Baglor ag Anrhydedd yn y Cyfryngau a Chyfathrebu. 2012
Rheolwr Strategaeth SEO yn IG Group
Roeddem yn falch iawn o glywed gan Tamara a dysgu ble mae bywyd wedi mynd â hi. Mae'n amlwg bod ei hymrwymiad i waith caled a datblygiad proffesiynol parhaus wedi sicrhau gyrfa gyffrous iddi ers gadael Prifysgol Abertawe. Ar ôl dechrau ysgrifennu copi ar gyfer asiantaethau cyfryngau amrywiol a mentrau technoleg bach, symudodd i SEO a’r cam nesaf yn ei gyrfa oedd IG. Mae Tamara bellach yn strategydd cynnwys gwefan ar gyfer un o'r gwefannau newyddion ac ymchwil rydym yn eu defnyddio, DailyFx.
Beth oedd wedi dod â chi i Brifysgol Abertawe?
Y lleoliad, y neuaddau preswyl, yr ysbryd cymunedol a llu o ddigwyddiadau i’r myfyrwyr, yn ogystal â’r hyblygrwydd i gyfuno modiwlau ar draws adran y Dyniaethau i lunio cwrs a oedd yn canolbwyntio’n bennaf ar astudiaethau’r cyfryngau gyda sgiliau newyddiaduraeth ond roedd hefyd yn cynnwys elfennau o hanes, cymdeithaseg a mwy.
Sut byddech chi’n disgrifio eich amser yma? Oes gennych lawer o atgofion hapus o’ch cyfnod yn Abertawe?
Mae gen i lawer o atgofion hapus a dw i wedi gwneud ffrindiau am oes. Roedd y cwrs wedi cydio ynddo i ac wedi’i strwythuro’n dda ac ar ben hynny roedd y darlithwyr yn gefnogol ac yn wybodus. Roedd y llyfrgell yn adnodd ardderchog i fyfyrwyr a champws y myfyrwyr yn lle bywiog a diogel. Roedd y neuaddau preswyl yn ystod y flwyddyn gyntaf hollbwysig mewn cyflwr da, yn ddiogel ac yn gyfforddus.
Roedd bywyd myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe yn hwyl a byddai llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau magu cymuned yn cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn (wythnos y glas, varsity, mynd o dafarn i dafarn, carnage, dawns yr haf) a byddai’r bywyd nos lleol (sy’n eithaf adnabyddus am ystod y lleoliadau a’r nosweithiau i fyfyrwyr) bob amser yn golygu noson wych allan.
Dywedwch wrthon ni am eich llwybr gyrfaol a’ch taith tuag at eich rôl bresennol gydag IG Group?
Ar ôl graddio o Abertawe yn 2012, symudais i Bournemouth i wneud diploma lôn gyflym yr NCTJ (National Council for the Training of Journalists) ym mhapur newydd y Daily Echo.
Ym mis Chwefror 2013 dechreuais gyfnodau o interniaeth mewn nifer o asiantaethau newyddion a byd adloniant, cylchgronau cenedlaethol a digidol ac yna gyda gwefan archebu digwyddiadau (DesignMyNight.com) - gan roi fy sgiliau newyddiadurol ar waith a darganfod y datblygiadau cynnar ym maes optimeiddio peiriannau chwilio (SEO) a marchnata digidol allweddol.
Yna yn 2014 cefais fy swydd amser llawn gyntaf mewn asiantaeth marchnata B2B (Memiah) fel golygydd cynnwys digidol, gan symud i rôl weithredol SEO 18 mis yn ddiweddarach mewn asiantaeth marchnata digidol (MRS Web Solutions). Roeddwn yn awyddus i gael her newydd a mwy sylweddol – a gyda golwg ar gyfuno fy nghariad at waith gwirfoddol a chynnwys digidol ym maes SEO, yn 2016 derbyniais swydd fel golygydd cynnwys gydag elusen genedlaethol a symud i Lundain.
