Jon May - Cogydd TikTok
Rheoli Busnes (Marchnata)
Dosbarth 2014

Jon May. Rheoli Busnes, Dosbarth 2014
Pam penderfynoch chi ddod i Brifysgol Abertawe?
Bob blwyddyn, roedd fy ysgol yn trefnu taith i Brifysgol Abertawe ar ôl diwedd y tymor. Roedden i'n arfer aros ym mhentref y myfyrwyr yn Hendrefoelan fel rhan o daith ysgol wythnos o hyd yn y chweched dosbarth, ac roeddwn i wrth fy modd yno. Cyflwynais i gais i Abertawe ar sail hynny. Pwrpas y daith oedd annog myfyrwyr i feddwl am fywyd yn y brifysgol, rhoi cynnig ar ychydig o weithgareddau a choginio ein bwyd ein hunain. Er gwaethaf hynny, llwyddodd un o'r myfyrwyr i losgi ei hun wrth goginio pasta.
Ble roeddech chi'n mynd i fwyta ac am ddiod pan oeddech chi yn Abertawe?
Roedd hynny’n amrywio lawer pan oeddwn i yno. Gwnaethon nhw newid blaen Tŷ Fulton, agorodd Costcutter ac yna gwnaethon nhw weddnewid JC's ac roedd llawer o fwydlenni newydd a phethau gwahanol ar gael. Roedden ni’n mynd i’r Pub on the Pond hefyd. Roedd hynny'n dda. Wnes i ddim erioed reidio ar y pedalo ond gwelais i bobl eraill yn gwneud hynny. Ond doeddwn i ddim yn gwybod a oedd hynny'n syniad da neu beidio.
Aethon ni i'r Mwmbwls ambell waith, roedd Verdi's bob amser yn lle da i fynd. Nawr maen nhw wedi ailddatblygu ardal y Mwmbwls i gyd, ac mae llawer o leoedd newydd nad oedden nhw yno pan oeddwn i'n fyfyriwr. Ond, ar y campws, JC's oedd y lle i fynd.
Oes gennych chi atgofion da am un pryd o fwyd yn benodol yn y Brifysgol?
Roedd y Grape and Olive, sef bwyty ar 27ain llawr Tŵr Meridian yn wych. Roedden nhw'n gwneud syrff a tyrff da yno ac ar ddiwrnod braf, roeddech chi'n gallu gweld y bae cyfan. Os oedd hi'n gymylog, roedd hi'n amhosib gweld dim y tu allan. Ar y campws, JC's amdani. Gwnaethon nhw weddnewid y gegin pan oeddwn i yno a dechrau gwerthu byrgyrs a sglodion. Roedd byrgyrs a sglodion o JC's yn boblogaidd iawn yn y prynhawn.
Rydyn ni'n gwybod eich bod wedi dechrau tudalen TikTok, ond sut olwg sydd ar eich gyrfa ers i chi adael Prifysgol Abertawe?
Yn Abertawe, roeddwn i'n rhan o Waterfront, papur newydd y myfyrwyr. Roeddwn i'n weithgar iawn yng nghyfryngau'r myfyrwyr ac yna, yn syth ar ôl graddio, dechreuais i weithio mewn cyfryngau myfyrwyr i brifysgolion eraill. Hyfforddi myfyrwyr ym Mhrifysgol Sheffield, Royal Holloway ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Westminster. Dyna ran gyntaf fy ngyrfa ar ôl i mi adael y brifysgol. Wedyn gan fy mod i wedi astudio marchnata, dechreuais i weithio ym maes marchnata drwy e-bost i’r RAC a nifer o gwmnïau bach ac wedyn es i hyd yn oed bellach i mewn i farchnata drwy e-bost, ym maes CRM ar yr ochr fwy technegol. Dyna fy swydd nawr, pennaeth gweithrediadau marchnata i gwmni o'r enw Retail Excellence. Maen nhw'n gwneud meddalwedd i gwmnïau gwerthu bwyd, yn rhagamcanu faint o stoc bydd ei angen arnyn nhw. Y cwmnïau mwyaf rydyn ni'n gweithio iddyn nhw yw M&S Foods, WHSmith a Morrison's. Rydyn ni'n gwasanaethu Aldi a Lidl ar gyfandir Ewrop ond ddim yn y Deyrnas Unedig eto. Dydych chi byth yn gwybod wrth raddio, beth byddwch chi'n ei wneud yn y pen draw. Rhoddais i gynnig ar ychydig o bethau gwahanol. Ond ie, dwi'n gweithio nawr mewn gweithrediadau marchnata, ar ochr dechnegol marchnata. A dyna fy ngyrfa ar hyn o bryd.

Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddechrau rhannu cynnwys bwyd a ffordd o fyw ar TikTok?
Dechreuais i ym mis Mawrth 2021 yn ystod y cyfnod clo. Doeddech chi ddim yn cael gwahodd pobl draw am ginio, a chan fod gen i fwy o amser rhydd, roeddwn i'n meddwl byddwn i'n dysgu sut i goginio. Awgrymodd ffrind i mi 'beth am bostio ar TikTok?' Doeddwn i ddim yn bwriadu creu mwy na dyddiadur fideo i fi fy hun i wneud yn siŵr mod i ddim yn bwyta tecawê y noson honno. Yn y cyfnod clo, doedd dim rhaid i mi dalu i deithio i'r gwaith. Doeddwn i ddim yn talu am ginio yn y gwaith, felly yn sydyn, roedd gen i lawer mwy o arian am nad oeddwn i'n gwario dim, ac roeddwn i'n meddwl 'wna i fyw ar fwyd tecawê a chael amser braf.'
Roedd hynny'n iawn, ond ddim yn wych ar gyfer fy ffigwr, felly penderfynais i dylwn i ddysgu sut i goginio yn hytrach na dim ond rhoi rhywbeth yn y ffwrn. Felly, roeddwn i'n ceisio dysgu fy hun ac yn y bôn, gwnes i roi hynny ar y cyfryngau cymdeithasol fel tipyn o hwyl i fy ffrindiau a fy nheulu. Ac yna dechreuodd y cyfnod clo ddirwyn i ben. Roedd llawer o gynnwys yn benodol ar gyfer y cyfnod clo ac ar y pryd doedd hynny ddim yn cael ymateb da iawn, felly roeddwn i'n cymryd yn ganiataol na fyddai diddordeb gan bobl yn y math hwnnw o gynnwys ar ôl i'r cyfnod clo ddod i ben. Ond roedd diddordeb gan bobl, parhaodd y gynulleidfa i dyfu hyd yn oed ar ôl i'r cyfyngiadau gael eu llacio. Nawr, yn lle canolbwyntio ar y cyfnod clo, mae'n fwy am gysylltu â phobl sy'n teimlo'n unig neu sydd am weld wyneb cyfeillgar. Mae wedi mynd o nerth i nerth felly.
Oes pryd o fwyd nad ydych chi erioed wedi postio amdano ond rydych chi'n wrth eich bodd yn ei baratoi?
O, dyna gwestiwn da. Na, dwi ddim yn meddwl. Dwi'n trio postio am y rhan fwyaf o bethau dwi'n eu gwneud achos peiriannau cynnwys yn y bôn yw'r holl beiriannau cyfryngau cymdeithasol. Mae'n rhaid i chi fwydo'r peiriant. Felly, byddwn i'n dweud na, achos beth bynnag dwi'n ei baratoi, dwi'n tueddu i bostio amdano un ffordd neu'i gilydd.
Beth yw eich hoff bryd o fwyd i'w goginio?
Mae gen i lyfr coginio sy'n cael ei gyhoeddi mewn ychydig fisoedd. Felly, mae gen i restr o'r holl bethau sydd ynddo. Fy hoff bethau ydyn nhw i gyd. Dwi'n mynd i ddweud bod mac a chaws yn ffefryn achos mae hwnnw bob amser yn cael ymateb da ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae mac a chaws yn fwyd y gall pawb ei werthfawrogi, a tsioriso. Am ryw reswm, bob tro bydda i'n ychwanegu tsioriso at rysáit, mae'n cael ymateb da iawn ar y cyfryngau cymdeithasol.
