Illtud Dunsford - Mae Illtud yn ffarmwr, yn charcutier, yn ficrobiolegydd
ac yn Brif Swyddog Gweithredol Cellular Agriculture
Hyfforddiant Proffesiynol Uwch yn y Biowyddorau gan yr APT (2012)

Illtud Dunsford. APT mewn biowyddorau, Dosbarth 2012
Mae'r byd yn newid, a hefyd y ffordd rydym yn meddwl am fwyd.
Mae amhariadau mwy mynych - boed oherwydd y tywydd, geowleidyddiaeth neu gyflenwadau'r gadwyn gyflenwi fyd-eang - yn ein hatgoffa nad nod yw gwydnwch mwyach. Mae'n rheidrwydd. Mewn llawer o ranbarthau, nid sut i dyfu mwy o fwyd yw'r cwestiwn, ond sut i'w dyfu mewn ffordd ddibynadwy, mewn modd effeithlon ac yn agosach at ble mae ei angen.
Roedd fy amser ym Mhrifysgol Abertawe'n rhan o raglen ddiwydiannol gyda'r diwydiant bwyd. Arweiniodd gradd gysylltiol mewn microbioleg at gysylltiadau ymchwil a gefnogodd waith ar ddadansoddi asid brasterog bridiau moch amrywiol a ddefnyddiwyd bryd hynny gan y busnes prosesu cig, Charcutier Ltd. Ar ôl ennill y Cynhyrchydd Bwyd Gorau yn y DU gan Wobrau Food and Farming y BBC yn 2016, ar y pryd roedden ni ar flaen y gad yn cynhyrchu bwyd crefftwrol y DU gan ymffrostio bod neuaddau bwyd Llundain megis Harrods, Fortnum and Mason a sawl gogydd seren Michelin yn gwsmeriaid i ni. Serch hynny, roeddwn i'n ymwybodol iawn o'r pwysau cynyddol ar ein systemau bwyd a'r angen am arallgyfeirio'r ffordd rydym yn cynhyrchu maeth i bobl.
Un o'r datblygiadau mwyaf addawol yn y maes hwn yw bwyd y tir (a elwir yn aml yn fwydydd a dyfir mewn labordai): yn cynhyrchu bwyd, byd môr, cynnyrch llaeth, siocled, coffi a mathau eraill o faeth yn syth o gelloedd anifail neu blanhigyn. Mae'n ddull sy'n datblygu'n gyflym, gyda gwyddonwyr, peirianwyr a chynhyrchwyr bwyd yn cydweithio i'w wneud yn fwy hygyrch ac ar raddfa fwy a chan sicrhau rheoliad cynnyrch yn UDA, Singapore, Hong Kong, Awstralia, Seland Newydd ac Israel. Mae bwyd y tir eisoes ar y farchnad yn y DU hefyd, ond dim ond ar gyfer ein cyfeillion blewog drwy gwmni bwyd anifeiliaid anwes, Meatly.
Yn ogystal â bwyd amaethyddol traddodiadol ceir llwybr ychwanegol - un sy'n ychwanegu hyblygrwydd i sut a ble rydym yn cynhyrchu maeth. Ac er bod ei gymwysiadau mwyaf gweladwy mewn marchnadoedd pob dydd, mae ganddo hefyd y potensial mewn lleoliadau mwyaf arbenigol. O genadaethau dyngarol yn dilyn trychinebau naturiol i arosiadau estynedig mewn amgylcheddau anghysbell neu heriol, gallai systemau cywasgedig sy'n gallu cynhyrchu bwyd fod yn adnodd gwerthfawr pan fydd llwybrau cyflenwi confensiynol dan straen.
Er mwy i fwyd y tir gyrraedd ei botensial, rhaid i'r ffocws fynd y tu hwnt i wyddoniaeth yn unig. Un o'r pethau pwysicaf - a'r darn lleiaf gweladwy o'r pos - yw isadeiledd. Mae ar fwyd y tir angen systemau cynhyrchu sydd wedi'u creu'n arbennig ar gyfer bwyd: systemau sy'n gyson, yn gost-effeithiol ac wedi'u dylunio ar gyfer graddfa. Cafodd llawer o'r offer a ddefnyddir heddiw eu creu'n wreiddiol ar gyfer diwydiannau eraill. Mae trawsnewid i atebion ar gyfer bwyd yn allweddol er mwyn mabwysiadu'n ehangach.

Yn 2018, symudais i ffwrdd o brosesu bwyd i ganolbwyntio'n llwyr ar yr her hon ar ôl cyd-sefydlu Cellular Agriculture Ltd gyda'r Athro Marianne Ellis, a oedd yn Bennaeth Peirianneg Gemegol ym Mhrifysgol Caerfaddon ar y pryd. Gan ddefnyddio profiadau dwfn o'r byd ffermio a pheirianneg, rydym wedi bod yn datblygu systemau bioadweithyddion a biobrosesau unigryw ar gyfer cynhyrchu bwyd y tir. Y nod yw helpu cynhyrchwyr bwyd i gynhyrchu'n gyflymach, lleihau costau a dod â'r cynnyrch i'r farchnad gyda mwy o hyder.
Yn ddiweddar, gwnaethom gyfrannu at astudiaeth nodedig a arweiniwyd gan y Brifysgol Amaethyddol Frenhinol, a wnaeth archwilio sut gallai bwyd y tir weithio gyda ffermio. Roedd y canfyddiadau'n galonogol. Drwy ddefnyddio is-gynnyrch amaethyddol - megis gweddillion hadau olew neu ffynonellau protein naturiol - roedd y cyfryngau tyfu ar gyfer celloedd a dyfwyd yn fwy fforddiadwy a chynaliadwy.
Mae hyn yn creu cyfleoedd newydd i gynhyrchwyr ar draws y gadwyn gwerth bwyd ac yn amlygu rôl cydweithio wrth lywio beth a ddaw nesaf.
Mae ein gwaith ymchwil gyda'r Asiantaeth Ofod Ewropeaidd wedi ymestyn y syniadau hyn ymhellach, gan edrych ar sut gallai systemau bwyd y tir gael eu defnyddio mewn amgylcheddau eithafol. Mae'r gwersi o'r gwaith hwnnw - ar effeithlonrwydd, dibynadwyedd ac annibyniaeth cyflenwad traddodiadol - yn llywio sut rydym yn dylunio systemau yma ar y Ddaear, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae logisteg yn gymhleth neu'n debygol o darfu arnynt.
Ceir darlun ehangach yn ymddangos o hyn oll: un lle mae bwyd y tir yn ategu dulliau presennol, yn cryfhau gwydnwch bwyd ac yn datgloi posibiliadau newydd ar gyfer arloesi a chydweithio.
Fel rhywun a gafodd ei fagu ar fferm, rwy'n gweld hyn fel rhan o draddodiad hir o addasu. Mae amaethyddiaeth bob amser wedi datblygu - o dymor i dymor, o genhedlaeth i genhedlaeth. Heddiw, mae gennym gyfle i ehangu'r traddodiad hwnnw drwy greu'r offer a'r dechnoleg y bydd cynhyrchwyr bwyd yfory'n dibynnu arnynt.
Bydd y llwybr ymlaen yn galw am natur agored, ymdrech a rennir a ffocws cadarn. Ond mae'r potensial yn real - ac eisoes yn dechrau dwyn ffrwyth.
Bydd y systemau rydym yn eu hadeiladu heddiw yn cefnogi systemau bwyd yfory. Ac os byddwn yn eu hadeiladu'n dda, byddan nhw'n maethu pobl a phosibiliadau hefyd.