Owen Morgan - Cogydd, Perchennog Bwytai
BSc Daearyddiaeth. Dosbarth 2002

Owen Morgan. BSc Daearyddiaeth, Dosbarth 2002
Beth wnaeth eich denu chi i ddod i Brifysgol Abertawe yn y lle cyntaf?
Roedd Abertawe yn atyniad mawr oherwydd fy mod i'n dod o Gaerdydd yn y Fro. Gadawais Gymru oherwydd fy ymrwymiad i chwaraeon, i astudio ym Mryste. Ond, o ran dewis cyrsiau prifysgol, roeddwn i bob amser yn cael fy nenu'n ôl i Gymru. Wrth dyfu i fyny, pan nad oeddwn i'n teithio drwy Sbaen gyda fy rhieni, byddwn bob amser yn treulio amser ym Mhenrhyn Gŵyr, ac roedd gen i lawer o ffrindiau yno. Yn ogystal, roeddwn i'n gwybod bod Abertawe yn brifysgol gref ar gyfer fy nghwrs, felly dyma oedd fy newis cyntaf bob amser, wrth wneud cais.
Ble oeddech chi'n mynd am fwyd a diod bryd hynny, nid yn Abertawe yn unig, ond ar y campws yn gyffredinol hefyd?
Bydden ni'n mynd i'r Mwmbwls. Ar ddiwedd y naw degau roedd o leiaf ddwsin o dafarndai yn ymestyn dros filltir. Felly, roedd bob amser rhywbeth yn digwydd. Roedd yna hefyd gwpl o bistros bach yn Y Mwmbwls pan oedden ni'n gallu fforddio mynd allan a gwneud pethau fel 'na. A dwi'n meddwl yn y dref, roedd Stryd y Gwynt. Roedd hynny eisoes yn beth mawr bryd hynny ac roedd llawer mwy yn digwydd ar Ffordd y Brenin nag sydd yno nawr. Roedd lle Portiwgaleg/Sbaenaidd, Eleo’s Brasserie, a oedd yn lle achlysurol y byddech chi'n mynd iddo. Roeddwn i hefyd yn rhan o Gymdeithas Balti, Clwb Cyri'r Myfyrwyr, a oedd yn hyfryd. Roedd bwytai cyri yr holl ffordd ar hyd Heol San Helen tua'r dref. Dydw i ddim yn gwybod a yw hi dal fel hynny. Bob mis bydden ni'n cael cinio yn un ohonyn nhw. Roedd gennym gytundebau gwahanol â’r bobl a oedd yn rhedeg y bwytai, a bydden nhw'n trefnu bargen i ni. Byddai rhwng tri deg a hanner cant ohonom ni ar noson allan!
Beth am y bwyd yn Nhŷ Fulton?
Ie Roeddwn fel arfer yn bwyta ar y campws y rhan fwyaf o ddiwrnodau. Roeddwn i yn Lewis Jones yn fy mlwyddyn gyntaf. Felly, bydden i yn Nhŷ Fulton ac yn y ffreutur i gael brecwast yn y bore. Yn fy ail flwyddyn roeddwn i yn Brynmill felly roedd hi’n fwy amrywiol ar ôl hynny.
Allech chi ddweud ychydig mwy wrthym am eich gyrfa ers i chi adael Abertawe?
