Ross Clarke - Awdur sy'n ysgrifennu am deithio, bwyd a gwin
BA Astudiaethau Iaith a Sbaeneg gydag Astudiaethau Busnes. Dosbarth 2009

Beth oedd eich rheswm dros ddod i Brifysgol Abertawe?

Cwestiwn da. Rydw i o Gasnewydd yn wreiddiol, felly rwy'n pontio'r ddwy ochr i arfordir de Cymru. Roedd fy llwybr i ddod yn fyfyriwr yn Abertawe yn eithaf rhyfedd, oherwydd cyflwynais i gais i'r Brifysgol drwy UCAS, derbyniais fy holl gynigion yn ôl gan y prifysgolion, ac yna penderfynais i nad oeddwn i am fynd i'r Brifysgol, felly gwrthodais i fy holl gynigion. Tua mis Mai, dywedodd fy athrawon yn yr ysgol "Wyt ti'n sicr nad wyt ti eisiau mynd i'r brifysgol?" Felly, dywedais efallai wna i edrych eto. Cyn hynny, roeddwn i wedi cyflwyno cais am gyrsiau astudiaethau busnes, cyn sylweddoli nad oeddwn i eisiau astudio astudiaethau busnes o gwbl. Felly, edrychais i eto, ac ar y pryd, roedd na gwrs yn Abertawe a oedd yn cynnwys Saesneg, Sbaeneg, a busnes, sef y pynciau roeddwn i'n eu hastudio fel Safon Uwch. Rydw i'n diflasu yn gyflym iawn, felly roedd medru astudio mwy nag un pwnc yn swnio’n syniad da. Es i drwy broses o'r enw 'UCAS extra' a oedd yn rhoi un dewis arall i chi cyn i Clirio ddechrau. Yn ffodus, cynigodd Abertawe le i mi, ac roeddwn i'n eithaf cyfarwydd ag Abertawe, roeddwn i wedi bod i rai diwrnodau agored ac ati yn y gorffennol. A phwy sy’ ddim eisiau bod ger y traeth!

Ble roeddech chi'n dueddol o fynd am bryd o fwyd yn Abertawe?

Fel myfyriwr, i unrhyw le oedd yn rhad! Byddech chi fel arfer yn mynd ag unrhyw aelodau o'r teulu a oedd yn ymweld â chi i’r 'Pub on the Pond'. Starvin’ Jacks! Ydy 'Starvin' Jacks' dal yn y dref?  Caffi a oedd yn gwneud brechdanau mawr a phethau felly oedd 'Starvin' Jacks'. Chickoland ar ôl noson allan. Mae'n rhaid i chi gael byrgyr cyw iâr ar Stryd y Gwynt cyn i chi fynd adref.

Sut beth oedd y bwyd ar y campws?

Roeddwn i’n byw mewn neuadd breswyl ac roedd brecwast wedi'i gynnwys yn y pris, felly es i i Dŷ Fulton bob dydd. Enw ein tîm cwis oedd "Fresher than a Fulton House breakfast".  Mae'n rhaid fy mod i wedi cael brecwast wedi'i goginio bob dydd am y flwyddyn gyfan, a magais lawer o bwysau fel y gwnaeth pawb arall hefyd!  Roedd Waterstones yn arfer bod yng nghanolfan Taliesin, roedd ganddynt gaffi da ar y pryd.

Ble byddech chi'n bwyta nawr?

Dyw e ddim yn addas ar gyfer cyllideb myfyrwyr, ond rydw i'n awyddus iawn i fynd i 'The Shed'. Jonathan Woolway yw'r perchennog, ac roedd e'n arfer bod yn brif gogydd yn St. John yn Llundain, sef bwyty enwog yn Llundain lle maen nhw'n defnyddio pob rhan o gorff anifail wrth goginio, ac maen nhw'n gwneud caws pob arbennig. Maen nhw'n defnyddio cynhwysion gwych a braster da er mwyn creu'r caws pob. Mae'n fenyn i gyd ac yn flasus iawn. Mae 'The Shed' yn defnyddio cynnyrch tymhorol lleol. Penderfynodd Jonathan ei fod wedi bod yn gweithio yn Llundain am gyfnod hir, ac roedd eisiau dychwelyd i Gymru ac Abertawe. Rydw i ar dân eisiau mynd i roi cynnig arno. 

