YSGRIFAU COFFA ALUMNI
Os hoffech gyflwyno coflith, e-bostiwch: alumni@swansea.ac.uk
Os hoffech gyflwyno coflith, e-bostiwch: alumni@swansea.ac.uk
Graddiodd Capten Simon Culshaw mewn Daearyddiaeth a Chefnforeg ym 1972, yn 32 oed. Treuliodd Capten Culshaw bron i 20 mlynedd ar y môr yn gweithio i'r Llynges Fasnachol. Roedd y rhan fwyaf o'i amser cyn ei astudiaethau ar longau ymchwil pegynau'n bennaf cyn iddo ddechrau astudio yn Abertawe. Ar ôl graddio, daeth yn Brif Swyddog llong ymchwil brenhinol o'r enw John Biscoe am un tymor cyn ymuno â'r diwydiant olew a nwy ar y môr a gweithio ym mhedwar ban byd. Roedd hefyd yn rhan o waith mapio a pheilota llwyfannau olew drilio ar y môr cyn symud i faes rheoli gwaith adeiladu ym Môr y Gogledd. Aeth Capten Culshaw yn ôl i Abertawe ym 1992 ac ennill gradd Meistr Athroniaeth mewn cynhwyso lloerenni o bell. Wedi hyn, dychwelodd i'r diwydiant olew yng Nghanada ac yn yr Arctig, lle bu'n cynnal prosiectau amgylcheddol, e.e. cynnal rhagolygon tywydd ar gyfer awyrennau yn y Gogledd, datganiadau o effaith amgylcheddol mewn sawl lleoliad yn yr Arctig.
Ym 1984, dechreuodd weithio gyda CTS Marine Consultants Ltd. Roedd y cwmni'n ymdrin â'r diwydiant adeiladu ac yna newidiodd i'r diwydiant amgylcheddol a dechrau ymdrin â chyfyngiadau ffiniau morol.
Bu farw Maggie Telfer yn dawel yn ei chartref ym Mryste yn 63 oed. Roedd ei phartner o 38 mlynedd, Richard Jones a'u plant, Caitlin (29) a Mena (23) wrth ei hochr.
Astudiodd Maggie MSCEcon yn Abertawe o 1977 i 1980 a chyfarfu â Richard gyntaf mewn disgo Nadoligaidd yn neuaddau preswyl Clun ym 1977. Ar ôl mynd ar hyd llwybrau gwahanol, gwnaeth Maggie a Richard ailgydio yn eu perthynas yn gynnar ym 1985 ar ôl i Richard ddychwelyd i Abertawe ym 1984 i weithio fel newyddiadurwr ar gyfer y South Wales Evening Post. Ar yr adeg honno roedd Maggie'n rheoli lloches nos Llety Abertawe ar gyfer y Digartref Sengl.
Yn hwyrach ym 1985, dechreuodd Maggie a Richard fyw gyda'i gilydd ym Mryste pan gafodd Maggie ei hapwyntio'n gydlynydd Prosiect Cyffuriau Bryste a gafodd ei lansio ym 1986.
Bu Maggie'n cynnal Prosiect Cyffuriau Bryste am weddill ei bywyd ac yn 2007 derbyniodd OBE am ei gwaith.
Cynhelir gwasanaeth coffa cyhoeddus am fywyd Maggie a'i gwaith yn St George's, Brandon Hill, Bryste ar 10 Mawrth, 2:30pm.
Mae teyrnged Prosiect Cyffuriau Bryste i Maggie drwy'r ddolen ganlynol https://www.bdp.org.uk/bristol-drug-project/sad-news-from-us/
Yn 96 oed, bu farw John Orion Thomas, Doethur mewn Ffiseg a chyn-ohebydd byw BBC Wales ar laniadau Apollo ar y lleuad.
