1. Gweledigaeth Strategol a Diben Prifysgol Abertawe
Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn cydnabod bod arfogi myfyrwyr â'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth, yn ogystal â'r sgiliau a'r rhinweddau, i weithio mewn ffordd sy'n diogelu lles amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd, yn angenrheidiol wrth allu llywio dyfodol cynaliadwy. Mae Prifysgol Abertawe yn ymrwymedig ar y lefel uchaf i wreiddio cynaliadwyedd mewn addysgu, fel yr amlinellir yng Ngweledigaeth Strategol a Diben y Brifysgol.
Yn benodol, ar y lefel strategol uchaf, prif ymrwymiad ein Prifysgol yw “alinio ein gwaith â’r Nodau Datblygu Cynaliadwy."
Gweledigaeth Strategol a Diben Prifysgol Abertawe:
Ein hymrwymiadau: (tudalen 7)
Argyfwng yr hinsawdd yw'r bygythiad mwyaf sy'n wynebu ein cymdeithas o hyd. Byddwn yn alinio ein gwaith â'r nodau Datblygu Cynaliadwy a byddwn yn brifysgol ddi-garbon erbyn 2040.
Cyfrifoldeb cymdeithasol: (tudalen 22)
Byddwn yn gweithio i wreiddio'r Nodau Datblygu Cynaliadwy ym mhob rhan o'n cwricwlwm, gan gysylltu addysgu â heriau cymdeithasol. Byddwn yn cynyddu'r gyfran o'n staff sy'n dod o gefndiroedd BAME ar bob lefel a byddwn yn cynnwys rhagor o safbwyntiau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn ein cwricwlwm i leihau'r bwlch mewn cyrhaeddiad. Rydym hefyd yn cydnabod y dylai dysgu fod yn weithgarwch gydol oes a byddwn yn cynyddu cyfleoedd i oedolion sy'n dysgu feithrin sgiliau newydd a dilyn trywydd eu diddordebau deallusol.
Ein Hymchwil: (tudalen 26)
Mae ein hymchwil yn newid bywydau, yn ysgogi arloesi a thwf rhanbarthol ac mae'n cydweddu â Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig. Mae'n effeithio ar ein diwylliant a'n cymdeithas, yn ogystal ag ar ein hiechyd a'n lles, ein heconomi a'n planed. Rydym yn ysgogi newidiadau mewn polisi yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Rydym ar flaen y gad mewn llawer o feysydd, gan gynnwys: gweithgynhyrchu uwch ac arloesi ym maes ynni glân a'r economi ddigidol; nanoiechyd a dadansoddi data iechyd ar raddfa fawr; gwerthuso'r farchnad lafur, defnydd gan derfysgwyr o'r rhyngrwyd a chadwraeth ein treftadaeth ddiwydiannol. Rydym yn archwilio ffyrdd newydd o asesu a lliniaru'r risgiau sy'n gysylltiedig ag argyfwng yr hinsawdd ac rydym yn gweithio i amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ac i gyfoethogi bywydau pawb drwy ein dealltwriaeth o hanes a'r celfyddydau.
Ein Blaenoriaethau Ymchwil: (tud 29)
Byddwn yn sefydlu'r Sefydliad Uwch-astudiaethau cyntaf yng Nghymru â phwyslais penodol ar ymchwil ryngddisgyblaethol sy'n cael effaith ac sy'n berthnasol i bolisïau ac yn ymateb i'r nodau Datblygu Cynaliadwy.
2. Gweithredu ac Olrhain Cynnydd mewn Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy
Mae'r Tîm Cynaliadwyedd wrthi’n recriwtio asiant newid Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy ar hyn o bryd ac mae'n trafod ag Undeb y Myfyrwyr er mwyn ein galluogi ni i fynd ati i gyflawni achrediad Dyfodol Cyfrifol Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr. Yn y cyfamser, rydym yn defnyddio ein system rheoli amgylcheddol allanol a chyfres o brosesau archwilio mewnol, ynghyd â mapio gwaith Nodau Datblygu Cynaliadwy ar draws y Brifysgol, gan gynnwys addysgu ac ymchwil yn yr holl gyfadrannau, fel rhan o ofyniad y Cytundeb Nodau Datblygu Cynaliadwy.
Rhestr gyfoes o gyrsiau a rhaglenni Prifysgol Abertawe wedi'u mapio i Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy; gweler: Crynodeb o gyrsiau sy'n gysylltiedig â'r Amgylchedd a Chynaliadwyedd Mawrth 2022
Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Abertawe – Mae'r Ysgol Reolaeth yn aelod o Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig: ar gyfer Addysg Rheolaeth Gyfrifol (PRME).
