Andy Bush. Absolute Radio
BA, Astudiaethau Americanaidd
Dosbarth 1998
Gadewch i ni ddechrau o'r dechrau: Pam Prifysgol Abertawe?
Syrthiais mewn cariad mewn ffordd â'r syniad o ddilyn cwrs Astudiaethau Americanaidd, oherwydd roedd fy athro Astudiaethau'r Cyfryngau yn yr ysgol yn Nyfnaint wedi gwneud y cwrs gradd hwnnw. Ac roedd yn bwnc da gan ei fod yn cynnwys tipyn o bopeth gyda chymysgedd o wleidyddiaeth a hanes a phethau felly. Felly, roeddwn i'n meddwl ei fod yn swnio'n ddiddorol. Yn amlwg, roedd elfen blwyddyn dramor y cwrs yn atyniad go iawn arall i mi hefyd. Does dim llawer o brifysgolion yn cynnig hynny. Dydw i ddim yn gwybod pam, gan fy mod wedi mynd i weld cryn dipyn o brifysgolion gwahanol, ond fe wnes i gofrestru â Phrifysgol Abertawe ar sail y prosbectws yn unig; Es i ddim i gael golwg o gwmpas y brifysgol neu'r dref, sy'n wallgof. Ond dyna sut y bu i mi gyrraedd Abertawe. Dyna oedd fy newis cyntaf ond wnes i ddim ymweld â'r lle yn gyntaf. Cefais fy rhoi yn Sibley, yn un o'r blociau mawr, gan rannu ystafell gyda myfyriwr arall.
Sut brofiad oedd rhannu?
Roedd e'n dilyn cwrs mewn peirianneg sifil. Boi o Borthcawl. Dim ond un tymor y gwnaeth e bara cyn rhoi'r gorau iddi. Roeddwn i'n arfer dod yn ôl o ddarlithoedd, a byddai ef yn eistedd yno’n chwarae gemau fideo. Dwi ddim yn meddwl iddo gymryd rhan o gwbl. Fe wnes i symud i fyw gyda ffrindiau ym mhentref myfyrwyr Hendrefoelan ar ôl hynny. I mi, dyna lle wnaeth fy mhrofiad yn y brifysgol ddechrau. Roeddwn i ychydig yn unig cyn hynny ac ar y pryd mae'n debyg fy mod i ychydig yn fwy swil nag ydw i nawr. Cymerodd ychydig o amser i gymysgu â phobl. Roeddwn i wrth fy modd yn Hendrefoelan - roedd e'n lle gwych.
Wnaethoch chi weithio gyda radio myfyrwyr a phethau felly?
Na, dim o gwbl. A dweud y gwir, doedd gen i fawr ddim diddordeb mewn radio, nes i mi ddechrau ymwneud â radio’n gwbl anfwriadol pan symudon ni i Fryste. Ro'n i'n chwarae mewn band yn Abertawe. Ac yna fe wnaethon ni benderfynu ein bod ni'n mynd i geisio cael ein harwyddo. Felly, symudon ni i'r ddinas fawr agosaf, sef Bryste, ac roedden ni i gyd yn byw yno gyda'n gilydd. Fe wnaethon ni'n eithaf da, gan chwarae ar hyd a lled y wlad ac ati. Ond wedyn mi wnes i syrthio i mewn i fyd radio gan roi diwedd ar fy ngyrfa gerddorol fyw. Dechreuais wneud y sioe frecwast ym Mryste. A doedd dychwelyd o Leeds am 2am ac wedyn codi am hanner awr wedi pedwar i fynd i wneud sioe frecwast ddim yn opsiwn. Felly, roedd rhaid i mi ddewis y naill neu'r llall.
Rydych chi wedi bod ar y radio ers amser maith. Sut mae rôl radio fel maen prawf diwylliannol wedi newid ym mywyd Prydain ers i chi ddechrau yn eich gyrfa?