Byddwn i'n dweud doedd dim llawer o'r dynion rwy'n eu hadnabod nawr, yn sicr yn y sector hwn, wedi bwriadu mynd iddo mewn gwirionedd, sydd, mae'n debyg, yn aml yn wir yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn aml yn ceryddu'r Deyrnas Unedig yn y sector lletygarwch oherwydd nad yw'n cael ei ystyried yn llwybr gyrfa o reidrwydd. Tra ar y cyfandir, Sbaen, Ffrainc, yr Eidal, mae'n yrfa uchel ei pharch a gallwch chi, dreulio oes ynddi. Roedd fy mrawd a minnau wedi gorffen prifysgol. Roedden ni'n edrych ar swyddi i raddedigion, yn edrych ar symud i ffwrdd, ond yna symudodd fy chwaer yn ôl i Gymru i agor bwyty. Roedd ganddi yrfa ym maes lletygarwch ac roedd wedi astudio lletygarwch yn y brifysgol ac wedi bod yn llwyddiannus iawn yn Llundain. Roedd hi eisiau agor bwyty yn ein tref enedigol, Y Bont-faen. Felly, dros ginio teuluol ar nos Wener oedd hi, o amgylch bwrdd y gegin gyda photel o win. Roedden ni'n ei drafod, ac awgrymodd ei gŵr y dylen ni edrych ar y clwb cymdeithasol diffaith, clwb ceidwadol yn y dref, a oedd wedi cau a'i orchuddio â bordau. Felly, aethon ni i edrych arno, a chyda'n cariad at fwyd o Sbaen, roedden ni'n meddwl y bydden ni'n gwneud rhywbeth gwahanol. Tref farchnad gyda phedair neu bum mil o bobl ydoedd, tref farchnad Brydeinig glasurol gydag un stryd. Roedd ganddi lawer o dafarndai clasurol, efallai un bwyty yn y dref nad oedd, mae'n debyg, wedi newid llawer mewn ugain neu ddeg ar hugain o flynyddoedd. Felly, wrth gadw hyn mewn cof, roedden ni'n meddwl y bydden ni'n gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol, ychydig yn fwy modern.
A fyddech chi'n dweud bod mynd i'r bistros hynny fel myfyriwr wedi dylanwadu arnoch chi i ymuno â'r diwydiant hwn?
Yn bendant! Dechreuais deimlo’n angerddol am fwyd pan oeddwn i’n fyfyriwr. Dw i'n meddwl roedd y bobl a oedd yn byw gyda fi, yn sicr yn yr ail neu'r drydedd flwyddyn, yn gallu gweld hynny. Roedd gen i obsesiwn â bwyd. Byddwn i bob amser yn dod â phethau yn ôl i'n tŷ ni yn Brynmill. Bydden ni bob amser yn cael pryd o fwyd yn y tŷ unwaith yr wythnos, a byddwn i fel arfer yn ei goginio. Felly, roeddwn i'n hoff iawn ohono bryd hynny, ond cefais brofiadau gwych gyda bwyd hefyd wrth deithio gyda fy nheulu i Sbaen a Ffrainc a lleoedd eraill hefyd.
Dechreuoch chi gydag un bwyty ond erbyn hyn mae gennych sawl lleoliad.Sut byddech chi'n dweud bod y brand wedi datblygu dros y blynyddoedd?
Mae hynny'n gwestiwn diddorol. Dechreuon ni fel Bar 44 ond nawr ein henw ni yw'r grŵp Forty-Four. Mae gennym ni wahanol frandiau o dan ymbarél y grŵp. Ond mae'n sefyllfa ryfedd. Pan fyddaf yn siarad â phobl rydyn ni'n gweithio gyda nhw, yn aml yn Llundain neu yn Sbaen. Maen nhw'n aml yn gofyn pam rydyn ni'n cael ein galw'n 'Forty-Four'? Mae hyn oherwydd mai rhif 44 oedd rhif y clwb cymdeithasol gwreiddiol y gwnaethom ei brynu ar stryd fawr y Bont-faen. Ond roedd hynny bob amser yn ein poeni i raddau. Roedden ni mor angerddol, ac roedden ni'n datblygu ein bwyd a diod Sbaenaidd modern dros y blynyddoedd ac yn ceisio addysgu pobl de Cymru i lefel fanylach o'r hyn y gall fod. Fodd bynnag, mae’r bobl sy'n pasio ni ar y stryd, maen nhw'n gweld enw fel Bar 44, ac nid yw wir yn amlygu Sbaen, nid yw'n amlygu unrhyw beth tebyg i hynny.