Oeddech chi'n disgwyl i'ch TikTok fod mor llwyddiannus?
Na, byth. Doeddwn i ddim yn deall mewn gwirionedd y byddai pobl yn mwynhau'r cynnwys cymaint â hynny. Y bwriad oedd ei anfon at fy ffrindiau ac aelodau fy nheulu. Ond yna cafodd y fideos cyntaf eu gwylio gan rai cannoedd o bobl. Wedyn, y degfed fideo wnes i oedd byrgyr cyw iâr, ac yn lle cael ei wylio cannoedd o weithiau, cafodd ei weld 10,000 o weithiau. Gyda phob fideo wnes i wedi hynny, dechreuodd mwy a mwy o bobl wylio. Roedd mwy a mwy o bobl yn ei ddilyn, ac yn sydyn, aeth nifer y dilynwyr o 50 i gannoedd, i fil, i 10,000, i 100,000. Doeddwn i ddim erioed wedi rhagweld hynny.
Ydych chi'n meddwl bod eich dealltwriaeth o farchnata drwy astudio a gweithio yn helpu gyda'ch cynnwys?
Ydw, mae marchnata yn y cyfryngau cymdeithasol yn datblygu o hyd. Mae'n ymddangos ei fod yn newid bob ychydig fisoedd. Ond yn y bôn, yr amcan yw nodi angen a dod o hyd i ffordd o'i ddiwallu. Gyda fy nghynnwys i, dwi'n ceisio taro nodyn nad yw'n amlwg yn wleidyddol nac yn fasnachol. Mae'n fwy fel man tawel yng nghanol ffrwd gymdeithasol brysur, rhywle gall pobl gael seibiant a lle i anadlu. Roeddwn i'n teimlo bod angen y math hwnnw o gynnwys, felly penderfynais i ei greu fy hun.
Oes gennych unrhyw uchafbwyntiau neu gyflawniadau rydych chi'n falch ohonyn nhw?
Oes, cwrdd â llawer o grewyr gwahanol ar TikTok. Mae yna bobl rydych chi'n eu gweld ar y sgrîn, ac mae degau ar filiynau o ddilynwyr gyda nhw, ac rydych chi'n cwrdd â nhw yn y cnawd a dydyn nhw ddim yn wahanol. Ond rydych chi'n dychmygu byddan nhw'n wahanol. Beth mae pobl bob amser yn ei ddweud wrthyf fi yw 'Waw! Rydych chi'n llawer talach nag roeddwn i'n disgwyl, achos yn amlwg, dydych chi ddim yn gallu gweld bod rhywun yn chwe throedfedd a thair modfedd ar sgrîn. Gwnaeth Davina McCall sôn amdana i mewn podlediad. Dechreuodd Dawn French a Sarah Millican fy nilyn. Pan ddechreuodd Lewis Capaldi fy nilyn, ces i lwyth o negeseuon yn dweud 'Allwch chi roi neges i Lewis Capaldi a dweud hyn a hyn wrtho', a dywedais i, 'dyw e ddim hyd yn oed yn fy nilyn.' Yna gwnes i wirio a dywedais i, 'Bobl bach! Lewis Capaldi yw hwnnw'. Dim ond 200 o bobl mae’n eu dilyn a dwi'n un ohonyn nhw. Dydw i ddim erioed wedi anfon neges ato na Dawn French na neb arall. Roedd hi'n eithaf swreal pan sylweddolais i fod y bobl yma sy'n enwog yn mwynhau fy ngwylio i'n coginio cinio.
Pe gallech chi goginio i rywun enwog, pwy fyddai hynny?
Taylor Swift. Dwi'n ffan enfawr o Taylor Swift. Ei hoff bryd o fwyd yw ffiledi cyw iâr, a dwi'n cael fy nhemtio i roi cynnig rywbryd ar ail-greu hoff fwyd Taylor. Ond dwi ddim yn siŵr a yw hynny'n syniad da neu beidio.
Gyda ffans Taylor Swift mae un o ddau ganlyniad yn bosib. Gall fynd yn dda iawn ac mae pawb yn bositif, neu gall pawb ladd arnoch chi a dwi'n ceisio osgoi corddi'r dyfroedd.
Sawl gwaith bob wythnos rydych chi'n ffilmio fideo?
Dwi'n ceisio ffilmio tua theirgwaith bob wythnos. Yn y ddau fideo cyntaf bydda i'n paratoi rhywbeth sy'n gyflym iawn neu rywbeth nad yw'n rhy gymhleth. Pizza, efallai. Dwi'n ceisio gwneud mwy ar hyn o bryd achos mae gen i lyfr coginio i'w werthu, felly dwi'n ceisio cynhyrchu pedwar neu bum fideo bob wythnos a chreu gwahanol fathau o gynnwys yn y cyfamser. Gwnes i ffilmio fideo "diwrnod mewn bywyd" ychydig cyn y Nadolig. Roedd 20 gwaith yn fwy poblogaidd na rhai o'r fideos cinio achos mae'n wahanol. Mae pobl yn chwilfrydig am bwy ydych chi a beth sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni.
Pa gyngor byddech chi'n ei roi i rywun sydd am fod yn Grëwr Cynnwys?
Y peth pwysicaf dwi'n meddwl yw penderfynu pwy yw eich cynulleidfa. Y bobl bydd eich cynnwys yn apelio fwyaf atyn nhw. Yn bersonol, dechreuais i greu'r math o gynnwys roeddwn i eisiau gweld mwy ohono fe a bellach, dynion rhwng 20 a 35 oed yw dau draean o fy nghynulleidfa, sy'n ddiddorol. Os ydych chi'n targedu'ch cynnwys yn iawn, gallwch chi wneud yn dda. Dwi'n meddwl bod llawer o bobl yn ceisio creu cynnwys i bawb, ond os ydych chi'n gwneud hynny, fydd e ddim mewn gwirionedd yn cysylltu â neb. Rydych chi'n cystadlu mewn marchnad brysur iawn am sylw yn y cyfryngau cymdeithasol, a rhaid i'r cynnwys apelio at rywun, hyd yn oed os na fydd yn apelio at bawb. Dwi'n cael negeseuon gan bobl sy'n dweud 'Dwi'n casáu hyn', a fy ymateb i yw 'dim problem!' Does dim rhaid i chi ei hoffi. Dwi'n gwybod na alla i apelio at bawb, ond dwi'n canolbwyntio ar greu cynnwys sy'n gweithio i grŵp penodol o bobl a dyna sut rydych chi'n llwyddo. Mwyaf y gynulleidfa darged, mwyaf yw'r potensial i dyfu. Ond dwi wedi gweld pobl yn llwyddo drwy ganolbwyntio ar grwpiau penodol iawn fel mamau am y tro cyntaf neu bobl ar deithiau ffitrwydd. Os ydych chi'n cyfyngu eich ffocws mae'n llawer haws i bobl gysylltu. Beth sy ddim yn llwyddo yn aml yw ceisio gwneud bach o bopeth, fel coginio, y gampfa, teithio, ffordd o fyw. Efallai fod rhai pobl yn dwlu ar y cynnwys teithio ond does gyda nhw ddim diddordeb yn y gweddill, felly fyddan nhw ddim yn aros gyda chi. Dyna pam byddwn i'n cynghori: dewiswch grŵp penodol, arhoswch gyda'r grŵp hwnnw ac adeiladu oddi yno.
Beth yw un o'r heriau mwyaf rydych chi wedi'u hwynebu?
