Bwrsariaethau Tîm Cyfranogiad

Mae Prifysgol Abertawe’n cynnig cymorth ychwanegol i ymadawyr gofal, myfyrwyr sydd wedi'u dieithrio o'u teuluoedd a myfyrwyr sy'n ofalwyr. Caiff pob bwrsariaeth sydd ar gael i fyfyrwyr cymwys ei derbyn fel agwedd ychwanegol ar gymorth.
Caiff rhandaliad cyntaf y fwrsariaeth ei dalu yn ystod y tymor cyntaf, pan fydd y cais wedi'i gymeradwyo, os yw'r myfyriwr wedi cofrestru ac mae'r cwrs wedi dechrau.
Caiff yr ail randaliad ei dalu yn ail wythnos mis Mehefin ac nid oes modd newid y dyddiadau talu.

Wedi Profi Gofal

Am bob ymholiad cychwynnol ynghylch cael mynediad at gymorth i fyfyrwyr sydd wedi cael profiad o fod mewn gofal, cysylltwch â’r Tîm Cyfranogiad. Am ragor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael a sut i gysylltu â’r tîm, ewch i: Cefnogaeth i Bobl sy'n Gadael Gofal

Rydym yn cynnig bwrsariaeth i fyfyrwyr sydd wedi cael profiad o fod mewn gofal sy’n gymwys ac yn fyfyrwyr ‘cartref’ wedi’u cofrestru ar raglenni gradd israddedig neu ôl-raddedig amser llawn neu ran-amser. Gall myfyrwyr israddedig gael bwrsariaeth ar gyfer pob blwyddyn astudio. Mae swm y fwrsariaeth i’w gadarnhau ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Mae myfyrwyr ôl-raddedig, PhD a myfyrwyr sy’n cwblhau ail radd (gan gynnwys Meddygaeth i Raddedigion (GEM) a TAR) yn gymwys i gael bwrsariaeth Ymadawr Gofal ôl-raddedig. Mae swm y fwrsariaeth i’w gadarnhau ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Mae Amodau a Thelerau'n berthnasol ac maen nhw ar gael ar gais.

Myfyrwyr Dieithrwyd

 Myfyrwyr sydd wedi'u dieithrio o'u teuluoedd

Am bob ymholiad cychwynnol ynghylch cael mynediad at gymorth i fyfyrwyr sydd wedi'u dieithrio o'u teuluoedd, cysylltwch â’r Tîm Cyfranogiad. Am fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael a sut i gysylltu â’r tîm, ewch i: Wedi'ch dieithrio o'ch teulu

Mae’r Fwrsariaeth i Fyfyrwyr sydd wedi'u Dieithrio o'u Teuluoedd ar gael i bob myfyriwr ‘cartref’ cymwys sy’n astudio ar sail amser llawn neu ran-amser ar raglen radd israddedig a addysgir. Rydym yn cynnig Bwrsariaeth i Fyfyrwyr sydd wedi'u Dieithrio o'u Teuluoedd, sy’n cael ei rhannu’n 2 daliad bob blwyddyn academaidd. Bydd myfyrwyr rhan-amser yn cael taliad pro-rata ym mhob blwyddyn astudio o’u cwrs israddedig. Mae swm y fwrsariaeth i’w gadarnhau ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Nid yw myfyrwyr ôl-raddedig, PhD na’r rhai hynny sy’n cwblhau ail radd (gan gynnwys Meddygaeth i Raddedigion (GEM) a TAR) yn gymwys i gael y fwrsariaeth, ond efallai y cânt flaenoriaeth i gael mynediad at Gronfeydd Caledi’r Tîm Cyngor Ariannol.

Mae Amodau a Thelerau'n berthnasol ac maen nhw ar gael ar gais.

Gofalwyr

Gofalwyr

Am bob ymholiad cychwynnol ynghylch cael mynediad at gymorth i fyfyrwyr sy’n ofalwyr, cysylltwch â’r Tîm Cyfranogiad. Am ragor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael a sut i gysylltu, ewch i: Bod yn Fyfyriwr sy’n Ofalwr

Rydym yn cynnig Bwrsariaeth i Fyfyrwyr sy’n Ofalwyr i fyfyrwyr israddedig cymwys ar gyfer pob blwyddyn astudio. Caiff y fwrsariaeth ei thalu mewn dau randaliad yn ystod y flwyddyn academaidd. Bydd myfyrwyr rhan-amser yn cael taliad pro-rata ym mhob blwyddyn astudio o’u cwrs israddedig.

Mae myfyrwyr ôl-raddedig, PhD a’r rhai hynny sy’n cwblhau ail radd (gan gynnwys Meddygaeth i Raddedigion (GEM) a TAR) yn gymwys i gael bwrsariaeth ôl-raddedig i Fyfyrwyr sy’n Ofalwyr fesul cwrs ar gyfer myfyrwyr amser llawn a rhan-amser.

Mae swm y fwrsariaeth i’w gadarnhau ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Mae Amodau a Thelerau'n berthnasol ac maen nhw ar gael ar gais.

Os nad ydych chi’n perthyn i unrhyw un o’r grwpiau hyn

Os nad yw unrhyw un o'r grwpiau hyn yn berthnasol i chi, ond teimlwch fod gennych ystyriaethau penodol a allai olygu y bydd angen cymorth ariannol arnoch*, cysylltwch â hardshipfunds@abertawe.ac.uk

*Ni warentir cymorth ariannol

Mae tîm Cyngor Ariannol wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau gan y nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.

Gwybodaeth bellach

Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau