Rebecca Evans. Soprano Cymraeg.
Cymrawd er Anrhydedd, 2000
Sgwrs gyda'r gantores soprano o fri Rebecca Evans
Cantores soprano yw Rebecca Evans. Mae ei gyrfa operatig wedi mynd â hi o gwmpas y byd yn canu mewn lleoliadau mawreddog fel Metropolitan Opera Efrog Newydd, y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden a Chanolfan Mileniwm Cymru. Derbyniodd Rebecca ei Gradd er Anrhydedd o Abertawe yn 2000 ac mae'n cadw cysylltiad agos â'r Brifysgol.
Fe wnaethon ni lwyddi i gael sgwrs gyda Rebecca a gofyn ychydig o gwestiynau iddi am Abertawe, opera a'i dylanwad ar ddiwylliant ehangach.
C: Allwch chi sôn rhywfaint am lle dechreuodd y cyfan?
Dechreuodd fy ngyrfa ganu ym Mhrifysgol Abertawe pan oeddwn i'n 12 oed, roeddwn i'n arfer cael gwersi canu preifat ar gampws Singleton. Roedd adeilad y tu ôl i'r adran Eigioneg, cyn iddyn nhw adeiladu canolfan Taliesin. Roeddwn i'n arfer cael gwersi canu yno gyda bariton anhygoel bob nos Iau. Arbennig!
C: Oeddech chi'n gwybod eich bod chi eisiau bod yn gantores opera ers pan oeddech chi’n 12 oed?
Roeddwn i'n gwybod yn bedair oed. Gan fod mam wedi bod yn gantores opera, cefais fy amgylchynu a'm trwytho mewn cerddoriaeth glasurol ar yr aelwyd. Roedd fy nhad yn hoff iawn o gerddoriaeth gerddorfaol. Felly, roedd ein tŷ ni wastad yn llawn cerddoriaeth odidog. Rwy'n caru pob math o gerddoriaeth. Ond opera wnaeth ennyn fy sylw i.
C: Yn eich profiad chi, yw cerddoriaeth yn mynd y tu hwnt i rwystrau diwylliannol? A oes emosiynau neu negeseuon cyffredinol y gall opera eu cyfleu i gynulleidfaoedd beth bynnag fo'u cefndir?
Wel, rwy'n credu yn gyntaf, mae opera ac yn enwedig cerddoriaeth yn rhywbeth hynod gludadwy. Mae'n hygyrch. Er enghraifft, profiad cyntaf erioed fy ngŵr o gerddoriaeth oedd roc a rôl. Ac i mi, yr Osmonds ac Abba, yn ogystal ag opera. Felly, nid oes unrhyw 'dir neb' i unrhyw un cyn belled ag y mae cerddoriaeth yn y cwestiwn. Mae'n hygyrch ac yno i bawb ei archwilio.
Does dim rhwystrau diwylliannol, waeth lle rydych chi'n byw – mae pawb yn gallu mwynhau cerddoriaeth a gall ennyn emosiynau. Rydyn ni i gyd yn dehongli cerddoriaeth yn wahanol, yn enwedig cynulleidfaoedd ac unigolion gwahanol. Ond ar y cyfan, yn fy mhrofiad i, rydyn ni gyd yn rhannu negeseuon emosiynau opera a cherddoriaeth glasurol mewn ffordd debyg iawn.
C: Fel cantores o Gymru, ydych chi'n teimlo cyfrifoldeb i ddathlu a hyrwyddo diwylliant Cymru drwy'ch gwaith? Os felly, sut ydych chi'n gwneud hynny?
