Digwyddiadau Ôl-raddedig Eraill
Cofrestrwch Nawr:
Diwrnod Agored TAR Cyfrifiadureg - 13 Mawrth
Yn galw ar yr holl Gyfrifiadurwyr! Oes gennych chi ddiddordeb mewn addysgu? Yn ystod y digwyddiad, byddi di'n gallu cael mwy o wybodaeth am y cyfle cyffrous hwn a chwrdd â'r tîm TAR. Cymhellion ariannol hael gwerth hyd at £25,000 o bunnoedd ar gael i fyfyrwyr cymwys! Nid oes angen cadw lle felly mae pob croeso i ti alw heibio i weld y tîm TAR rhwng 11am-2pm.
Noson Agored Rhithwir TAR Cynradd ac Uwchradd - 13 Mawrth
Ymunwch â ni yn ein Noson Agored Rithwir TAR Cynradd ac Uwchradd! Cewch gyfle i gwrdd â'r tîm TAR, ein myfyrwyr a'r ysgolion sy'n bartneriaid â ni yn ein sesiwn holi ac ateb fyw ar Zoom i ganfod mwy am astudio gyda ni o fis Medi 2025!
Noson Agored TAR cyfrwng Cymraeg - 26 Mawrth
Dewch draw i sgwrsio â’n tîm cyfeillgar yn ein noson agored i ddysgu mwy am ein rhaglenni TAR Cynradd ac Uwchradd, y cyllid sydd ar gael i chi, ein darpariaeth Gymraeg, ein tîm Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA), ein hysgolion partner a lleoliadau addysgu, cyfleoedd gwaith a mwy. Lluniaeth am ddim i bawb sy'n mynychu. Mae croeso i chi ddod â ffrind neu aelod o'r teulu gyda chi!
I gael rhagor o wybodaeth am ein digwyddiadau TAR, ewch i'n tudalen we Noson Agored TAR.