Beth gwnaeth eich sbarduno i arbenigo mewn ysgrifennu am deithio, bwyd a gwin?

Ahh, dyma'r pethau da mewn bywyd! Astudiais i Sbaeneg ym Mhrifysgol Abertawe, yna gweithiais i'r Brifysgol am ychydig, yn yr adran recriwtio myfyrwyr. Fi oedd y person hwnnw a oedd yn siarad â myfyrwyr ac yn mynd i ysgolion ac yn trafod ffurflenni UCAS a'r holl bethau felly, yn ogystal â chynnal teithiau campws, gweithio yn ystod diwrnodau agored ac ati. Yna, cefais gynnig swydd addysgu yn Sbaen. Felly, symudais i Gran Canaria a gweithio fel athro am ychydig, cyn dychwelyd i'r DU. Unwaith eto, roeddwn i’n gweithio mewn prifysgolion, ym maes marchnata, ond roeddwn i'n gwybod nad oeddwn i eisiau gwneud hynny am yrfa. Roeddwn wedi rhoi ambell gynnig ar newyddiaduraeth, felly penderfynais dyna beth roeddwn i'n mynd i’w wneud.

Es i i Brifysgol Caerdydd i wneud gradd Meistr mewn newyddiaduraeth, a dyna'r cwrs rydw i'n ei addysgu nawr. Ar ôl y radd Meistr, achubais i  ar unrhyw gyfleoedd newyddiaduraeth a oedd yn codi, ond roeddwn i'n gwybod mai bwyd a theithio roeddwn i eisiau ysgrifennu amdanynt oherwydd eu bod yn ymddangos yn bethau hwyl i'w trafod. Doeddwn i ddim eisiau gwneud unrhyw newyddiaduraeth papur newydd. Roeddwn i eisiau gweithio ar bethau fel cylchgronau a oedd yn fwy hwyl. Felly, dechreuais i weithio i gylchgrawn Tesco gan ddiweddaru'r holl ryseitiau ar eu gwefan.

Doeddwn i ddim yn gwybod llawer am fwyd ar y pryd, ond roeddwn i'n diweddaru'r ryseitiau - yn sicrhau bod 'hummus' yn cael ei sillafu'r un ffordd ym mhob rysáit – ddim y swydd orau yn y byd, ond rhoddodd y cyfle i mi ddechrau yn y diwydiant. Yna symudais yn ôl i Sbaen am ychydig oherwydd, fel y nodais i o’r blaen, rydw i'n diflasu yn gyflym iawn. Ar yr adeg honno, cysylltodd asiantaeth â mi, ac roedd 'British Airways' yn un o'i chleientiaid. Roedden nhw'n chwilio am rywun i fod yn olygydd cyfryngau cymdeithasol dros dro i 'British Airways'. Dyna oedd fy swydd am gyfnod. Dyna pryd y sylweddolais i mai ysgrifennu am deithio roeddwn i eisiau ei wneud. Wrth lwc, dywedodd golygydd profiadol wrthyf "Os wyt ti'n mynd i fod yn newyddiadurwr teithio, bydd yn llawer haws os byddi di'n dod yn arbenigwr". Felly gofynnais i wrthyf fi fy hun, beth a ble rydw i'n gwybod llawer amdano? Cymru, wrth gwrs, ond doeddwn i ddim yn meddwl y byddai hynny'n rhoi'r cyfle i mi ymweld â llawer o leoedd. Meddyliais, rydw i'n gwybod llawer am Sbaen, rydw i'n siarad Sbaeneg. Rydw i wedi byw yn Sbaen, felly dyna beth rydw i'n mynd i’w wneud. Rydw i'n mynd i arbenigo yn Sbaen.