Ganwyd John Orion Thomas ym 1926 yn Sunny Bank, Pengelli, Cymru, i’w rieni, Maggie Evans a Thomas Evans Thomas. Gyda’r nod o ddianc o bentrefi mwyngloddio Cymru, cyflawnodd radd ym Mhrifysgol Abertawe pan oedd yn 17 oed. Caniataodd hyn iddo ennill ysgoloriaeth, ac yn ddiweddarach daeth yn llywydd Prifysgol Abertawe lle bu'n astudio ar gyfer ei radd Meistr mewn Ffiseg. Roedd ganddo ddiddordeb mawr bob amser mewn cerddoriaeth, ac enillodd Eisteddfod Gadeiriol Myfyrwyr Cymru ym 1945, yn canu’r ffidil, ac eto ym 1953, gyda dehongliad ei gôr o 'Mawr yw Jehofa'.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, aeth ei Wasanaeth Cenedlaethol ag ef i Lundain, lle bu'n cynorthwyo i ddatblygu Radar ar gyfer canfod awyrennau milwrol.
Dychwelodd i Abertawe i gwblhau ei PhD ym 1953, cyn symud i Labordai Cavendish yng Nghaergrawnt, lle cyfarfu â'i wraig o bron 70 mlynedd, Denise. Fe'i penodwyd yn Gymrawd yng Ngholeg Fitzwilliam ym 1959-63 lle bu'n diwtor mewn Ffiseg a pharhaodd ei ymchwil i radio a synhwyro o bell. Yma, dysgodd hedfan awyrennau Tiger Moth a derbyniodd Dystysgrif Hyfedredd gan y Corfflu Hyfforddiant Awyr.
Ym 1963 symudodd y pâr i Brifysgol Stanford, Califfornia, lle bu’n ddarlithydd gwadd, cyn ymuno â Chanolfan Ymchwil Ames NASA fel Cynorthwy-ydd i Bennaeth Gwyddorau'r Gofod. Yma y datblygodd ei ddiddordeb mawr yng ngwyddoniaeth y gofod, ffiseg atmosfferig a strwythur yr ïonosffer, sef yr haen o atmosffer y ddaear, 80-1000 cilomedr uwchben y ddaear, sy'n cynnwys crynodiad uchel o ïonau ac electronau – ac sy’n gallu adlewyrchu tonnau radio. Roedd ei ymchwil yn y maes hwn yn gymorth wrth ddylunio a gweithredu Radar a Thelegyfathrebu sy'n dal i gael eu defnyddio heddiw.
Pan ddychwelodd i'r DU, bu'n darlithio yng Ngholeg Imperial rhwng 1965 a 1986, a daeth yn olygydd y Journal of Remote Sensing, yn Gadeirydd y Remote Sensing Society, ac yn Llywydd y Gymdeithas yn ddiweddarach.
Ym 1969 oherwydd ei dreftadaeth Gymraeg a'i brofiad yn NASA, bu’n darlledu’n fyw ar y glaniadau ar y lleuad i gynulleidfa Cymru ar gyfer BBC Wales.
Tua'r adeg hon sefydlodd ei gwmni meddalwedd gyfrifiadurol ei hun. Gan adeiladu ar ei arbenigedd mewn gwyddoniaeth atmosfferig a synhwyro o bell ymhlith pethau eraill, helpodd y Weinyddiaeth Amddiffyn i ddyfeisio technegau i olrhain symudiadau llongau tanfor o'r gofod, drwy ganfod y tonnau ar wyneb y cefnforoedd (techneg sydd wedi'i mabwysiadu ers hynny i gynorthwyo cadwraeth drwy olrhain gwahanol rywogaethau morfilod wrth iddynt ymfudo ledled y byd).
Bu farw John Orion Thomas yn dilyn salwch byr mewn cartref nyrsio yn Abingdon, Swydd Rydychen lle'r oedd wedi treulio'i 3 blynedd olaf gyda'i wraig Denise. Fe’i rhagflaenir gan ei frodyr Hugh, Peris, Tyrell ac fe'i goroesir gan ei chwaer, Margaret Evans, ei wraig Denise Thomas, eu plant Adrian, Martin, Allison, Julian a Julia a'u 6 o wyrion.