Croeso cynnes i'r rhifyn hwn o SAIL, ein cylchgrawn i gyn-fyfyrwyr.
Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn falch o adeiladu ar ein treftadaeth fel sefydliad a sylfaenwyd gan ddiwydiant ac ar gyfer diwydiant. Rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gofleidio ysbryd entrepreneuriaeth ac arloesi ac yn eu hannog i ddatblygu eu syniadau - boed hynny drwy sefydlu cwmnïau deillio neu gydweithio'n agos â phartneriaid ym myd diwydiant - drwy gydol eu hastudiaethau.
Mae llawer o'n cyn-fyfyrwyr wedi cael eu hysbrydoli i fynd i'r diwydiant lletygarwch a bwyd a diod ac rydym wrth ein boddau bod y rhifyn hwn o SAIL yn cynnig blas bach ar eu hymdrechion hynod greadigol.
Er enghraifft, mae un o'n cyn-fyfyrwyr, Joelle Drummond, sydd hefyd yn Gymrawd er Anrhydedd, yn mwynhau llwyddiant ysgubol Drop Bear Beer, bragdy dialcohol a ddeilliodd o gysyniad Joelle a'i gwraig ac a gafodd ei ddatblygu ganddynt.
Ar ôl graddio mewn ieithoedd, cyfunodd Ross Clarke ei gariad at deithio, bwyd a diod a bellach mae'n awdur llwyddiannus iawn sy'n cyhoeddi'r blog arloesol, The Welsh Kitchen. Gwnaeth Owen Morgan, a raddiodd mewn Daearyddiaeth, dynnu ar ei brofiadau yn Ewrop i lansio'r grŵp o fwytai Sbaenaidd modern, Forty-Four, yn ne Cymru.
Rydym yn falch hefyd o gefnogi ein myfyrwyr i gydweithio ag amrywiaeth o bartneriaid ym myd diwydiant drwy gydol eu rhaglenni gradd. Bu'r cyn-fyfyriwr, Illtud Dunsford, yn gweithio gyda'r diwydiant bwyd yn ystod ei raglen Biowyddorau ac, ar hyn o bryd, ef yw Prif Swyddog Gweithredol Cellular Agriculture sy'n datblygu biobrosesau ar gyfer meithrin bwyd yn y labordy.
Fel sefydliad, rydym yn ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau ymchwil ac arloesi mewn cysylltiad â'r diwydiant bwyd, sy'n llywio ein haddysgu a'r cyfleoedd proffesiynol y gallwn eu cynnig i'n myfyrwyr. Mae ein grŵp ymchwil Maeth, Archwaeth a Gwybyddiaeth Abertawe (SNAC) yn arbenigo mewn deall effeithiau diet a maeth ar iechyd, hwyliau, gwybyddiaeth a gweithrediad yr ymennydd ac mae'n ymchwilio i ddylanwad nodweddion biolegol, seicolegol ac ymddygiad bwyta ar archwaeth, cymeriant bwyd a rheoli pwysau'r corff.
Rydym yn falch hefyd o fod yn gartref i arbenigwyr biotechnoleg sy'n helpu i drawsnewid gwastraff llawn maetholion o'r broses torri cacennau yn gynhyrchion ar sail bacteria i fynd i'r afael â llygredd. Mae gennym arbenigwyr hefyd sy'n cynorthwyo cwmni gofal croen yng Nghymru i gynyddu ymwybyddiaeth o dlodi hylendid drwy gynhyrchu sebon bwytadwy.
Mae'r cylchgrawn hwn bob amser yn gyfrwng hynod ddiddorol i ddathlu llwybrau gyrfa eclectig ein cyn-fyfyrwyr, a gobeithiwn y byddwch yn mwynhau darllen rhai o’u straeon llawn ysbrydoliaeth yn y rhifyn hwn.
Cofion gorau,
Yr Athro Paul Boyle
Is-ganghellor