Cwestiynau cyffredin
Pwy ddylai ddod i ddiwrnod agored?
Mae ein diwrnodau agored ar agor i ddarpar fyfyrwyr ac i ddeiliaid cynnig presennol.
Oes rhaid archebu lle o flaen llaw ar gyfer y Diwrnod Agored?
Oes - gofynnwn i chi archebu lle o flaen llaw a dod â'ch tocyn gyda chi.
A yw Prifysgol Abertawe’n cynnig diwrnodau ymweld i ymgeiswyr?
Bydd Diwrnodau Agored y Gwanwyn ym Mhrifysgol Abertawe'n cynnig cynnwys a darpariaeth sy'n debyg i'r hyn a gynigir gan brifysgolion eraill a allai ddefnyddio'r termau 'Diwrnod i Ymgeiswyr' neu 'Diwrnod i Ddeiliaid Cynnig'.
Pa amser fydd y diwrnod yn dechrau ac yn gorffen?
Bydd y Diwrnod Agored yn agor am 08:30 ac yn gorffen tua 16:00 ond gallwch drefnu’r diwrnod yn ôl eich gofynion chi. Bydd y sesiynau i gyd wedi’u rhestru yn Rhaglen y Diwrnod Agored sydd ar gael i'w lawrlwytho ar ein tudalen Diwrnod Agored.
Oes angen archebu lle ar gyfer teulu neu ffrindiau?
Na, nid oes angen tocyn ar eich teulu a ffrindiau.
A fyddaf yn derbyn cadarnhad fy mod wedi cofrestru?
Byddwch yn derbyn e-bost sy’n cadarnhau eich bod wedi cadw lle ac yn cynnwys eich tocyn o fewn ychydig funudau. Os nad ydych wedi derbyn tocyn neu os oes unrhyw gwestiynau arall gyda chi cysylltwch â ni.
Oes rhaid imi gofrestru ar y diwrnod?
Pan fyddwch yn cyrraedd, bydd angen i chi fynd i un o'n pebyll mawr i gofrestru.
Ydw i'n gallu mynychu mwy nag un sgwrs pwnc?
Ydych. Disgwyliwn y bydd gan lawer o ymwelwyr ddiddordeb mewn mwy nag un pwnc ac yr hoffent fynychu mwy nag un sgwrs. Caiff y rhan fwyaf o sgyrsiau eu hailadrodd drwy gydol y dydd ac mae modd cadw lle arnyn nhw i gyd drwy eventbrite.
Oes modd mynd am daith o’r campws?
Oes. Cynhelir teithiau o Gampws y Bae a Champws Parc Singleton trwy gydol y dydd a byddant yn cael eu harwain gan lysgenhadon fyfyrwyr. Byddwch yn cael cyfle i'w holi am fywyd yma ym Mhrifysgol Abertawe ac yn gweld y cyfleusterau sydd ar gael yma.
Ydych chi'n argymell unrhyw westai yn yr ardal?
Mae dewis eang o lety ar gael yn Abertawe. Gweler gwefan twristiaeth Abertawe 'Croeso Abertawe' am fwy o wybodaeth.
Nid oes lle ar gael ym mhreswylfeydd y Brifysgol ar gyfer y Diwrnodau Agored yn anffodus.
Sut ydw i’n cyrraedd Prifysgol Abertawe?
Mae manylion teithio ar gyfer y ddau gampws ar ein tudalen Sut i Ddod o Hyd i Ni. Gwnewch yn siwr eich bod wedi gwirio pa gampws i ymweld ag ef yn seiliedig ar ble mae eich cwrs yn cael ei addysgu - mae lleoliad pob cwrs yn cael ei nodi yn y bocs Manylion Allweddol y Cwrs ar dop y dudalen sydd â'ch manylion cwrs.
Oes modd imi ddod â ffrindiau neu deulu?
Mae croeso i bawb yn ein Diwrnodau Agored a dim ond ar gyfer darpar fyfyrwyr y bydd angen tocyn.
Beth yw’r trefniadau o ran parcio?
Campws Parc Singleton:
Mae parcio am ddim i ymwelwyr diwrnod agored ym maes parcio'r Rec (SA2 0AT : ///pilots.caged.curiosity) ac ar Gampws Parc Singleton (SA2 8PP : ///moving.this.radar).
Campws y Bae:
Ar gyfer ymwelwyr diwrnod agored â Champws y Bae, defnyddiwch ein gwasanaeth parcio a theithio Bay Studios (llai na 5 munud o daith) - lleoliad SA1 8QB, : /// exploring.books.screen.
Mae parcio ar y campws ar gyfer deiliaid bathodynnau glas neu ofynion symudedd / mynediad yn unig ar y safle hwn.
Mannau Parcio i Bobl Anabl
Rydym yn ymdrechu i wneud ein Diwrnodau Agored mor hygyrch â phosib i'n holl ymwelwyr.
Mae mannau parcio dynodedig ar gael ar gyfer pobl anabl ar y ddau gampws, Campws Parc Singleton a Champws y Bae. Nodwch unrhyw anghenion wrth aelod o staff neu lysgennad myfyriwr wrth y fynedfa ac fe fyddant yn eich arwain chi at y mannau parcio addas.
Rwy'n athro/athrawes a hoffaf ddod â grŵp o fyfyrwyr i un o'ch Diwrnodau Agored. Sut allaf archebu lle?
Ebostiwch sro@abertawe.ac.uk gyda'r wybodaeth ganlynol:
- Nifer o fyfyrwyr a hoffai fynychu bob sgwrs adrannol
- Amser cyrraedd a gadael disgwyliedig
- Enw
- Cyfeiriad yr ysgol neu goleg.
Bydd aelod o'n tîm yn cysylltu â chi i gadarnhau eich lle.