Felly, pan wnaethon ni edrych yn y pen draw i ehangu i'n hail safle, cymerodd bron ddeng mlynedd i ni. Fe wnaethon ni holi llawer o bobl leol yn ardal Penarth. Dywedon nhw, gwrandewch, rydych chi eisoes wedi sefydlu enw da am eich bwyd a'ch diod ac mae pobl yn adnabod yr enw. Roedd hynny tua deuddeg mlynedd yn ôl pan oedden ni'n meddwl, reit, rydyn ni'n cadw'r enw ac yn glynu wrtho. Beth bynnag a wnawn gyda 44, byddwn yn ei wneud yn hysbys ei fod yn adlewyrchu Sbaen. Aethon ni hefyd at asiantaeth dylunio a brandio i adnewyddu’r cyfan o ran yr ethos, y logo a’r ffontiau. Daeth pob un o'r pwyntiau cyswllt yn y bariau a'r bwytai yn llawer cliriach o ran hunaniaeth. Felly er ei fod yn Bar 44 neu’n Asador 44 neu beth bynnag y gallai fod, roedd yn llawer mwy adnabyddus o ran y brand. Ar ôl hynny daeth pethau fel ein llyfr cyntaf, a gyhoeddwyd ychydig flynyddoedd yn ôl, a aeth ymlaen i fod yn llyfr sydd wedi gwerthu'n arbennig. Roedd y cyfan yn ymwneud â'n stori ni fel teulu a dau frawd yn benodol, a'n teithiau o amgylch Sbaen a'n dylanwadau o ran bwyd a diod.
Felly, rwy'n credu bod hynny'n arwydd mawr o ran y brand a phresenoldeb y brand. Os bydd unrhyw un yn gofyn, gallwn eu cyfeirio at hynny hefyd. Felly, rhoddodd hyn fwy o hunaniaeth i ni, dw i'n meddwl.
A fyddech chi'n dweud bod eich gwyliau a’ch holl deithiau i Sbaen wedi eich ysbrydoli i ddewis bwyd Sbaenaidd?
Do, dwi'n meddwl. Roedd fy mam a fy chwaer yn ddylanwad mawr. Mae fy chwaer yn gyfarwyddwr cyfartal â mi a fy mrawd. O oedran ifanc iawn roedden ni'n deulu a oedd yn coginio. Byddem yn coginio gyda'n gilydd ac yn eistedd, yn bwyta ac yn sgwrsio. Rhywbeth sydd wedi ei golli yn niwylliant Prydain dros ddegawdau yw mwynhad teuluoedd wrth fwyta gyda'i gilydd yn rheolaidd, yn wythnosol, yn eistedd o amgylch bwrdd mawr. Nid oes rhaid iddo fod yn fwrdd, lle bynnag mewn gwirionedd, ond dim ond eistedd a mwynhau'r hyn rydych chi wedi'i goginio o'r dechrau, a dim ond siarad am eich diwrnod, eich wythnos, a phethau fel 'na. Roedd cariad at hynny gennym ni. Dw i'n meddwl mai un o fy atgofion cyntaf o hynny oedd pan oeddwn i tua phump oed, fe aethon ni mewn cerbyd gwersylla ac roedden fel teulu'n crwydro o gwmpas Sbaen yn ystod y gwyliau, ond nid y rhannau o Sbaen lle mae gennych chi fwydlen wedi'i lamineiddio o luniau o fwyd. Ardaloedd mewndirol a mynyddoedd Sbaen ac ardaloedd fel 'na a ddylanwadodd arnom. Ac yna pan agoron ni'r bar cyntaf, parheais i deithio, ond mewn modd mwy proffesiynol lle byddwn i'n gweithio mewn ceginau yn rhannau mwyaf rhyfedd Sbaen, ac mewn ceginau yn Llundain i ddysgu'r grefft.