Un o'r heriau mwyaf yw delio â sylwadau negyddol. Mae pawb sy'n creu cynnwys yn eu cael, ond gall fod yn anodd peidio â'u cymryd yn bersonol, yn enwedig ar y dechrau. Pan ddechreuais i gyntaf, byddwn i'n cael sylwadau cas a byddwn i'n cynhyrfu'n fawr. Fodd bynnag, dros amser dwi wedi datblygu croen mwy caled. Dyw'r sefyllfa ddim yn ddelfrydol, ac mewn rhai ffyrdd mae'n realiti trist, ond mwyaf aml mae'n digwydd, mwyaf mae rhywun yn dod i arfer ag ef. Wedi dweud hynny, mae system i gymedroli'r sylwadau yn help mawr. Her fawr arall yw peidio â phoeni'n ormodol am niferoedd. Mae'n demtasiwn mawr gwirio eich ystadegau bob deg munud, ond yn realistig, does dim byd o bwys yn newid yn y cyfnod byr hwnnw oni bai bod fideo'n mynd yn feirol yn sydyn. Yn y dyddiau cynnar, byddwn i'n pwyso 'refresh' drwy'r amser i weld a oedd cynnydd mawr yn nifer y bobl yn gwylio, ond y rhan fwyaf o'r amser, mae'n cynyddu'n araf ond yn gyson. Rydych chi'n dechrau sylweddoli nad yw'n iach gadael i'r niferoedd reoli sut rydych chi'n teimlo am eich cynnwys. Nawr, dwi'n ceisio ymbellhau mwy a pheidio â gadael i'r ddadansoddeg ddiffinio fy llwyddiant neu fy nghreadigrwydd.

Dywedoch chi fod gennych chi lyfr ar fin cael ei gyhoeddi, dywedwch ragor.
Bydd ar werth ar 18 Mehefin. Y teitl yw Cravings and Comforts a fydd hi ddim yn syndod clywed ei fod yn canolbwyntio ar fwyd cysur achos dyna brif thema fy sianel. Dim byd rhy ffansi. Rydych chi'n gweld llawer o gogyddion yn gwneud pethau gwych ond cymhleth. Ac mae hynny'n anhygoel. Ond dyw lefel fy sgiliau i ddim cystal, o bell ffordd. Felly, bwyd cysur, coginio cartref.
Heblaw am lyfr a phobl enwog yn gwybod pwy ydych chi, faint byddech chi'n dweud bod eich bywyd wedi newid ers i chi ddechrau postio cynnwys ar-lein.
Dwi'n cael fy adnabod, yn enwedig os bydda i'n mynd i Lundain am waith. Pan fyddwn ni'n mynd allan, mae jôc bob amser am faint o weithiau bydd pobl yn fy adnabod. Aethon ni i chwarae golff gwallgof unwaith ac roedd tri pherson yno yn fy adnabod i. Yna aethon ni i dafarn a dyna rywun yn dweud 'O waw! Dinner with Jon.’ Mae cael eich adnabod yn brofiad rhyfedd achos wrth greu cynnwys yn y cyfryngau cymdeithasol rydych chi ar eich pen eich hun gyda sgrîn. Does dim criw camera. Does neb arall gyda chi. Dim ond fi sy'n ei ffilmio, yn ei olygu ac yn ei bostio. Felly, mae'n gallu bod yn ddiddorol pan fydd y byd go iawn yn cwrdd â'r byd rhithwir. Dwi'n ceisio peidio â meddwl gormod amdano. Mae gen i swydd bob dydd hefyd, felly dwi'n gwneud fy swydd o naw tan bump rhwng dydd Llun a dydd Gwener ac wedyn dyma fy hobi. Dwi'n ceisio peidio â'i gymryd o ddifrif gormod a dwi'n ceisio peidio â gadael iddo effeithio arna i achos dim ond tipyn o hwyl yw e i mi ar ddiwedd y dydd.
Hufen iâ Joe's neu Verdi's?
Joe's. Roeddwn i'n dwlu mynd yno, yn enwedig yn yr haf. Fe wnes i ychydig o leoliadau gwaith yn ystod yr haf er mwyn gallu aros yn Abertawe. Yr haf yn Abertawe. Doedd dim byd tebyg iddo.