Datblygu ac Ymgysylltu â Byd Busnes Datganiad Preifatrwydd

Prifysgol Abertawe fel Rheolydd Data
Prifysgol Abertawe yw'r Rheolydd Data ac mae'n ymrwymedig i ddiogelu hawliau unigolion yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (UK GDPR). Mae'r Brifysgol wedi penodi Swyddog Diogelu Data a gellir ei e-bostio yn dataprotection@abertawe.ac.uk.

Diben Casglu Data
Mae Prifysgol Abertawe'n casglu gwybodaeth bersonol er mwyn meithrin partneriaethau ystyrlon rhwng y Brifysgol, cyflogwyr a myfyrwyr. Mae hyn yn cefnogi nodau ehangach megis gwella cyflogadwyedd graddedigion a chyfrannu at dwf economaidd.

Gellir casglu'r data canlynol:

  • Enw
  • Teitl swydd
  • Enw Cwmni
  • Cyfeiriad e-bost
  • Rhif Ffôn
  • Cyfeiriad Cwmni
  • Maint Cwmni
  • Diddordeb mewn Gweithgareddau Cyflogadwyedd

 

Sut Rydym yn Defnyddio'r Wybodaeth a Gesglir
Defnyddir yr wybodaeth a ddarperir at y dibenion canlynol:

  • Cyllid a Gweinyddu: Rheoli ffioedd, ysgoloriaethau a bwrsariaethau.
  • Ymchwil a Dadansoddi: Cynnal astudiaethau ystadegol i lywio strategaethau.
  • Gwybodaeth Weithredol: Darparu diweddariadau mewn perthynas â mentrau cyflogadwyedd.
  • Gweithgareddau Hyrwyddo: Hyrwyddo gwasanaethau a rhaglenni cyflogadwyedd y Brifysgol.
  • Cysylltu â Chyflogwyr: Hwyluso interniaethau, lleoliadau gwaith, ffeiriau gyrfaoedd a phrosiectau cydweithredol.
  • Cynllunio Strategol: Llywio strategaethau cyflogadwyedd, monitro tueddiadau ymgysylltu a theilwra ymdrechion allgymorth.
  • Gwella Canlyniadau Graddedigion: Cydweithredu â chyflogwyr i greu cyfleoedd sy'n seiliedig ar waith a sicrhau bod sgiliau myfyrwyr yn cydweddu ag anghenion diwydiant.
  • Dibenion Gweinyddol: Cynnal cofnodion cywir o gysylltiadau â chyflogwyr er mwyn cael effeithlonrwydd gweithredol ac archwiliadau cydymffurfio.

Sail Gyfreithiol y Prosesu
Mae'r Brifysgol yn dibynnu ar y canlynol:

  • Buddiannau Dilys: I gysylltu â chyflogwyr a hyrwyddo mentrau cyflogadwyedd.
  • Tasg Gyhoeddus: I gyflawni ei chenhadaeth i hyrwyddo addysg a gwella cyflogadwyedd graddedigion.

Rhannu Data
Gellir rhannu gwybodaeth â thimau mewnol yn y Brifysgol y mae eu gwaith yn ymwneud â meithrin cyfleoedd gyrfa i fyfyrwyr, er enghraifft trefnu digwyddiadau cyflogadwyedd neu reoli lleoliadau gwaith. Caiff ei rhannu â thimau mewnol eraill er mwyn hwyluso cydweithredu â sefydliadau allanol. Cyfyngir mynediad i aelodau staff awdurdodedig a chaiff ei defnyddio dim ond at ddibenion sy'n gyson â chenhadaeth y Brifysgol.

Polisi Cadw Data
Cedwir data personol cyhyd ag sy'n angenrheidiol i gyflawni'r dibenion a fwriedir. Fel arfer, cedwir manylion cyswllt am hyd at chwe blynedd ar ôl y rhyngweithiad olaf, oni bai bod y gyfraith yn pennu gofynion eraill. Bydd data nad oes ei angen mwyach yn cael ei ddileu neu ei wneud yn ddienw mewn modd diogel.

Mesurau Diogelu Data
Mae Prifysgol Abertawe'n defnyddio mesurau diogelu cadarn i ddiogelu data personol:

  1. Rheoli Mynediad: Cyfyngu mynediad i staff awdurdodedig gan ddefnyddio dulliau dilysu cadarn.
  2. Storio Diogel: Storio diogel ar weinyddion diogel yn y brifysgol sydd wedi'u diogelu gan waliau tân a phrotocolau rheoli mynediad.
  3. Diogelwch oddi ar y Campws: Defnyddio Rhwydweithiau Preifat Rhithwir ar gyfer mynediad o bell a storio cyn lleied â phosib o ddata oddi ar y campws.
  4. Hyfforddiant Staff: Darparu hyfforddiant rheolaidd ar egwyddorion y GDPR ac arferion diogelwch gorau.
  5. Ymateb i Ddigwyddiadau: Rhoi gweithdrefnau ar waith ar gyfer rhoi gwybod yn brydlon am achosion o dorri diogelwch data, gan gynnwys hysbysu Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth o fewn 72 awr os oes angen.

Eich Hawliau
Mae'r cyfreithiau cymwys yn rhoi i chi hawl i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol, gwrthwynebu iddi gael ei phrosesu, ei chywiro, ei dileu, cyfyngu mynediad ati neu ei symud. I gael rhagor o fanylion am eich hawliau, ewch i dudalennau gwe Diogelu Data Prifysgol Abertawe.

Dylid anfon ceisiadau neu wrthwynebiadau'n ysgrifenedig at:

E-bost: dataprotection@abertawe.ac.uk

Diweddarwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ym mis Mai 2025.