Pe gallech chi ddod ag unrhyw fwyd o Sbaen i bob bwyty yng Nghymru, beth fyddai e?
O, mae hwnna'n gwestiwn anodd. I ddweud y gwir, cyn Brexit, byddem yn defnyddio 90 y cant o gynnyrch Sbaenaidd o'r radd flaenaf. Ers Brexit, mae wedi dod yn llawer anoddach, yn enwedig mewnforio ein hunain. Felly, rydyn ni'n cyfuno, ac rydym bob amser wedi cyfuno cynnyrch tymhorol Cymreig, yn enwedig ochr ddarfodus pethau, fel pysgod, cig a llysiau tymhorol bob dydd. Ond mae cynnyrch Sbaenaidd allweddol yn dal i fod wrth wraidd yr hyn a wnawn, ac mae'n debyg bod gan y wlad rai o gynhwysion mwyaf eiconig y byd.
Pe bai'n rhaid i mi ddewis un, mae'n debyg mai'r ham Iberico gorau fyddai hwnnw. Pan fyddwch chi’n ystyried rhywbeth fel Jamon, rydych chi'n talu am yr hyn rydych chi'n ei gael, yn y bôn. Felly, y moch Iberico o'r radd flaenaf, brîd pur sydd wedi'u halltu am bedair i bum mlynedd, yn hongian yn y seleri, ac sydd wedi cael o leiaf 10,000 metr sgwâr i bob mochyn bori arno. Mae o’r un safon â’r clôr du gorau a'r caviar gorau a phethau fel 'na.Dw i'n meddwl ei fod yn adlewyrchu'r gwir Sbaen pan fyddwch chi'n ei fwyta. Does dim un ham arall yn y byd, sydd wedi'i halltu, yn dod yn agos at y moch duon hynny.
Fe ymddangosoch chi ar Saturday Kitchen ar y BBC.Sut gawsoch chi'r cyfle hwnnw?
Roedd hynny'n anhygoel, i ddweud y gwir. Dwi wedi'i wneud bedair neu bum gwaith erbyn hyn. Cefais gyfle yn ystod COVID, i wneud Sunday Brunch ar Channel Four. Roedd rhaid i mi wneud hyn yn rhithiol o lawr uchaf Asador 44 lle roedden ni wedi agor gwesty bwtîc bach. Fe wnaethon ni hynny ar Zoom, ac fe wnes i eitem ar ddiodydd. Dw i'n meddwl bod rhywun o Saturday Kitchen wedi gweld hynny ac wedi holi amdanaf i. Felly dyna oedd y cyfle cyntaf i fynd ar y BBC.
Roedd rhyfel Wcráin newydd gychwyn, ddechrau 2022.

Ac ar y pryd, roedden nhw'n dal i siarad llawer am yr argyfwng costau byw ac yn benodol, yr argyfwng ynni. Rhoddon nhw gyfarwyddyd i mi ddefnyddio cynhwysion cyffredin y gallech chi ddod o hyd iddyn nhw yn unrhyw le, rhywbeth cyflym a hawdd nad oedd yn defnyddio llawer o nwy na thrydan i goginio.Yn ffodus, aeth yn dda; Rwy'n ymddangos ar y rhaglen yn lled-reolaidd nawr.
Mae'n edrych yn llawer o hwyl
Ydy wir. Mae'n waith caled, ond mae'n werth chweil oherwydd ei fod wir yn helpu gyda'r busnes. Ar ôl gorffen recordio rwy'n ffonio fy mrawd ac mae ef yn dweud, wel mae'r archebion yn dod i mewn! Felly, mae yn gweithio. Maen nhw'n trefnu i mi fynd draw yno y diwrnod cynt i fynd trwy bopeth ar y set. Ac yna maen nhw'n anfon amdanoch chi am hanner awr wedi pump y bore ar ddydd Sadwrn. Yna, mae angen ymarfer y cyfan. Ac yna rydych chi'n paratoi i fynd eto am 10:00 i'w wneud yn fyw.