Rwy'n cyfrannu'n helaeth at gystadleuaeth Cantorion Cymreig. Rwy'n Gyfarwyddwr Cystadleuaeth y Cantorion Cymreig. Mae’r rowndiau rhagbrofol ym mis Mai a'r rownd derfynol ym mis Hydref. Bydd enillydd y gystadleuaeth honno yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd. Felly dwi nid yn unig yn Gyfarwyddwr, sy'n golygu bod gen i ddylanwad ar y gystadleuaeth gyfan, byddaf i hefyd yn mentora pwy bynnag sy'n ennill y gystadleuaeth i fynd ymlaen i gynrychioli Cymru.
Rwyf hefyd yn gyfarwyddwr rhaglen Artistiaid Cyswllt gydag Opera Cenedlaethol Cymru, lle mae gennym gantorion ifanc sy'n dod i dreulio blwyddyn gyda'r cwmni. Ac unwaith eto, rwy'n eu mentora ac yn eu paratoi ar gyfer eu rolau ar y llwyfan, yn rhoi cyngor technegol a chyngor ieithyddol iddyn nhw. Dwi'n meddwl, fel rhywun sydd wedi bod yn canu ers 35 mlynedd, ei bod hi'n ddyletswydd arna i drosglwyddo'r baton i'r genhedlaeth nesaf. Ac mae'n gyfrifoldeb arnaf fi hefyd, i hyrwyddo diwylliant Cymru drwy berfformio yng Nghymru. Rwyf wrth fy modd yn perfformio yn fy mamiaith, yn ogystal â chanu yn holl ieithoedd amrywiol y byd. Rwy'n diwtor preifat i ddisgyblion, ac wrth fy modd yn eu haddysgu – Cymry i gyd, ac rwy'n rhoi dosbarthiadau meistr, felly rwy'n cyfrannu'n helaeth at drosglwyddo'r baton i'r genhedlaeth nesaf a gwneud yn siŵr bod y diwylliant yn parhau.
C: Mae gan opera hanes cyfoethog sy'n aml yn plethu â diwylliannau a thraddodiadau penodol. Sut ydych chi'n cydbwyso parchu'r traddodiadau hyn â gwneud opera yn berthnasol i gynulleidfaoedd cyfoes?
Yn sicr mae ganddo hanes cyfoethog! Y ffordd rwy'n gweithio yw drwy barchu celf a phurdeb y gerddoriaeth, bod yn onest i'r testun a chyflawni'r hyn mae'r cynhyrchydd a'r arweinydd yn ei ofyn gennyf. Rwy'n credu bod pob cynulleidfa yn gyfoes, mae pob perfformiad yn cael ei weld trwy lygaid ffres. Ond y cyfarwyddwr sy'n ail-ddehongli’r stori mewn gwirionedd, ac yn ei chadw'n berthnasol neu beidio. Mae'r cyfan yn ei ddwylo ef mewn gwirionedd, rydym yn dod i ymarferion gyda syniadau, sy'n cael eu taflu o’r neilltu neu eu croesawu weithiau, ond gweledigaeth y cyfarwyddwr sy'n ei gwneud yn berthnasol.