Po fwyaf rydych chi'n siarad am rywbeth, mwyaf bydd pobl wedyn yn dweud "Beth am ofyn i'r dyn hwnnw sy'n gwybod llawer am Sbaen ysgrifennu cynnwys i ni?". Felly, rydw i nawr yn arbenigo i raddau helaeth yn yr Ynysoedd Dedwydd fel cyrchfan.

A wnaeth y pandemig eich ysbrydoli i ddechrau 'The Welsh Kitchen?'

Doedd y pandemig ddim yn gyfnod da i ysgrifennu am deithio, felly ysgrifennais i fwy o gynnwys am fwyd a diod, ond roeddwn i'n gweld eisiau ysgrifennu hefyd. Roedd dal gen i swydd yn gweithio fel golygydd ar gyfer cwmni gwestai, ond fel arall roeddwn i’n eistedd yn y tŷ yn gwneud dim. Mewn gwirionedd, roeddwn i wedi symud yn ôl i Gasnewydd ar yr adeg honno, felly meddyliais oes pwnc dwi’n i'n gwybod rhywbeth amdano ac y gallaf ysgrifennu amdano? Beth am fwyd Cymreig. Doeddwn i ddim yn medru dod o hyd i unrhyw beth amdano, felly meddyliais i man a man i mi roi cynnig arno.  Roeddwn i'n ysgrifennu cylchlythyr bob wythnos am y flwyddyn gyntaf, ond wrth i fy ngwaith go iawn ddechrau cynyddu eto, sylweddolais i nad oedd ysgrifennu cylchlythyr bob wythnos yn gynaliadwy. Felly, penderfynais i ysgrifennu cylchlythyr yn fisol yn hytrach nag yn wythnosol, ac mae wedi parhau ers hynny. Mae 1,000 o danysgrifwyr gan y cylchlythyr erbyn hyn, ac mae wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Bwyd a Diod Cymru.

Allwch chi rannu un o'ch hoff brydau bwyd? Rysáit o 'The Welsh Kitchen'?

Mae gen i tua 90 o lyfrau ryseitiau Cymreig o gyfnodau gwahanol, ac mae bron pob un yn cynnwys caws, ffrwythau sych, neu ryw fath o does. Rydw i'n dwlu ar gaws pob, a dwi wrth fy modd yn creu ryseitiau newydd ar gyfer caws pob. Mae modd rhoi gwahanol fathau o gaws a phethau eraill ynddo. Felly, rydw i newydd greu rhai ryseitiau ar gyfer rhifyn mis Mawrth cylchgrawn 'Ocado Life' ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi, ac un o'r ryseitiau hyn oedd 'Welsh pear-bit', sef fersiwn wahanol o gaws pob. Roedd y rysáit yn cynnwys darnau o ellyg, a defnyddio seidr yn hytrach na'r cwrw sydd yn cael ei roi yn y cymysgedd o gaws yn draddodiadol. Gallwch weld y ryseitiau yn y cylchgrawn neu ar-lein. Mae unrhyw beth â chaws yn wych - hyd yn oed pice ar y maen!

Pe baech chi ond yn medru bwyta un pryd o fwyd, rwy'n dyfalu mai caws pob fyddai'r pryd hwnnw, neu a fyddech chi'n dewis rhywbeth o Sbaen?

Mae hwn yn gwestiwn anodd iawn. Gallwn i fyw ar dortila (omled Sbaeneg), ond efallai y gallai'r pryd fod yn gaws pob Sbaenaidd. Rydw i wedi gwneud un o'r rhain, coginiais winiwns mewn olew olewydd cyn ychwanegu'r blawd i greu'r roux. Yna ychwanegais tsioriso yn ogystal ag ychydig o baprica cyn rhoi sieri sych. Yna ychwanegais gaws Manchego. Roedd yn gymysgedd Sbaenaidd-Cymreig. Blasus iawn.