Sonioch chi fod eich ymddangosiad teledu cyntaf yn ymwneud â diodydd a'ch enw ar y cyfryngau cymdeithasol yw sherry monster.Dywedwch ychydig bach wrthym am hynny?
Sherrymonster44 oedd yr enw gwreiddiol. Mae'n deillio o fy nhaith gyntaf i'r Triongl Sieri yn Sbaen. Wrth fynd yn ôl 16 neu 17 o flynyddoedd nawr, roeddwn i gydag aelod o staff a ddaeth draw i'r Bont-faen a oedd eisiau gwella ei Saesneg. Gweithiodd yn y gegin gyda mi am ddeunaw mis, gan wneud pob math o bethau dibwys. Ni ddywedodd yr un gair erioed. Gwnaeth fwrw ymlaen â'i holl waith ac roedd yn anhygoel. Yna cefais wahoddiad ganddo yn ôl i’w dŷ yn Sbaen am wyliau ac es i draw, ac fe’m casglodd pan gyrhaeddais.
Y lle cyntaf aethon ni iddo oedd bodega sieri. Trodd allan mai ef oedd yn berchen ar y lle! Ac roeddwn i fel, beth sy'n digwydd? Mae'r bodega yn un o'r rhai mwyaf yn y rhanbarth, o'r enw Osborne. Maen nhw'n cynhyrchu sieri ar raddfa enfawr, ac roedd e'n rhan o'r teulu. Doedd dim syniad gen i. Doedd dim rheswm iddo weithio mewn swyddi sylfaenol yn y gegin, doedd arian ddim yn broblem iddo. Ond, ni ddywedodd yr un gair erioed. Roedd e’n glanhau ffriwyr a lloriau gyda fi, ac roedd yn weithiwr anhygoel. Felly, ymweliad â'r gwindy hwnnw ddechreuodd hynny. Roedden ni bob amser yn gweini sieri oherwydd ei fod yn far tapas Sbaenaidd a dyna beth dylech chi ei wneud, ond doeddwn i ddim yn gwneud fawr o ddim am hynny. Ond o hynny ymlaen, daeth sieri'n obsesiwn. Dechreuais ymweld â'r rhanbarth sawl gwaith y flwyddyn, ymwelais â gwahanol windai ac yna cefais fy nerbyn ar gwrs Addysgwyr Sieri Rhyngwladol yn 2013. Maen nhw'n derbyn 20 o bobl y flwyddyn o bob cwr o'r byd ar gwrs wythnos o hyd. Rhaid i chi flasu'n ddall a sefyll arholiad ar y diwedd. Felly, fe wnes i hynny. Ac yna dechreuais addysgu eraill am win a sieri Sbaenaidd ledled y Deyrnas Unedig ar gyfer masnach, timau bwytai, a phethau felly. Ac yna dechreuais gynrychioli cwpl o frandiau mewn rôl llysgennad. Felly, mynd i ffeiriau gwin, cynnal sesiynau blasu gyda masnachwyr ac yna'r defnyddwyr.
Yna daeth sieri yn beth enfawr yn Bar 44. Dechreuon ni ei weini o'r gasgen. Bu chwyldro mawr o ran sieri yn y Deyrnas Unedig, ac mewn lleoedd fel Efrog Newydd a Sydney, mewn bariau a bwytai. Mae wedi bod yn beth mawr. Felly, mae sieri wedi bod yn rhan o fy DNA erioed. Mae hyd yn oed pennod yn y llyfr amdano. Dw i wir yn mwynhau siarad â phobl am sieri a'u haddysgu nhw amdano. Oni bai fy mod i wedi agor Bar 44, efallai y byddwn i wedi mynd i addysgu.