Mae’n gylchol iawn hefyd, wyddoch chi, rydw i wedi bod yn ffodus i weithio gyda chyfarwyddwyr traddodiadol fel David McVicar, sy'n un o'r cyfarwyddwyr gorau erioed. A dwi wedi gweithio mewn cynyrchiadau traddodiadol anhygoel ym Munich a Pharis. Ond mae syniadau'n newid. Ac rydyn ni'n credu ein bod ni'n eu gwneud nhw'n well trwy eu gwneud nhw'n llai traddodiadol. Aethom drwy holl gynyrchiadau Lipitor Stein yn Opera Cenedlaethol Cymru flynyddoedd yn ôl, ac roedden nhw'n finimalaidd. Nawr rydyn ni wedi dod yn llai minimalaidd, oherwydd rwy'n credu bod pobl yn sylweddoli taw'r hyn rydyn ni eisiau yw rhywbeth hyfryd i'w wylio. Mae yna gymaint o bethau hyll yn digwydd yn y byd ar hyn o bryd, a'r peth olaf rydym ei eisiau wrth eistedd mewn theatr yw gweld mwy o hylltra. Rydyn ni’n ceisio apelio at gynulleidfaoedd newydd ond rhaid bod yn ofalus iawn rhag dieithrio ein cynulleidfaoedd presennol sydd wedi cefnogi'r ffurf gelfyddydol am 20, neu 30, neu 40 mlynedd neu gydol eu hoes. Mae'n ddiddorol. Rydyn ni i gyd yn ei weld mewn ffordd wahanol, yr hyn y byddwn i'n ei ystyried yn gynhyrchiad hyll, byddai rhywun yn dweud, o, roedd hwnna mor ddyrchafol. Roedd e mor fodern; mor gyfredol. Ac rwy'n meddwl, nage wir, nid felly oeddwn i’n gweld pethau. Ac eto, efallai y byddwch chi'n ei weld yn hollol wahanol. A diolch byth, rydyn ni i gyd yn clywed lleisiau a gweld cynyrchiadau mewn ffyrdd gwahanol, neu byddai'r byd yn lle diflas.
C: Allwch chi ddweud wrthym am eich taith i fyd opera a sut mae eich treftadaeth Gymreig wedi dylanwadu ar eich gyrfa?
Dechreuodd fy nhaith ar yr aelwyd mewn gwirionedd. Oherwydd fy mod i wedi cael fy amgylchynu gan gerddoriaeth. Roeddwn i ar dân yn blentyn. Y dewis yn yr ysgol oedd bioleg neu gerddoriaeth. Dywedodd fy nhad, mae'n rhaid i ti wneud bioleg, does neb byth yn gwneud gyrfa mewn cerddoriaeth. Felly bioleg fe wnes i. Ond roeddwn i'n canu yng Nghôr Ieuenctid Gorllewin Morgannwg, ac fe wnes i glyweliad ar gyfer Côr Siambr Ieuenctid Gorllewin Morgannwg a dyna lle wnes i gwrdd â'm hathro canu, Jason Sherwood, oedd yn gweithio ym Mhrifysgol Abertawe.
Roedd gen i ddiddordeb angerddol, roeddwn i'n dal i ddweud wrth fy rhieni fy mod i eisiau bod yn ganwr. Dywedodd fy mam, "Yr hen gythraul cystadlu 'na, ti byth eisiau bod yn ganwr". Felly, dywedais, "Alla i gael gwersi canu te?”. Ac mewn gwirionedd, roedd Jason eisoes wedi ysgrifennu at yr athro yn yr ysgol, gan ddweud 'Mae'n rhaid i Rebecca gael gwersi canu’.
Roedd fy nhad yn mynnu pe bawn i eisiau bod yn ganwr, yna byddai'n rhaid i mi gael gyrfa hefyd. Roeddwn i'n meddwl, 'Iawn, beth yw'r ffordd gyflymaf o gael cymhwyster?’. Roeddwn wrth fy modd gyda gwyddoniaeth ac yn gwneud gwyddoniaeth Safon Uwch. Felly, gwnes i gais i fod yn nyrs. Cefais fy nerbyn, a hyfforddais yn ysbyty Treforys. Yna fe wnes i arbenigo mewn nyrsio theatr.
Yn ystod y cyfnod hwn, roeddwn i'n canu fel amatur. Ac un diwrnod, daeth yr uwch swyddog nyrsio a oedd hefyd yn arweinydd côr yr ysbyty, lan i'r theatr lle'r oeddwn i'n gweithio. Dywedodd, "Rwy'n deall eich bod chi'n dipyn o ganwr”. Dywedais, "Ydw, Mr Thomas", a dywedodd, "Hoffech chi ddod i ganu yn y côr?", a dyma fi'n ateb, "Dim diolch. Dwi'n dod naill ai fel unawdydd neu ddim o gwbl.” Felly, dywedodd, "O, on'd ych chi'n beth bach hyderus!"
