Datganiad personol ar gyfer UCAS
Beth yw datganiad personol?
Mae datganiad personol yn rhan bwysig o’ch cais ar gyfer UCAS. Bydd angen cyflwyno hwn er mwyn astudio yn y DU. Bydd yn cefnogi’ch cais i astudio mewn prifysgol neu goleg, ac mae’n ffordd wych o bwysleisio’ch rhinweddau personol, eich sgiliau a’r hyn rydych chi’n angerddol amdano. Yn fwy na dim byd arall, mae’n rhoi’r cyfle ichi ddangos i diwtoriaid a darlithwyr derbyn mai chi yw’r ymgeisydd perffaith ar gyfer eich dewis gwrs neu bwnc.
Pa mor hir dylai datganiad personol fod?
Bydd eich datganiad personol wedi'i strwythuro gan dri chwestiwn a fydd yn eich helpu i ddarparu'r wybodaeth sy'n berthnasol i brifysgolion a cholegau. Bydd gan bob un o'ch atebion o leiaf 350 o cymeriadau, a bydd hyn wedi'i labelu'n glir ar bob blwch ateb gyda chyfrif cymeriadau i'ch helpu i gadw golwg.
Mae terfyn cyffredinol o 4000 o gymeriadau (gan gynnwys bylchau) ar gyfer y tri ateb a ddarparwch.
Sut i ysgrifennu’ch datganiad personol ar gyfer Prifysgol
Cyngor ar ysgrifennu datganiad personol da
• Ystyriwch pam rydych chi’n llawn cyffro am y cwrs rydych chi’n gwneud cais amdano a dechreuwch ysgrifennu – byddwch chi’n synnu pa mor effeithiol yw rhoi eich holl feddyliau ar bapur
• Byddwch yn gadarnhaol pan fyddwch chi’n disgrifio beth rydych chi’n frwdfrydig amdano yn y cwrs rydych chi eisiau ei astudio, a beth oedd wedi ysbrydoli’ch penderfyniad.
• Siaradwch am eich sgiliau trosglwyddadwy a’ch gwybodaeth – e.e.arweinyddiaeth, gwaith tîm, datrys problemau, cyfathrebu, trefnu, a fydd yn eich helpu ar y cwrs.
• Siaradwch amdanoch chi eich hun a’r hyn sydd yn eich gwneud yn unigryw, yn gyffrous ac yn ddiddorol. Beth sy’n peri ichi fod yn wahanol i bawb arall?
• Rhowch dystiolaeth o’r hyn sy’n cadarnhau’r hyn rydych chi’n ei ddweud – defnyddiwch dystiolaeth o brofiad gwaith perthnasol, gweithgareddau allgyrsiol, darllen nad yw’n ymwneud â’r ysgol yn ogystal â’r holl bethau eraill rydych chi’n eu gwneud.
• Peidiwch â gorgymhlethu pethau, a defnyddiwch Gymraeg glir.
Yn gryno, dylech chi ymdrechu i wneud eich datganiad personol yn un go iawn a diffuant, sef cyfuniad da o’r pen a’r galon sy’n crisialu i’r dim eich brwdfrydedd. Cymerwch eich amser a byddwch chi’n cynhyrchu rhywbeth arbennig a fydd yn crynhoi pwy ydych chi a beth sy’n eich ysgogi.
Sut i ysgrifennu’ch datganiad personol
Gall ysgrifennu datganiad personol ar gyfer eich cais prifysgol fod yn rhywbeth sy’n codi ofn, ond ddylai hi ddim bod felly.
Rydyn ni’n awgrymu ichi lenwi’r adran hon unwaith eich bod wedi gwneud eich dewisiadau ar gyfer cyrsiau prifysgol, gan y bydd hyn yn caniatáu ichi deilwra’ch datganiad personol yn ôl eich dewis bwnc(bynciau) neu gwrs(gyrsiau).
Bydd eich datganiad personol wedi'i strwythuro gan dri chwestiwn:
- Pam rydych chi eisiau astudio'r cwrs neu'r pwnc hwn?
- Sut mae eich cymwysterau neu astudiaethau wedi helpu i baratoi ar gyfer y cwrs neu'r pwnc hwn?
- Beth arall ydych chi wedi'i wneud i baratoi y tu allan i addysg, a pham mae'r profiadau hyn yn ddefnyddiol?
Dylech chi defnyddio'r cwestiynau hyn i esbonio beth sydd wedi’ch cymell i wneud cais i fynd i Brifysgol. Mae’n bwysig eich bod yn pwysleisio’ch egni a’ch angerdd ar gyfer y maes pwnc yn ogystal ag unrhyw sgiliau neu brofiad sydd gennych chi a fydd yn eich helpu i fod yn fyfyriwr llwyddiannus.
Mae gan wefan UCAS rai enghreifftiau a chanllawiau gwych ar sut i strwythuro'ch atebion.
Cynllun a awgrymir:
Cwestiwn 1 – Dechreuwch gyda brawddeg agoriadol wych sy’n cyfleu’r graddau rydych chi’n llawn cyffro am y cwrs ac sy’n dangos eich bod yn deall go iawn beth yw hyd a lled y cwrs.
Cwestiwn 2 – Bwysleisiwch dy sgiliau a’ch gwybodaeth a dylai ddangos tystiolaeth sy’n profi eich bod yn ymddiddori yn y cwrs yn ogystal â’ch rhinweddau personol.
Cwestiwn 3 – mae’r darn hwn yn ymwneud â’r hyn sy’n eich gwneud yn unigryw a’r hyn fydd yn dangos y byddwch chi’n addas ar gyfer y cwrs rydych chi â diddordeb ynddo.
YR HYN Y DYLECH CHI EI WNEUD A’R HYN NA DDYLECH CHI EI WNEUD
DYLECH CHI
• Fod yn ddiffuant ac yn onest
• Bod yn gadarnhaol
• Bod yn frwdfrydig
• Bod yn glir ac yn gryno
• Cynllunio’ch datganiad fel y byddwch chi’n cynllunio traethawd
• Gofalu bod eich datganiad yn briodol ar gyfer pob un o’r dewisiadau a wnewch chi o ran cyrsiau
• Rhestru eich sgiliau a’ch rhinweddau ond dylech chi osgoi ymddangos yn ymffrostgar
• Drafftio, ailddrafftio ac yna ofyn am adborth
• Bod yn ofalus wrth ddefnyddio dyfyniadau – dim ond y rheiny sy’n berthnasol ac yn graff y dylech chi’u defnyddio
• Dangos tystiolaeth sy’n cadarnhau’r hyn rydych chi’n ei ddweud
• Caniatáu digon o amser
DYLECH CHI BEIDIO Â
• Chopïo datganiad rhywun arall – ceir meddalwedd a fydd yn eich dal os gwnewch chi hyn!
• Malu awyr – mae’n well o lawer cadw pethau’n fyr ac yn berthnasol
• Defnyddio ystrydebau
• Dibynnu ar y gwirydd sillafu – prawf-ddarllenwch
• Rhuthro neu amcangyfrif yn rhy isel yr amser sydd ei angen i ysgrifennu datganiad ardderchog