Fy Stori
"Tan fisoedd cyntaf 2020 nid oeddwn wedi rhoi llawer o ystyriaeth i bandemig ers fy mlynyddoedd fel myfyriwr ôl-raddedig pan gynhaliais astudiaeth fach ac ysgrifennais bapur ar ymateb polisi’r Deyrnas Unedig i bandemig y ffliw. Daeth yn amlwg yn gyflym, fodd bynnag, mai pandemig COVID-19 oedd y bygythiad mwyaf i iechyd cyhoeddus ers pandemig y ffliw dros ganrif yn ôl. Mae’n parhau i fod yn fater iechyd cyhoeddus mwyaf sylweddol ein hoes ni.
Fel cymdeithasegydd roeddwn i wedi arfer ag astudio’r ffyrdd mae pobl yn rhyngweithio â’i gilydd, y ffyrdd mae grwpiau cymdeithasol, hunaniaethau a chymunedau yn cael eu ffurfio a’u llunio trwy ryngweithio cymdeithasol. Wedi’r cyfan mae bodau dynol yn “anifeiliaid cymdeithasol” yn ôl dyfyniad enwog Aristotle. Teimlodd "cadw pellter cymdeithasol", sef term a oedd yn anghyfarwydd i’r mwyafrif ohonom ni (ond un sy’n hynod o gyfarwydd i ni erbyn hyn) fel rhywbeth cwbl annaturiol i mi. Er ei fod yn ymateb polisi pwysig er mwyn gwastadu cromlin pandemig COVID-19 teimlais y byddai’r mesurau cadw pellter cymdeithasol ac ynysu cymdeithasol a oedd yn gysylltiedig â chyfnod cyfyngiadau symud y Deyrnas Unedig yn cael nifer o effeithiau cymdeithasol a seicolegol. I’r diben hwn cychwynnais astudiaeth ansoddol fach gan ddefnyddio grŵp ffocws ar-lein (trwy Zoom sydd bellach yn blatfform y mae llawer ohonom ni yn gyfarwydd iawn ag ef!) er mwyn archwilio sut mae mesurau cadw pellter cymdeithasol ac ynysu cymdeithasol yn effeithio ar bobl ar draws y Deyrnas Unedig.
Awgrymodd canfyddiadau cynnar bod y cyfnod cyfyngiadau symud wedi cael ystod o effeithiau ac roedd llawer ohonynt wedi’u seilio ar y thema “colled”; roedd colli rhyngweithio cymdeithasol personol yn arwain at golled cysylltiedig yn nhermau cymhelliant a hyd yn oed hunan-werth. Yn benodol, canfuwyd bod y rhai mwyaf bregus yn gymdeithasol ac yn economaidd – pobl mewn swyddi â thâl isel, hyblyg neu anniogel – wedi’u heffeithio’n wael iawn gan y cyfnod cyfyngiadau symud.
Cynhelir yr ymchwil hon mewn cydweithrediad â Dr Kimberly Dienes a’r Athro Christopher Armitage o Ganolfan Seicoleg Iechyd ym Mhrifysgol Manceinion a Dr Tova Tampe, ymgynghorydd annibynnol yn Sefydliad Iechyd y Byd, a dyluniwyd astudiaeth amlddisgyblaethol fwy er mwyn dilyn agweddau ymhlith aelodau’r cyhoedd yn y Deyrnas Unedig a’u profiadau o ran polisi pandemig COVID-19 dros gyfnod. Oherwydd natur amser-sensitif ymchwil pandemig COVID-19 cyhoeddwyd ein gwaith ar ffurf adroddiadau a chaiff cyhoeddiadau dilynol eu cynnwys mewn cyfnodolion academaidd maes o law. Cafodd ein gwaith ei grybwyll gan nifer o asiantaethau’r wasg gan gynnwys y BBC. O ganlyniad, roedd ein hadroddiad a gyhoeddwyd ganol mis Ebrill yn un o’r adroddiadau ymchwil cynnar a roddodd tystiolaeth ddwys ynghylch effeithiau’r cyfnod cyfyngiadau symud ar iechyd meddwl.
Ariannwyd yr ymchwil hwn yn rhannol gan ‘Gronfa Angen Mwyaf’ Prifysgol Abertawe. Rydym yn hynod o ddiolchgar i’r Gronfa Angen Mwyaf ac i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe sy’n cyfrannu at yr ariannu hwn. Mae hyn wedi caniatáu i ni ymrwymo i ddilyn ein cyfranogwyr am gyfnod o 12 mis. Nid yw effeithiau cymdeithasol a seicolegol pandemig COVID-19 a’i bolisïau cysylltiedig wedi dirwyn i ben wrth i’r cyfnod cyfyngiadau symud ddirwyn i ben. Disgwylir y bydd effeithiau mesurau cadw pellter cymdeithasol ac ynysu cymdeithasol a’r straen a’r gorbryder a achoswyd ganddynt ar lawer o bobl yn parhau am gyfnod hir o bosib hyd yn oed ar ôl i frechlyn gael ei ddarganfod a lefelau ymledu’r pandemig wedi lleihau yn sylweddol. Gobeithir y bydd ein canfyddiadau o fudd i lunwyr polisi ac i randdeiliaid allweddol eraill; mae angen hanfodol am weithredu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl ar gyfer y bobl yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan y pandemig."