Felly, awgrymodd fy mod i’n mynd i gapel yr ysbyty y diwrnod canlynol a dod â rhywbeth i’w ganu gyda Doreen, y cyfeilydd. Felly, es â chopi o aria operatig a Summertime gan Porgy a Bess; mae'n ddarn hudolus o gerddoriaeth. Fe wnes i ganu a bu bron iddo syrthio oddi ar ei gadair! Felly, deuthum yn unawdydd eu cyngerdd y penwythnos hwnnw yn Nhreforys.
Yna cwrddais â Chôr Orpheus Treforys aeth a fi ar hyd a lled y byd. A gan fod fy enw da yn tyfu, cefais wahoddiad i ganu fel unawdydd mewn cyngerdd arall. Dyna lle wnes i gwrdd â Syr Bryn Terfel, a ofynnodd beth oeddwn i'n ei wneud. Dywedais wrtho fy mod ar fin cael swydd Prif Nyrs Theatr yn Nhreforys. Atebodd gan ddweud 'mod i'n ffŵl, bod angen i mi fynd i Ysgol Cerdd a Drama y Guildhall, roedd angen i mi astudio gyda Laura Sarti (dim ond y goreuon mae'n eu derbyn), ac roedd angen i mi wneud hynny nawr!
Felly, llenwais ffurflen gais y penwythnos hwnnw, heb ddweud dim wrth fy rhieni a chefais glyweliad. Roedden nhw'n meddwl fy mod i'n mynd i Lundain i aros gyda ffrind. Fodd bynnag, y bore roeddwn ar fin gadael, cyrhaeddodd cerdyn post lwc dda gan ffrind. Dois i lawr y grisiau ac roedd fy mam yn disgwyl amdana i gyda'r cerdyn post yn ei llaw a dweud, "Beth yw hyn...?”. Roedd fy nhad, chwarae teg, am fynd â fi i'r orsaf, ond roedd mam yn gwrthod gadael iddo fe, felly roedd rhaid i mi gerdded at y trên.
Felly es i i Lundain a'r clyweliad. Ac meddai'r clywelwyr, "Wel, rydyn ni wedi ein plesio'n fawr gyda chi. Bydden ni wrth ein boddau pe baech chi'n dod i astudio yn Hilltop.”. Dywedais mai dim ond yn rhan-amser allwn i astudio, gan 'mod i'n caru fy swydd fel nyrs, ac nad oedd mam eisiau i mi ddod yma. Gofynnon nhw a allen nhw ffonio fy mam. Dywedais, "Mowredd, allwch chi ddim ffonio mam, achos dim ond bore 'ma clywodd hi fod gen i glyweliad!”. Dywedon nhw eu bod am roi ysgoloriaeth John Hennessy i mi, ac y gallwn naill ai ddod yn llawn amser, neu ddim o gwbl. Am benderfyniad! Nid penderfyniad oedd hwn mewn gwirionedd... roeddwn i'n mynd.
Cyrhaeddais adref y noson honno. Roedd fy nhad yn disgwyl amdana i ym maes parcio'r orsaf. Dwi ddim yn gwybod am sawl awr fuodd e yna. Ddywedodd e'r un gair wrtha i yn y car ar y ffordd adref, ac fe oedd y dyn mwyaf tyner, tawel, hyfryd oedd yn bod. Rwy'n unig blentyn, ac yn ferch i Dadi go iawn. Roeddwn i'n gwybod fy mod i mewn trwbl go iawn os nad oedd e'n siarad â mi! Y cyfan a ddywedodd oedd, "Mae dy fam yn yr ystafell ffrynt”. Felly, es i mewn, a dywedodd, "Stedda". A dyma fi'n gwneud. "Wel?", meddai, a dywedais, "Maen nhw wedi cynnig ysgoloriaeth i mi astudio.” Ac meddai wedyn, "Wnes ti dderbyn?”. "Do” atebais i. A dywedodd, "O 'nghariad i, dwi mor falch ohonat ti”.
