ar gyfer gêmau'r Menywod a Dynion yn y Brifysgol. Does dim llawer o hyfforddwyr benywaidd mewn safleoedd o arweinyddiaeth, ond a ydych chi'n teimlo bod pethau'n dechrau newid?
Mae pethau'n dechrau newid ym myd rygbi. Nid oes llawer o hyfforddwyr benywaidd ar hyd y lle ond yn bendant mae mwy nawr nag yr oedd 10 mlynedd yn ôl. Rygbi menywod yw’r gamp sydd wedi tyfu gyflymaf yn y byd yn ddiweddar, a chredaf fod hynny wedi cynorthwyo menywod i fod â’r hyder i ymgymryd â rolau hyfforddi.
Fe wnaethoch chi raddio yn 2009 gyda gradd mewn Gwyddor Chwaraeon. Ydych chi'n defnyddio'ch gradd yn eich swydd bob dydd ?
Mae agweddau ar fy ngradd Gwyddor Chwaraeon yn fy nghynorthwyo i gyflawni fy rôl i lefel well. Rwy'n ceisio cadw i fyny gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am ymchwil a mentrau newydd yn y maes. Mae modiwlau o’m cwrs gradd fel cryfder a chyflyru, ffisioleg, seicoleg a biomecaneg yn cynorthwyo gyda datblygiad chwaraewyr; mae adnabod y myfyrwyr fel athletwyr a'r ffordd y mae'r corff yn ymateb i lwyth hyfforddi yn helpu i wella perfformiad.
Roeddech chi yn y Brifysgol ar yr un pryd ac mae'r ddau ohonoch ar hyn o bryd yn gapten ar ochrau hŷn Cymru. Ydych chi'n cymharu nodiadau gydag Alyn Wyn Jones ac yn dymuno pob lwc i'ch gilydd ar gyfer gêmau’r chwe gwlad?
Mae Alun Wyn yn fodel rôl gwych ac mae gen i barch enfawr tuag ato. Mae ganddo yrfa rygbi broffesiynol hynod lwyddiannus, mae'n arweinydd gwych ac mae ganddo lawer i record ryngwladol. Mae hi bob amser yn braf sgwrsio ag Al ond fel arfer mae'n fater o “helo” cyflym a “sut mae pethau?” gan mai fel arfer sgwrs wrth basio yn y Ganolfan Ragoriaeth Genedlaethol adeg sesiwn hyfforddi ydyw.