Mae Dr Laura Wilkinson yn seicolegydd arbrofol sydd â diddordeb mewn ymddygiad bwyta. Mae hi'n un o aelodau arweiniol grŵp ymchwil SNAC (Maeth, Archwaeth a Gwybyddiaeth Abertawe).
Siaradon ni â Laura am y newid mewn diwylliant deiet ac ymchwil i ymddygiadau bwyta - o reoli calorïau i’r symud tuag at werth maethol, bwydydd maethlon iawn a chynaliadwyedd.
"Tua dechrau fy ngyrfa, roeddwn i’n canolbwyntio ar ddeall ymddygiad bwyta i gefnogi rheoli pwysau. Fodd bynnag, mewn blynyddoedd diweddar mae hyn wedi ehangu'n sylweddol i ystyried iechyd o safbwynt ehangach gan gynnwys ansawdd deiet a chynaliadwyedd," meddai Laura.
"Ystyried yr elfennau hyn o safbwynt system fwyd gyflawn yw pwnc modiwl newydd rydw wrthi'n ei ddatblygu ar gyfer ein myfyrwyr seicoleg israddedig trydedd flwyddyn y byddwn yn ei lansio yn ystod blwyddyn academaidd 2026/ 2027.
"Wrth fabwysiadu ymagwedd systemau bwyd, mae'n hanfodol ein bod ni'n ystyried rôl y diwydiant bwyd, ac rydw i'n angerddol am yr angen i ymchwilwyr academaidd gydweithio â'r diwydiant i drawsnewid y system fwyd er mwyn cefnogi iechyd a chynaliadwyedd yn well."
Yn ôl Laura dyma a oedd wedi sbarduno ‘Kaleidoscope’, sef ymgyrch ymchwil ar y cyd rhwng Prifysgol Abertawe a Twisted Orange Ltd. a ddatblygwyd i ddechrau gyda chymorth gan ddyfarniad Catalydd Zinc UKRI ac sydd bellach yn cael ei gefnogi gan ddyfarniad Cyflymydd Zinc UKRI (2025).
Mae Kaleidoscope yn helpu cwmnïau bwyd a diod i wneud dewisiadau mwy gwybodus wrth greu cynhyrchion, yn enwedig rhai iachach sy'n fwy ecogyfeillgar. Mae’n defnyddio dulliau ymchwil cwsmeriaid newydd i ddeall yr hyn y mae pobl ei eisiau, fel y gall busnesau osgoi camgymeriadau drud a chyflwyno syniadau llwyddiannus newydd i'r farchnad yn hyderus.
Ychwanegodd Laura, "Mae un o nodweddion allweddol Kaleidoscope wedi cynnwys defnyddio tasgau creadigol, realiti rhithwir, olrhain llygaid, grwpiau ffocws gweledol a phrofi gyda defnyddwyr i osgoi ymatebion parod, dysgedig neu ystrydebol i gynhyrchion bwyd. Gall y dulliau hyn ysgogi dealltwriaeth werthfawr y gellir ei defnyddio i annog y cwsmer i wneud dewisiadau bwyd iach a chynaliadwy.
"Yn ddiweddar rydyn ni wedi defnyddio methodolegau creadigol Kaleidoscope fel rhan o brosiect Clwb Ymchwil Arloesi Agored gan Innovate UK ar y cyd â Cleobury PM, Phytoquest a Twisted Orange, i edrych yn agosach at ddanadl; planhigyn sy'n cynnig nifer o fuddion iechyd.
"O safbwynt y cwsmer, mae defnyddio danadl fel cynhwysyn wrth goginio wedi dod yn llai poblogaidd mewn blynyddoedd diweddar ac roedd gennym ddiddordeb mewn deall canfyddiadau'r cyhoedd o ran danadl fel cynhwysyn ac fel atchwanegiad mewn bwyd. Drwy'r astudiaethau, gwnaethon ni ganfod bod gan ddefnyddwyr nifer o syniadau ynghylch sut gallen nhw ymgorffori powdr danadl mewn prydau bwyd."
Yn wir, mae bwydydd sydd wedi dod yn llai poblogaidd yn faes o ddiddordeb arbennig o fewn grŵp ymchwil Laura, ac mae Tennessee Randall sy’n Gydymaith Ymchwil yn y tîm, yn cynnal ei gwaith ymchwil PhD ar ganfyddiadau ynghylch bwyta offal.
Dywedodd Laura, "Mae bwyta offal yn cynnig maeth, cynaliadwyedd a buddion o ran arbed costau i ddefnyddwyr, ond mae'n llawer llai poblogaidd nawr nag oedd e flynyddoedd yn ôl. Mae ymchwil Tennessee wedi amlygu cyfleoedd i gynyddu faint o offal sy'n cael ei fwyta drwy ei ddefnyddio mewn prydau poblogaidd megis spaghetti bolognaise.”
Mae Laura hefyd yn angerddol am fwydydd a diodydd arloesol iawn a sicrhau y caiff barn y defnyddiwr ei hystyried yn gynnar wrth arloesi ym maes y biowyddorau.
"Ym Mhrifysgol Abertawe, mae gennym ni'r Ganolfan Ymchwil Ddyfrol Gynaliadwy a'r BioHyb Cynhyrchion Naturiol, sy'n golygu ein bod ni'n cymryd rhan mewn sgyrsiau rhyngddisgyblaethol buddiol am sut i fanteisio ar setiau sgiliau ategol er budd y system fwyd a'r cwsmer yn y pen draw."
Am ragor o wybodaeth am Kaleidoscope, gweler https://www.twisted-orange.co.uk/kaleidoscope
Am ragor o wybodaeth am grŵp SNAC, gweler https://snacswansea.wordpress.com/