Mae wedi newid llawer, ond yw e? Mae'r diwydiant radio wedi newid yn aruthrol. Rwy'n credu fy mod i wedi ymuno â'r cyfrwng pan oedd yna lawer o orsafoedd radio. Erbyn hyn, maen nhw wedi cael eu rhannu ymysg tri chwmni anferthol fwy neu lai sy'n berchen ar yr holl orsafoedd ac maen nhw wedi ail-frandio bob un. Mae'r orsaf fach roeddwn i'n gweithio ynddi, mae bellach wedi dod yn orsaf Heart, ac maen nhw wedi rhwydweithio llawer ohono. Mae'n anoddach mynd i mewn i'r maes erbyn hyn. Mae'r cwestiwn a yw Spotify yn mynd i drechu radio wedi bod yn dipyn o bwnc llosg ac, os gall pobl ddewis eu rhestri chwarae eu hunain nawr, a oes angen gorsaf radio arnyn nhw o gwbl. Wel, rwy'n credu bod y cyfnod clo wedi cadarnhau'r cysylltiad rhwng y gynulleidfa a'r radio yn fwy nag erioed o'r blaen. Mae'r cariad at radio wedi'i ail gynnau mewn gwirionedd. Fe gawson ni lawer o negeseuon gan bobl oherwydd ein bod ni ar yr awyr drwy gydol y cyfnod clo. Roedd pobl yn ei chael hi'n anodd o ran iechyd meddwl. Fe wnaeth y radio ein helpu i ymdopi â'r cyfnod hwnnw oherwydd roedd pawb yn teimlo fel eu bod yn cysylltu â phobl eraill - a phawb yn yr un sefyllfa. Ac ie, mae rhestri chwarae yn iawn, ond mae 'na elfen ddiwylliannol i'r broses o wrando ar rywbeth ar yr un pryd a phawb arall. Rydych chi'n gwybod bod pobl eraill yn cymryd rhan yn hynny yn union yr un pryd. Felly rwy'n meddwl bod gwaith cyflwyno radio wedi mynd trwy gyfnod lle'r oedd braidd yn wamal o bosibl yn y 90au, braidd fel sioe deithiol; ychydig yn wirion ac yna mae rhywbeth wedi digwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig yn ystod y cyfnod clo lle cawsoch chi ymdeimlad o ba mor bwysig yw cysylltiad, mae gennych chi ddyletswydd gofal i raddau dros iechyd meddwl pobl a'u lles ac mae pobl yn dibynnu arno fwy a mwy. Rwy'n credu ein bod ni wedi gweld bod pobl yn dibynnu ar eich llais a'ch rhyngweithio yn fwy nag yr oedden nhw efallai ychydig flynyddoedd yn ôl. Felly, mae'n beth da i chwalu'r rhwystrau hynny o ran unigrwydd a chysylltu pobl a gwneud iddyn nhw deimlo eu bod nhw'n rhan o rywbeth yn hytrach na dim ond gwrando ar restr chwarae heb neb y tu ôl iddi.
Mae'n ymwneud â’r math o radio rydych chi’n ei greu. I mi, mae wedi bod yn broses ddwyffordd erioed. Rwyf wedi ceisio cael sgwrs barhaus gyda'r gynulleidfa bob amser, boed hynny trwy'r cyfryngau cymdeithasol neu drwy ddarllen eu negeseuon ar y radio, neu fel rydyn ni'n ei wneud ar y rhaglen Hometime ar Radio Absolute gyda'r gynulleidfa yn creu'r rhaglen mewn gwirionedd. Rydyn ni'n cynnig ambell syniad i'r gwrandawyr, ond mae'r hyn sy'n dod yn ôl ganddyn nhw sef yr hyn rydyn ni'n ei ddarllen ar yr awyr, neu'r eitemau rydyn ni'n eu cynnwys yn y rhaglen, maen nhw mor ddyfeisgar. Maen nhw'n wych. Maen nhw yn creu'r rhaglen lawn cymaint â ninnau. Fydden ni ddim yn gallu ei wneud hebddyn nhw mewn gwirionedd.