"Gan weithio trwy'r Chwe Egwyddor, mae PRME yn ymgysylltu ag ysgolion busnes a rheolaeth i sicrhau eu bod yn darparu arweinwyr y dyfodol sydd â'r sgiliau y mae eu hangen arnynt i gydbwyso nodau economaidd a chynaliadwyedd, wrth dynnu sylw at y Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDG) a chydweddu sefydliadau academaidd â gwaith Cytundeb Byd-eang y Cenhedloedd Unedig." Mae PRME y Cenhedloedd Unedig yn gofyn i aelodau gwblhau asesiad bob dwy flynedd ac adrodd ar gynnydd yn erbyn chwe egwyddor PRME sy'n cynnwys cydweddu cwricwla ac ymchwil ag ymrwymiadau ac agenda'r Nodau Datblygu Cynaliadwy. Adroddiad perfformiad diweddaraf Prifysgol Abertawe. Ragor o wybodaeth am PRME y Cenhedloedd Unedig a sut i gymryd rhan.
Cynnydd Prifysgol Abertawe ym maes Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy drwy dablau Cynaliadwyedd QS
Dyfarnwyd bod Prifysgol Abertawe rhwng 80fed safle ymysg prifysgolion y byd yn ôl tablau Cynaliadwyedd QS. Mae'r tablau'n cynnwys asesu a meincnodi addysg ac ymchwil cynaliadwy, cyflogadwyedd a chyfleoedd, effaith amgylcheddol a chymdeithasol, cydraddoldeb, ansawdd bywyd, effaith addysg a sefydliadau cynaliadwy Prifysgol Abertawe.
Cynnydd Prifysgol Abertawe ym maes Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy drwy asesiadau effaith, adroddiadau a thablau Nodau Datblygu Cynaliadwy Addysg Uwch TIMES.
Mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn cymryd rhan yn nhablau Effaith ar gyfer Nodau Datblygu Cynaliadwy Addysg Uwch TIMES ers 2022 ac mae hi rhwng 65ain safle ar hyn o bryd ymysg prifysgolion y byd ac mae hi wedi ennill yrsafle 9 ar gyfer SDG12. Tablau perfformiad byd-eang yw Tablau Effaith Addysg Uwch Times, sy'n asesu prifysgolion sy'n cymryd rhan yn erbyn Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig (SDG). Mae dangosyddion perfformiad yn rhoi gwybodaeth gymharol ar draws pedwar maes eang: ymchwil, stiwardiaeth, allgymorth ac addysgu. Mae hyn yn cefnogi Prifysgol Abertawe drwy ddarparu meincnod a fframwaith blynyddol, er mwyn llywio cynnydd a strategaeth yn erbyn amrywiaeth o ddangosyddion cynaliadwyedd gan gynnwys Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy. Prifysgol Abertawe yn adrodd ar gynnydd yn erbyn Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.
Gwybodaeth a dolenni defnyddiol:
Sefydliad Ymchwil i Weithredu ar yr Hinsawdd Prifysgol Abertawe
3. Cefnogi Staff Academaidd
Mae'r Brifysgol wedi ailwampio ei Gwobr Dinesydd Byd-eang (GCA), a gydnabyddir gan HEAR, yn ddiweddar. Mae gwobr GCA bellach yn cydweddu â Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig ac mae’n seiliedig ar egwyddorion cymwyseddau Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy UNESCO. Bellach, mae'r fformat diwygiedig yn integreiddio Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy yn fwy ffurfiol fel rhan o'r cwricwla ar draws cyfadrannau a chyrsiau. Mae'n gweithio'n uniongyrchol ag academyddion, ymchwilwyr a darlithwyr gwadd yn ogystal â chynnig cyfleoedd i wirfoddoli ac ymgysylltu â chymuned ehangach Prifysgol Abertawe.
Mae gwaith Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy'n cynnwys gofynion safonol, ond mae ef hefyd yn cynnig cyfleoedd am addasiadau penodol a chynnwys teilwredig gan ddibynnu ar y gyfadran/cwrs. Yr enghraifft ddiweddaraf oedd y cwrs wythnos o hyd a luniwyd yn benodol ar gyfer myfyrwyr MBA yn yr Ysgol Reolaeth. Gweler Amserlen Gwobr MBA Yr ysgol Reolaeth Ionawr 2024.
Yn ogystal â hyn, mae rhaglen Hyfforddiant Llythrennedd Carbon sefydliad-eang yn cael ei chyflawni ar hyn o bryd i staff a myfyrwyr. Mae cwrs ar-lein yn cael ei ddatblygu a chynhelir sesiynau hyfforddiant rheolaidd drwy gydol y flwyddyn.