Beth byddech chi'n ei ddweud yw'r allwedd i ddod o hyd i win sy'n cyd-fynd yn berffaith â tapas?
Waw...mae hwnna'n gwestiwn mawr. Wyddoch chi, mae tapas yn fwyd cyfan, mewn gwirionedd. Felly, mae'n dibynnu'n fawr ar yr hyn rydych chi'n chwilio amdano. Mae'n ymwneud â dod o hyd i broffil o win, boed yn sieri, yn goch, yn wyn, yn rosé, neu’n befriog. Mae rhywbeth ar gyfer pob cynhwysyn a phob saig. Am bethau syml â blas mawr sydd gennym ni ar y bar fel, chorizo wedi'i grilio neu rywbeth tebyg, sydd â sbeis paprica a blas porc iddo. Byddai gwin coch hyfryd sy'n llawn blas heb fod yn rhy bwerus, neu sieri sych, neu rywbeth fel 'na’n berffaith.
Fe sonioch chi eich bod chi wedi teithio o gwmpas Sbaen cryn dipyn.Pa ardal yw eich hoff ardal o ran bwyd?
Mae hynny'n gwestiwn anodd.Rwy'n treulio llawer o amser yn Andalusia yn y de, yn nhrefi sieri Cadiz. Felly bron yn edrych dros Affrica a Moroco. Ac mae'r gwinoedd yn cyd-fynd â llawer o fwyd. Dyma lle mae'r tiwna coch yn llifo trwy Gulfor Gibraltar bob mis Mai, ac mae'n beth mawr. Ond, yn hanesyddol, mae gogledd Sbaen wedi bod yn bwerdy coginio, ac mae eich holl gastronomeg a'r bwytai drud yng Ngwlad y Basg, a Chatalwnia.

Ond yn yr un modd, rydym yn defnyddio llawer o gig eidion a bwyd môr o Galicia yn y gogledd-orllewin, sy'n atgoffa rhywun o Gymru oherwydd ei bod hi'n bwrw llawer o law. Eithaf mynyddig, gwyrdd iawn, ac arfordiroedd anhygoel. Felly, mae ganddo'r pantri naturiol hwnnw o dir a môr sy'n wych, ac mae ganddo winoedd anhygoel hefyd. Wrth ymyl hynny, ceir ardal fawr arall sef Asturias ym Mynyddoedd Picos sydd â bwyd môr anhygoel. Gallech fod ar y traeth un funud, ac o fewn hanner awr, gallech fod ar ben mynydd. Ac mae ganddyn nhw gawsiau , bwyd môr, cynnyrch llaeth a chigoedd anhygoel. Mae cymaint o ddewis, mae'n anodd iawn dewis ffefryn.
Pe gallech chi fwyta un saig yn unig am weddill eich oes, beth fyddai e?
Fy ngwendid o ran cynhwysion yw pysgod cregyn yn gyffredinol, ond byddwn i'n mynd am gorgimychiaid anhygoel. Dwi ddim yn gallu cael digon ohonyn nhw o gwbl. Ond nid pethau sy'n cael eu ffermio yng Ngwlad Thai na Fietnam sydd heb flas, ond corgimychiaid gwyllt o Fôr y Canoldir. Mae blas y môr arnynt. Blas melys, fel hanfod y môr, hyd yn oed yn amrwd neu wedi'u berwi neu wahanol gorgimychiaid y bydden ni'n eu cael ar y gril gan ddibynnu ar eu proffil ac yna'n defnyddio'r cregyn a'r pennau i wneud bisque. Gallech chi ei ddefnyddio ar gyfer stiw bwyd môr neu hyd yn oed saig reis.Blasus tu hwnt!
A'r cwestiwn olaf felly.Joe's neu Verdi's?
Cwestiwn da. Mae'n gwestiwn anodd... Hufen iâ Joe’s.