Mae gan Absolute Radio ei bersonoliaeth unigryw ei hun. Sut ydych chi'n ei weld yn cyfrannu at ddiwylliant ehangach Prydain?
Rwy'n credu bod gan ddiwylliant Prydain le arbennig i'r gwannaf. Mae'r radio bob amser wedi cael ei ystyried yn wan a dewr o'r cychwyn cyntaf. Mae wedi cyflawni’n llawer gwell na'r disgwyl erioed o ran cyflwynwyr enwog neu wobrau. Rydyn ni wedi ymuno â Bauer, ond rydyn ni wedi cadw ein hunaniaeth. Ac rydyn ni'n rhan bwysig o bortffolio Bauer fel Magic, Hits Radio a Greatest Hits ac ati, sef yr enwau mawr, ond mae yna le bob amser i ddarpariaeth sy'n bodoli ar y ffiniau ac sy'n eithaf beiddgar. A dyna lle mae Radio Absolute yn ffynnu mewn gwirionedd, ac mae hynny'n rôl eithaf allweddol, oherwydd bod radio wedi mynd tuag at y canol. Mae'r enwau mawr, yn fy marn i, yn y tir cyffredin, ond mae lle o hyd i bobl sydd am geisio bodoli ar yr ymylon a mynd mor agos at ymyl y dibyn ag y gallwch chi. A dyna'r math o radio sydd o ddiddordeb i mi.
Pan fyddwch chi'n dweud mynd at ymyl y dibyn. Beth ydych chi'n ei olygu, yn gerddorol? Neu o ran y bobl y byddech chi'n eu cyfweld neu'r eitemau nodwedd rydych chi'n eu cynnwys? Neu a yw'n gyfuniad ohonyn nhw i gyd?
Hynny yw, mae fel cael rhywun fel Frank Skinner ar fore Sadwrn fel cyflwynydd neu Skin o Skunk Anansie yn gwneud sioe gerddoriaeth ar nos Sul neu Tim Burgess o'r Charlatans yn gwneud parti gwrando rheolaidd ar nos Sul i ni. Felly, mae'n wahanol. Dwi'n meddwl bod y sioeau'n gwneud pethau hwyliog a diddorol sy'n wahanol i weddill radio masnachol. Pan ymunais â sioe frecwast Christian O'Connell am y tro cyntaf, fe wnaethom ni ras sgwter anabledd yn arddull Le Mans o amgylch y gylchfan yng nghanol ardal Golden Square yn Soho. Dyw gorsafoedd radio eraill ddim yn meddwl yn y ffordd honno a dweud y gwir.
Mae technoleg yn newid y ffordd rydyn ni'n clywed cerddoriaeth, er ar un adeg radio oedd y lle i glywed cerddoriaeth newydd. Pa heriau a chyfleoedd ydych chi'n eu gweld ar gyfer radio yn y gofod hwnnw?