Pe gallech chi roi un darn o gyngor i rywun sy'n ystyried dechrau yn y diwydiant bwyd a diod, beth fyddai'r cyngor hwnnw?

Byddai'r cyngor fwy na thebyg yr un cyngor rydw i'n ei roi i'r rhan fwyaf o newyddiadurwyr sydd eisiau dechrau arni: peidiwch â disgwyl derbyn tâl arbennig o dda, ond dyfalbarhewch. Does dim ots os ydych chi'n ysgrifennu ar eich cyfer chi eich hun. Dechreuwch gylchlythyr, dechreuwch flog, crëwch gyfrif Instagram. Does dim ots beth rydych chi'n ei wneud. Ewch amdani. Gallwch chi wella a datblygu. Gallwch fynd ar gyrsiau, gwneud gradd Meistr, mae cynifer o opsiynau ar gael. Os ydych chi eisiau ysgrifennu am deithio, does dim angen anelu’n rhy uchel i ddechrau. Roedd rhai o wyliau gorau fy mywyd yng ngharafán fy Mamgu ym Mhorthcawl, ac mae'r rheiny yn straeon teithio gwych. Does dim angen i chi heicio i fyny Kilimanjaro er mwyn creu stori deithio wych. Felly, meddyliwch mewn ffordd syml ac ysgrifennwch am yr hyn sy’n gyfarwydd i chi.

Beth fyddai eich hoff le yn y byd am fwyd a gwin?

Mae'r rhain yn gwestiynau sy'n amhosib eu hateb! Yn amlwg, mae gen i ychydig o ragfarn tuag at Sbaen, ond y lle wnaeth ragori ar fy nisgwyliadau oedd De Korea. Doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl ac roedd hi'n anhygoel. Y barbeciw Koreaidd, y soju, sydd ychydig yn debyg i sace, a'r cwrw reis. Mae'n debyg i gwrw cymylog a llaethog. Mae'n blasu fel cwstard, ond mae'n eithaf cryf. Rydych chi fel arfer yn ei yfed o bowlen, a dysgais i nad oes modd i chi ail-lenwi eich powlen eich hun. Mae'n rhaid i chi ail-lenwi powlen y person nesaf atoch sydd yn ychydig o broblem os ydych chi'n yfed yn gyflym, fel rydw i! Roedd y bwyd yno yn hollol arbennig, gyda marchnad bysgod anferth mewn lleoedd megis Busan, sydd yn y de ar yr arfordir. Mae llawer o fenywod hŷn yno gyda'u gwallt trwsiadus, yn gwisgo colur ac yn edrych yn hardd iawn, ac yna maen nhw'n gwisgo menig ac yn diberfeddu pysgod.