Daethon nhw i fy ymddangosiad cyntaf yn Santa Fe yn America, daethon nhw i'r Met, i Chicago, San Francisco. Wel, dyna oedd dechrau'r cyfan. Ond Bryn Terfel, côr yr ysbyty a chôr Orpheus Treforys, nhw sbardunodd y cyfan. Roeddwn i'n lwcus, ac mae wedi bod yn anhygoel. Mae wedi bod yn sbri 35 mlynedd, a dwi'n dal wrthi. Dwi ddim am roi’r ffidil yn to eto. Rwy'n caru pob eiliad ohono. Mae gen i dair opera newydd i ddod eto eleni. A chynyrchiadau newydd y flwyddyn nesaf. Mae gennym ein Gŵyl Siambr, dwi’n canu ynddi a llawer o gyngherddau, ac rydym yn ceisio trefnu cyngerdd codi arian ym Mhrifysgol Abertawe.
C: Lle yw'ch hoff leoliad yn y byd i ganu a pham?
I fod yn gwbl onest, Canolfan y Mileniwm! Bob tro mae'n lleol, mae 'nheulu i'n gallu bod yno. Dwi'n gallu cysgu yn fy ngwely fy hun gyda 'ngobenyddion fy hun, a dod adref a chwtsio fy nghi a chwtsio fy ngŵr. Ac mae'n beth anhygoel. Y teimlad o gyffro wrth gamu ar y llwyfan yno, dwi bob amser yn teimlo'n gartrefol ar y llwyfan, mae'n debyg fy mod i'n teimlo'n fwy cartrefol ar lwyfan nag ydw i yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd bob dydd. Mae'r Metropolitan Opera yn anhygoel, ond fy ail hoff gartref yw'r Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden, lle bydda i'n perfformio Priodas Figaro yn yr hydref. Mae edrych mas ar y seddi melfed coch a'r holl aur, wel, yn rhywbeth arall. Weithiau, byddwn yn hoffi petaech chi, y gynulleidfa, yn gallu gweld yr hyn ry'n ni'n ei weld. Mae e mor brydferth.
Bob tro fyddwch chi'n perfformio, rhaid i chi greu cysylltiad â'r gynulleidfa, neu mae'r gynulleidfa'n creu cysylltiad â chi. Sut mae hynny'n dylanwadu ar eich perfformiad? Ydy hyn yn newid eich perfformiad yn fawr?
Yn aruthrol! Dwi'n canu mewn opera sy’n gomedi ar hyn o bryd, ac rwy'n chwarae'r cymeriad mwyaf doniol. Menyw ginio sy'n newid i fod yn feddyg ac yn ôl i fenyw ginio yw hi, yna mae'n newid i fod yn gyfreithiwr, ac rwy'n gorfod newid i wisgoedd mwyaf ffantastig. Ond wyddoch chi, pan rydych chi'n clywed y gynulleidfa'n dechrau chwerthin, mae'n eich bywiogi'n llwyr ac yn rhoi ffydd a chred i chi yn yr hyn rydych chi'n ei wneud. Mae'r gynulleidfa’n gallu cael effaith fawr ar berfformiad.
Rydych chi wedi sôn llawer am gomedi. Ai dyna'ch hoff genre i'w berfformio?
Dwi wrth fy modd â thrasiedïau. Pan wnes i ganu rhan Mimi yn LA daeth fy mam i wylio, a daeth hi i bob perfformiad lleol a wnes i gydag Opera Cenedlaethol Cymru, a'r Tŷ Opera Brenhinol hefyd. Rwy'n dechrau'r perfformiad trwy guro ar y drws a cherdded ar y llwyfan, a byddai mam yn dechrau crïo bob tro oherwydd ei bod hi'n gwybod y byddwn i'n marw yn Act Pedwar. Felly, dwi wrth fy modd â thrasiedi. Ond comedi yw fy hoff genre. Ond dwi wrth fy modd yn actio. Rwyf wrth fy modd â'r her o ddod â chymeriad yn fyw. Mae'n fraint. Ac yn gymaint o hwyl.
Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i ddarpar artistiaid sy'n teimlo'n angerddol am gadw a dathlu eu treftadaeth ddiwylliannol trwy gelfyddyd?
Rwy'n credu bod rhaid i bob artist, boed yn gantorion, dawnswyr, artistiaid neu awduron fod yn driw iddyn nhw eu hunain. Yn enwedig pan fyddan nhw'n edrych yn y drych. Y ddawn artistig yw troi'r hyn welwch chi yn y drych yn ffenestr lle gall cynulleidfa archwilio neu brofi byd sy'n wahanol i'w byd nhw eu hunain. Celf yw'r cyfrwng sy'n cadw ac yn dathlu treftadaeth ddiwylliannol. Ewch allan i'w brofi. Dathlwch eich diwylliant eich hun, eich treftadaeth eich hun, a chanu neu actio o ddyfnderoedd eich enaid a'ch calon. Dwi ddim yn credu allwch chi wneud mwy na hynny.
Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i rywun sy'n mynd i weld opera am y tro cyntaf?
Mynd gyda meddwl agored. Cofiwch, rydyn ni'n gwneud bywyd yn llawer haws i chi nawr oherwydd mae yna uwchdeitlau bob amser. Os yw'r cyfarwyddwr wedi gwneud ei waith yn iawn, dylech weld y stori'n datblygu o'ch blaen ar y llwyfan. Os ydych chi'n mynd i weld Gianni Schicchi neu La'Boheme neu rywbeth lle mae'r stori'n anghyfarwydd, ewch i'ch sedd bum munud yn gynnar a darllenwch y crynodeb.
Mae cerddoriaeth ar gael ar YouTube a phob math o gyfryngau y dyddiau hyn hefyd, felly gwrandewch ar glipiau, a dwi'n meddwl y byddwch chi'n dysgu cymaint amdano. Mae yna ddiwylliannau gwahanol, lliwiau a gweadau amrywiol o fyd opera i'w harchwilio. Ond mae'n llawer haws nawr i fynd i'r opera nag oedd hi, a dwi ddim yn meddwl ei fod e'n elitaidd o gwbl. Does dim byd elitaidd amdana i, person cyffredin o swyddfa bost Pontrhyd-y-fen ydw i, sydd wedi cyrraedd lle ydw i heddiw diolch i 'nghariad at gerddoriaeth trwy lawer o waith caled, ymroddiad ac angerdd. Dwi'n meddwl bod mynd i'r rygbi yn llawer mwy costus na mynd i'r opera, er enghraifft. Fe welwch chi 30 o chwaraewyr mewn gêm rygbi, ond gallwch weld hyd at 200 o bobl ar y llwyfan mewn opera. Rwy'n credu ei fod yn werth llawer gwell am arian.
Dwi'n meddwl bod rhai pobl ofn mynd i'r opera. Maen nhw'n meddwl ei fod e’n rhy ffroenuchel ac elitaidd, ond dyw e ddim. Mae'r gerddoriaeth wedi bod gyda ni ers amser maith, ac wedi'i chanu gan y werin yn y caeau a'r dolydd. Mae'n sail ar gyfer llawer o gerddoriaeth fodern. Dwi ddim yn meddwl bod stereoteip o rywun sy'n mynd i'r opera. Mae yno i ni, ac mae rhywbeth ynddo i bob un ohonom. Rhowch gynnig arni. Wnaiff e ddim drwg i chi – beth am fentro. Efallai y gwnewch chi fwynhau. Ac os nad ydych chi, does dim rhaid i chi fynd byth eto.