Rwy'n credu o'n safbwynt ni, dydyn ni ddim wir yn cyflwyno unrhyw gerddoriaeth newydd. Dyw pobl ddim yn troi at y radio i glywed cerddoriaeth newydd. O bryd i'w gilydd, efallai y byddwn ni'n eich cyflwyno i ychydig o Last Dinner Party neu Wet Leg neu rywbeth fel 'na ond mewn ffordd eithaf tawel. Mae'n gymysgedd o'r cyfarwydd ynghyd ag ambell gân gan fandiau newydd. Mae'r senario dydd y farn lle mae Spotify yn cael y bai am ladd radio wedi arwain at greu perthynas symbiotig eithaf braf lle mae pobl yn gwrando ar y radio i glywed yr hyn sy'n gyfarwyddyd, ac am drefn gyfarwydd. Efallai y byddan nhw'n clywed cân newydd ar y radio neu gân dydyn nhw ddim wedi'i chlywed ers amser maith ac yna byddan nhw'n mynd ar Spotify ac yn gwrando ar yr albwm. Ond fydd e ddim yn lleihau eu teyrngarwch o ran gwrando ar Absolute Radio mewn unrhyw ffordd. Mae pobl yn gwrando ar y radio yn y car ac yn y gwaith neu ar y siwrne i'r ysgol. Roedden ni'n meddwl y byddai un ar y blaen, ond maen nhw'n gweithio law yn llaw. Rwy'n credu gyda phodlediadau, byddwch chi'n dewis eich hoff gymeriadau neu eich hoff bynciau, a byddwch chi'n mynd ar drywydd hynny. A gallech chi wneud hynny wrth redeg, neu efallai pan fyddwch chi'n gwneud tipyn o baentio neu bethau creadigol, neu efallai wrth fynd i gysgu neu wrth gymudo. Rwy'n credu bod pobl yn defnyddio sain i lenwi'r darnau mwy diflas o'u bywydau ac er mwyn goleuo a chyfoethogi eu hunain ychydig yn fwy nag y bydden nhw wedi'i wneud o'r blaen. Mae pobl yn gwrando ar lyfrau sain a phodlediadau ac ati ar y trên wrth fynd a dod i’r gwaith. Dydw i ddim yn gweld hynny fel bygythiad i radio oherwydd rwy'n credu bod radio’n mynd i fod yn lle bob amser i gael cysylltiad ac yn fan cychwyn i archwilio synau a phynciau ymhellach. Radio yw'r ffenestr siop.
Gall radio fod yn arf pwerus ar gyfer creu cysylltiad. A yw eich profiad wedi dangos bod Absolute Radio yn meithrin ymdeimlad o gymuned ymhlith gwrandawyr ledled y wlad?
Rwyf wedi gwneud cryn dipyn dros y blynyddoedd dros iechyd meddwl gyda'r sioe. Fe wnes i lawer o gyfarfodydd i bobl ar Zoom yn ystod y cyfnod clo, dim ond i siarad am wahanol bethau oherwydd roedd 'na lawer o bobl unig neu bobl a oedd yn colli persbectif dipyn bach yn ystod y cyfnod clo. Roeddwn i'n arfer gwneud rhywbeth o'r enw "Dim Swyddfa, Parti Swyddfa.” Roedd ar gyfer pobl sy'n hunangyflogedig. Roedden ni'n arfer rhentu tafarn unwaith y flwyddyn adeg y Nadolig a rhoi parti swyddfa iddyn nhw. Roedd gweddill y tîm cyfrifon yn mynd i'r dafarn, felly fe wnaethon ni gynnal parti i'r gweithwyr unigol. Yr hyn sydd wedi bod yn hyfryd yw eu bod nhw’n anfon neges ata i bob blwyddyn, y bobl hynny a gafodd eu cyflwyno i'w gilydd am y tro cyntaf trwy'r cynllun Dim Swyddfa, Parti Swyddfa. Maen nhw'n dal i gyfarfod. Mae pethau felly yn rhoi llawer iawn o foddhad. Rwy'n meddwl bod radio wedi cael effaith enfawr ar gysylltu pobl, a'n defnydd ni o gyfryngau cymdeithasol mewn perthynas â'r sioe radio; mae gwahanol bobl yn gwneud sylwadau ar fforymau neu ar negeseuon Facebook. Bydd llawer o'r gwrandawyr rheolaidd yn siarad ymysg ei gilydd yn sgil y negeseuon rydyn ni wedi'u postio am wahanol faterion. Felly, mae yna ymdeimlad cryfach o gymuned nag erioed o'r blaen.