Roedd Japan hefyd yn anhygoel. Mewn gwirionedd, dyna lle y bwyteais gyw iâr amrwd yn bwrpasol. Mae’n ddanteithfwyd cyw iâr o'r enw sashimi, a bwyteais i hynny yn Tokyo. Roedden nhw'n gwybod mai newyddiadurwr oeddwn i, a dywedon nhw, "Mae gennyn ni'r bwyd arbennig hwn i chi". Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd y bwyd ac yna fe ddywedon nhw "Sashimi cyw iâr yw hwn". Roeddwn i'n dweud wrth fy hun yn dawel, rwy'n sicr bod sashimi yn golygu amrwd? Roedd yn flasus iawn! Roedd llawer o flas gan y cyw iâr. Ond y broblem oedd eich bod chi'n gwybod sut mae cyw iâr amrwd yn teimlo. Felly pan fyddwch chi'n ei deimlo yn eich ceg, mae eich ymennydd yn dweud: "Paid â'i fwyta, paid â'i fwyta, paid â'i fwyta. Bydd yn dy wneud di'n sâl. Bydd yn dy wneud di'n sâl.” Ond oherwydd y ffordd y mae'r cyw iâr yn cael ei baratoi, mae'n ddiogel i'w fwyta. Yn amlwg, roedd yn rhaid i mi ei fwyta ta beth, oherwydd eu bod nhw wedi ei baratoi'n arbennig i mi. Rwy'n credu eu bod nhw wedi sylweddoli nad oeddwn i'n rhy awyddus i fwyta'r cyw iâr, felly gwnaethon nhw awgrymu fy mod i'n trio rhywbeth arall ar ei ôl. Dyna pryd y daethon nhw â’r stecen dartar. Wel, dyna oeddwn i'n meddwl! Ceffyl oedd e mewn gwirionedd! Dywedais i "Daliwch ati". Bydda i’n bwyta unrhyw beth, hyd yn oed os nad ydw i'n ei hoffi. Fodd bynnag, dydw i ddim yn or-hoff o draed moch, er eu bod nhw'n boblogaidd yn Sbaen.

A beth am win?

Y lle a wnaeth ragori ar fy nisgwyliadau yn ddiweddar oedd Georgia, mae gwin gwych yno. Mae'n bosibl mai yn Georgia roedd pobl yn gwneud gwin am y tro cyntaf. Credir eu bod nhw wedi addysgu'r Groegiaid hynafol am win. Mae math o rawnwin o'r enw Saperavi sydd tua 8,000 o flynyddoedd oed, a dyma un o'r unig fathau o rawnwin yn y byd sy'n cynhyrchu sudd du (mae'r rhan fwyaf o rawnwin du yn dal i gynhyrchu sudd gwyn). Er enghraifft, defnyddir Pinot Noir, sef grawnwinen ddu sy'n cynhyrchu sudd gwyn, yn aml i greu siampên. Mae Saperavi yn un o'r unig fathau o rawnwin sydd â lliw du, a dyna darddiad ei enw, mae'n gadael ei ôl ar eich dwylo. Mae'n flasus iawn, ac mae un bendigedig ar gael yn M&S neu ar Ocado ar hyn o bryd, os oes gennych ddiddordeb.

Ar wahân i fod yn ddarlithydd, disgrifiwch ddiwrnod arferol i chi?

Ar y diwrnodau pan nad wyf yn darlithio, os oes gennyf erthygl wedi'i chomisiynau, byddaf yn ymchwilio ar ei chyfer ac yn ei hysgrifennu. Efallai y byddaf yn cynnig syniadau i olygyddion. Os oes gennyf syniad ar gyfer stori ac rwy'n credu y gallai fod yn llwyddiannus, byddaf yn cysylltu â golygyddion, yn ceisio eu perswadio i ddweud "iawn, rydyn ni eisiau i ti ysgrifennu hwn i ni". Efallai y byddaf yn trefnu taith i rywle. Os ydw i wedi cael fy nghomisiynu, efallai y byddaf yn siarad â byrddau croeso neu'n trefnu tocynnau awyren, beth rydw i'n mynd i'w wneud, ble bydda i’n mynd, ble bydda i’n aros. Mae bywyd newyddiadurwr y dyddiau hyn fwy neu lai yn yrfa bortffolio. Rydych chi'n gwneud bach o bopeth. Efallai y byddaf yn rhoi trefn ar fy nghylchlythyr, neu'n creu rysáit, neu'n rhoi cynnig ar y rysáit, efallai y byddaf yn mynd i ddigwyddiad gyda'r nos, ac yna efallai rhyw fath o ddigwyddiad cysylltiadau cyhoeddus. Efallai fod bwyty newydd yn cael ei lansio, neu rywbeth tebyg. Mae pob dydd yn wahanol. 

Y cwestiwn olaf: Joe's neu Verdi's? 

Joe's am hufen iâ. Verdi's am y siocled poeth Eidalaidd trwchus.