Yn yr elusen roeddwn yn gallu llywio a dylanwadu ar strategaeth y cynnwys, a hynny er mwyn blaenoriaethu arferion gorau ym maes SEO tra’n defnyddio fy sgiliau newyddiadurol i gyfweld â phobl mewn astudiaethau achos ac arbenigwyr meddygol, rhwydweithio mewn achlysuron, trefnu a chyfarwyddo sesiynau tynnu lluniau a chyflwyno a chyfarwyddo fideos addysgol.
Tua diwedd 2017, daeth un o recriwtwyr Kode sy’n gweithio i IG i gysylltiad â mi. Gofynnodd imi fynd i gyfweliad ar gyfer swydd rheolwr SEO, ac ers hynny dw i ddim wedi edrych nôl.
Pa gyngor neu arweiniad fyddech chi’n ei roi i fyfyrwyr presennol Abertawe?
Dw i’n siŵr bod llawer wedi newid yn Abertawe ers imi fod yn fyfyrwraig yno, ond byddwn i’n argymell i bawb wneud y gorau o’r traeth a mynd am dro i Benrhyn Gŵyr (hyd yn oed pan fydd hi’n wlyb) a’r llyfrgell (yn enwedig pan fydd hi’n wlyb) gan fod y ddau yn llefydd gwych i ddianc ac i gael rhywfaint o amser i ffwrdd o brysurdeb bywyd myfyriwr.
Roeddwn i’n hoffi’n fawr yr ystod o lyfrau yn y llyfrgell a’r cwtshys bach lle gallwn i dreulio oriau yn pori dros fy ngwaith (#gîc). Dw i hefyd yn argymell cymryd rhan mewn cynifer o weithgareddau, chwaraeon a digwyddiadau ag sy’n bosibl gan fod hyn yn ffordd wych o wneud ffrindiau a gofalu bod bywyd prifysgol hyd yn oed yn fwy pleserus a buddiol.
Ers ichi raddio, pa her yw’r un fwyaf hyd yn hyn?
Dysgu sgiliau a gwersi bywyd hollbwysig yn nyddiau cynnar fy ngyrfa – megis ymgyfarwyddo â gwneud llawer o interniaethau cyn cael swydd go iawn, bod yn hyderus a chredu ynddoch chi eich hun yn ystod cyfweliadau ac interniaethau, dygymod â chael eich gwrthod, a gwybod pryd i gerdded i ffwrdd a dod o hyd i rywbeth gwell er mwyn eich iechyd, llwyddiant yn y tymor hir a hapusrwydd.
Mae syndrom y twyllwr wedi bod yn her barhaus ac mae’n parhau i fod felly, ond rwy’n meddwl bod hyn yn fy symbylu i wella ac i weithio’n galetach.
Pa rai yw’ch gobeithion a’ch dyheadau ar gyfer y dyfodol?
Parhau i wneud cynnydd, gwella, dysgu, goresgyn problemau a thyfu. Parhau i gwrdd â phobl o’r un anian â mi a’r bobl nad ydyn nhw felly fel y galla i ddysgu ganddyn nhw, cael fy herio a chael fy ysbrydoli. Yn ail, parhau i gyflawni pethau mwy heriol. A mwynhau’r daith a hel atgofion ar hyd y ffordd.
Pe gallech chi ail-fyw un diwrnod neu brofiad yn y Brifysgol, beth fyddai hwnnw?
Mae gormod gen i i ddewis o’u plith! Pe gallwn i gyfuno cytser o brofiadau, dyddiau ac atgofion mewn wythnos yn unig, bydda hynny’n ardderchog. Yn ddiweddar gwnes i lyfr lluniau ar gyfer pen-blwydd un o’m ffrindiau gorau (y cwrddais â hi yn fy neuadd breswyl yn Abertawe) ac roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw yn perthyn i’r blynyddoedd pan oedden ni’n fyfyrwyr.