Felly, yn hynny o beth, mae radio wedi newid. Mae gennych chi'r sioe ei hun, yr orsaf ei hun, ac rydych chi ar y sianeli cyfryngau cymdeithasol hefyd, ac rydych chi'n rhyngweithio â'r bobl sy'n gwrando arnoch chi hefyd. Mae wedi troi’n rhywbeth hollol wahanol. A dyna sut mae'n gweithio. Byddwn ni'n cyflwyno rhywbeth yn y bore, taflu abwyd mewn ffordd, yna bydd pobl yn dod yn ôl atom ni ar Twitter, yna bydda i'n anfon neges yn ôl atyn nhw a gofyn ychydig mwy am y peth, efallai y byddwn ni'n trefnu i wneud galwad ffôn gyda nhw. Mae'n golygu bod modd cael cydweithredu rhyngom ni a'r gwrandawyr. Mae wedi dod yn fwy o beth erbyn hyn sef y ffaith y gallwch chi sgwrsio â phobl trwy'r amser; Rwy'n credu ei fod e’n wych. Rwyf wrth fy modd â hynny, a dydw i ddim yn gwybod a fyddwn i wedi llwyddo ers talwm yn y byd radio lle byddai pobl yn ysgrifennu at y rhaglen. Rwy'n hoffi'r ffaith y gallwch chi gael ymateb ar unwaith i rywbeth neu eglurhad yn syth ar rywbeth neu maen nhw'n dweud rhywbeth fyddech chi byth bythoedd wedi meddwl amdano. A bydd pwnc sioe yn cymryd tro hollol annisgwyl. A dyna'r peth sy’n apelio fwyaf.
Mae Absolute Radio yn adnabyddus am hyrwyddo cerddoriaeth amgen ac indie. Ydych chi'n credu bod yr ysbryd gwrthryfelgar hwn yn cyfrannu at gadw radio Prydain yn ffres a chyffrous?
Yn bendant. Rydyn ni yn hyrwyddo rhai bandiau; Rwy'n credu ein bod ni'n rhoi'r hyn maen nhw ei eisiau i’r gynulleidfa. Dwi ddim yn meddwl bod ein cynulleidfa'r bobl sydd eisiau clywed llwyth o fandiau dydyn nhw erioed wedi clywed amdanyn nhw o'r blaen. Maen nhw eisiau clywed bandiau y maen nhw'n meddwl sy’n wych o hyd, a rhai clasuron. Maen nhw eisiau clywed caneuon maen sy’n gyfarwydd – a chael eu cyflwyno i rywbeth ychydig bach yn wahanol o bryd i’w gilydd efallai. Rydyn ni'n ei gymysgu hefyd gydag eitemau nodwedd ac ambell sgwrs am bynciau amrywiol. Os ydyn nhw am fynd i ddarganfod, wyddoch chi, grŵp pync o dri o Seattle, byddan nhw'n mynd yn syth ar Spotify a gwrando ar hynny, ond efallai nad dyna maen nhw am ei glywed o reidrwydd wrth iddyn nhw wneud eu gwaith cyfrifyddu yng nghanol y dydd yn eu swyddfa gartref. Rwy'n credu bod Absolute Radio yn dal i fod yn feiddgar hyd heddiw, a dyna pam mae wedi cael cystal cydnabyddiaeth yn y gwobrau ac yn y diwydiant am feddwl yn wahanol, ac mae'n denu pobl sy'n meddwl yn wahanol hefyd.
Fe wnaethoch chi ddilyn cwrs Astudiaethau Americanaidd yn Abertawe; rwyf wedi darllen yn rhywle hefyd eich bod chi'n gitarydd Delta blues. Yw diwylliant Americanaidd wedi apelio atoch erioed? Yw hynny wedi dylanwadu ar eich sioe radio?
