Mae'r Gwasanaethau Academaidd yn gyfrifol am weinyddiaeth academaidd ar gyfer rhaglenni a addysgir ac ymchwil ôl-raddedig; cofnodion a systemau academaidd; cyllid myfyrwyr; darpariaeth gydweithredol; disgyblaeth; arholiadau; graddio; rheoliadau ac ansawdd, yn ogystal ag Uned Cyfieithu Cymraeg y Brifysgol.
Cysylltwch â ni:
Ffon: +44 (0) 1792 606000 - Croesewir galwadau yn Gymraeg a Saesneg / We welcome calls in Welsh or English
Mae’r Adran Ystadau a Gwasanaethau Campws yn gyfrifol am reoli ystâd ffisegol Prifysgol Abertawe a’i chyfleusterau, yn ogystal â darparu ystod o wasanaethau hanfodol gan gynnwys arlwyo, glanhau, diogelwch a theithio i’r gymuned Brifysgol.
Darparu cymorth gweinyddol ac ysgrifenyddol o safon uchel i Is-ganghellor, Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredu'r Brifysgol a'i Dirprwy Is-gangellorion.
Cefnogi'r Cyngor, y Senedd, y Llys (corff rhanddeiliaid y Brifysgol) ac amrywiaeth o bwyllgorau anacademaidd sy'n ymdrin â materion polisi a rheoli.
Darparu gwasanaeth cyfreithiol mewnol i'r Brifysgol.
Darparu cymorth proffesiynol a chyflawni cyfrifoldebau cydymffurfio yn y meysydd canlynol – Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth, Rheoliadau Mewnfudo a'r Iaith Gymraeg.
Rheoli, monitro a datblygu strwythur pwyllgorau'r Brifysgol er mwyn cefnogi prosesau penderfynu effeithiol.
Darparu Gwasanaeth Rheoli Cofnodion ar gyfer cofnodion corfforaethol y Brifysgol.