Rwy'n dal i feddwl mai fy ngradd mewn Astudiaethau Americanaidd oedd amser gorau fy mywyd. Roedd fy mlwyddyn dramor yn America yn wych. Roedd yn adran hyfryd gyda'r casgliad mwyaf anhygoel o bobl. Yn wir, roedd yn adran wych, ac roedd hyn ar adeg pan oedd Astudiaethau Americanaidd mewn rhyw adeilad dros dro ar y campws. Rwy'n credu eu bod nhw wedi symud i floc llawer brafiach nawr, felly rwy'n falch drostyn nhw. Fe wnes i ddilyn cwrs Astudiaethau Americanaidd yn ystod y cyfnod mwyaf digynnwrf yn hanes America. Rwy'n credu mai perthynas Bill Clinton â Monica Lewinsky oedd y peth mwyaf nodedig a ddigwyddodd pan oeddwn i'n dilyn cwrs Astudiaethau Americanaidd, ond roedd yn ddiddorol iawn. Fyddwn i ddim eisiau gwneud pwnc cyfyng. Dyna pam roeddwn i'n meddwl bod hyd a lled Astudiaethau Americanaidd a'i berthnasedd i'r byd modern mor bwysig; o deledu, i ffilm, i gaethwasiaeth, i'r Piwritaniaid a'r Delta Blues, ac, wyddoch chi, y math yna o bethau. Mae yna gymaint o agweddau ar hanes a diwylliant America sy’n dal i fod o ddiddordeb mawr i mi hyd heddiw. Rwy'n dal i ddilyn NFL, yn dal i ddilyn Pêl Fas Prif Gynghrair a cherddoriaeth Americanaidd a sioeau Americanaidd. Rwy'n dal i deimlo'n freintiedig fy mod i wedi cael cyfle i'w ddysgu yn Abertawe,
Rwy'n credu ei fod wedi dysgu rhywbeth y tu hwnt i faterion diwylliannol i mi, fel sut i addasu a sut i gyd-dynnu â phobl. Ac, wyddoch chi, rwy'n hoffi gwrando ar straeon pobl am yr hyn y maen nhw wedi bod yn ei wneud ac am eu profiadau. Mae gen i ddiddordeb mewn pobl ddiddorol sy'n dod o wahanol gefndiroedd amrywiol a darganfod beth sy'n sbarduno pobl, beth sy'n mynd â'u bryd a sut fywyd sydd ganddyn nhw. Dyna'r peth am fy ngyrfa radio: rwy'n chwilfrydig am bobl a dweud y gwir.
Mae eich dwdls "Selebs yn y Cartref" yn wych. Sut ddechreuodd hynny?
Dechreuais wneud cartwnau ar gyfer cylchgrawn myfyrwyr Prifysgol Abertawe. Dyna oedd y cartwnau cyntaf i mi eu gwneud erioed. Roedden nhw i gyd yn ymwneud â phethau enwog, eiconig mewn sefyllfaoedd rhyfedd. Dwi'n meddwl mai un o'r rhai wnes i iddyn nhw oedd Batman yn cael yr arwydd Bat ac yna doedd e ddim wedi golchi ei ddillad yn iawn dros nos ac roedd yn ceisio dod o hyd i ddillad glân a phethau fel yna. A dyna oedd cychwyn y daith mewn gwirionedd. Cafodd rhai darnau o'm gwaith eu cyhoeddi trwy bapurau newydd Abertawe. Mae wedi yn rhywbeth rhan-amser i mi byth ers hynny. Roedd y Selebs yn y Cartref yn dipyn o lwyddiant; Daeth llyfr ohono ac roedd arddangosfa hyfryd o'r gwaith yn Piccadilly i godi arian tuag at y Teenage Cancer Trust. A chardiau a chalendrau. Mae Private Eye wedi cyhoeddi un neu ddau o ddarnau o'm gwaith yn ddiweddar, sy'n beth braf. Ond mae'r swydd bob dydd yn gofyn llawer; dyw neilltuo amser i newid yr ymennydd o un peth i’r llall ddim yn hawdd. Rwy'n gwneud llawer o bodlediadau hefyd. Rwy'n ceisio neilltuo mwy o amser i ddarlunio, oherwydd mae'n rhywbeth rydw i wrth fy modd yn ei wneud. Mae'n ffordd dda iawn o leihau straen, ond weithiau mae'n anodd dod o hyd i'r amser i'w wneud yn iawn.